Cost of Living Support Icon

Cymorth sy'n Gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig ar gyfer Busnesau - Ar gau

Cronfa Argyfwng Ardrethi Annomestig 2022 - Bydd y cynllun hwn yn cau ar gyfer ceisiadau am 5pm ar 14 Chwefror 2022.

 

Gwiriwch Busnes Cymru am ddiweddariadau rheolaidd a gwybodaeth bellach am y cymorth sydd ar gael i fusnesau.

 

Cusnes Cymwys

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig i helpu busnesau cymwys yn ystod y cyfnod rhwng 13 Rhagfyr 2021 – 14 Chwefror 2022 o fewn y sectorau canlynol:

  • Lletygarwch

  • Manwerthu

  • Twristiaeth (nodwch fod rhai mathau o lety hunanarlwyo yn anghymwys, gweler y canllawiau isod)

  • Hamdden

  • Busnesau cadwyn gyflenwi busnesau ar gyfer y pedwar sector uchod sydd wedi cael Gostyngiad o fwy na 40% mewn trosiant o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau yn ystod y cyfnod rhwng 13 Rhagfyr 2021 – 14 Chwefror 2022 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019/20 neu ar ôl y dyddiad hwnnw ym mis Medi / Tachwedd 21 os yn fusnes newydd.

 

Mae swm y grant yn dibynnu ar ba feini prawf y mae eich busnes yn eu bodloni a bydd naill ai'n £2000, £4000 neu £6000. Sicrhewch eich bod yn darllen y ddogfen Canllawiau Grant isod yn llawn i weld a ydych yn gymwys cyn cyflwyno cais.

 

I bob busnes, rhaid i’w hereditament fod wedi bod ar y rhestr Ardrethi Annomestig ers 1 Medi 2021 ac mae angen i'r talwr ardrethi fod wedi meddiannu'r eiddo ers 30 Tachwedd 2021.

Cyn i chi wneud cais

Rhaid i bob busnes cymwys gyflwyno cais cyn 5pm ar 14 Chwefror 2022 i gael eu hystyried.

 

Bydd canllawiau cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 21-22 yn cael eu defnyddio i ganfod a yw busnes o fewn sector cymwys.

 

Sicrhewch eich bod yn darllen Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru - Gweinyddir gan Awdurdodau Lleol.  

Cymerwch eich amser wrth gwblhau'r cais, gall methu â darparu'r holl wybodaeth berthnasol olygu bod eich cais yn cael ei wrthod. Nodiadau Cyfarwyddyd Grant

 

Canllawiau Grant

 

 

Sut i wneud cais

Os gwneir taliad grant a bod tystiolaeth yn dod i'r amlwg wedyn i ddangos nad ydych yn gymwys i gael y taliad grant hwnnw, efallai y byddwn yn gofyn i chi ad-dalu'r grant yn llawn neu'n rhannol. Os penderfynir bod y taliad wedi'i wneud o ganlyniad i weithred o dwyll, gellir cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Byddwn yn cynnal unrhyw wiriadau busnes priodol yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i asesu'r cais.

 

Ffurflen Gais


Mae'r ffurflen gais hon yn ddwyieithog. Ar ôl i'r ffurflen gais agor, byddwch yn gallu dewis iaith a ffefrir drwy glicio ar y canlynol: 

  • LAr fwrdd gwaith – Cliciwch y gwymplen ar y dde ar ben uchaf y ffurflen i ddewis naill ai Cymraeg neu Saesneg

  • Ar ffôn symudol – Cliciwch y gwymplen ar ben uchaf y ffurflen i ddewis naill ai Cymraeg neu Saesneg

 

Dim ond os ydych yn atebol i dalu ardrethi busnes i Gyngor Bro Morgannwg y dylech lenwi’r ffurflen gais hon.**


**Os nad ydych yn atebol am Ardrethi Busnes yng Nghyngor Bro Morgannwg gan nad ydych wedi rhoi gwybod i'r adran o'ch meddiannaeth eto AC yn bodloni'r meini prawf, cyflwynwch gais, FODD BYNNAG, byddwch yn derbyn e-bost yn fuan yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth (prydles / trwydded / cyfriflen cyfleustodau / cyfriflen banc) i ddangos y dylech fod yn atebol er mwyn i'ch cais gael ei ystyried.