Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Cyllid Busnes

Gall cyllid i fusnesau a grwpiau cymunedol ddod o amrywiaeth eang o ffynonellau. Defnyddiwch y dolenni a’r adnoddau ar y dudalen hon i ddod o hyd i’r cymorth ariannol priodol ar gyfer eich menter.   

 

Gall cyllid ar gyfer datblygu busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol eich helpu i roi eich syniad ar waith, helpu eich sefydliad i dyfu neu alluogi rhaglenni a pholisïau i gael eu gweithredu ar gyfer datblygiad cymunedol a chynaliadwyedd.   Er nad yw Bro Morgannwg yn cefnogi nac yn argymell unrhyw ffynhonnell gyllid benodol, rydym wedi casglu dolenni i nifer o'r ffynonellau cyllid mwy cyffredin i'ch helpu.

 

Funding Money

 

Cronfa Cymunedau Cryf

Rhaglen grant Awdurdod Lleol newydd a lansiwyd ym mis Awst  2017.

 

 
Canfyddwr Cyllid
Defnyddiwch Ganfyddwr Cyllid Busnes Cymru i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy’n berthnasol i’ch busnes. 
Cyllid mewn Ardaloedd Menter
Dysgwch fwy am y cymorth ariannol sydd ar gael yn Ardaloedd Menter y Fro. 
Banc Datblygu Cymru
Gan helpu busnesau i gael y benthyciadau a'r buddsoddiadau y mae eu hangen arnynt i gychwyn, cryfhau a thyfu.
Cynllun Buddsoddiad Twristiaeth
Cyllid ar gyfer projectau buddsoddiad cyfalaf yn y sector twristiaeth yng Nghymru. 
Cynlluniau Cyllid Gwledig
Cyllid i ddatblygu projectau cymunedol, eich busnes neu fentrau eraill yn ardaloedd gwledig y Fro.  
Cyllid ar gyfer Digwyddiadau Mawr
Cymorth ariannol i drefnwyr digwyddiadau sydd eisiau darparu digwyddiadau arloesol newydd yn y Fro. 
Cyllid ar gyfer y Celfyddydau
Grantiau i gefnogi sefydliadau celfyddydol sydd wedi’u lleoli ac sy’n gweithio’n bennaf yng Nghymru.   
Benthyciadau Dechrau Busnes 
Benthyciadau Dechrau Busnes
Dysgwch am fenthyciadau sydd ar gael i entrepreneuriaid sy’n dechrau busnes yng Nghymru trwy’r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes.  
Bancio Robert Owen
Cyllid a benthyciadau i fusnesau a mentrau cymunedol. 
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Cyllid neu brojectau treftadaeth megis adfer tirluniau naturiol a chofnodi hanesion cymunedol. 
Grant Cyfleusterau Cymunedol
Grantiau cyfalaf i wella cyfleusterau cymunedol sy’n atal neu sy’n mynd i’r afael â thlodi a’i effeithiau. 
Purple Shoots
Dysgwch fwy am fenthyciadau busnesau bach i dalu am gostau dechrau a gwasanaethau mentora. 
Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad
Mae'r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) yn cefnogi prosiectau sy'n gwella lleoedd ble mae pobl yn byw.
Chwaraeon Cymru
Yn cynnig grantiau ar gyfer chwaraeon cymunedol yng Nghymru. 
Garfield Weston
Nod y Foundation Garfield Weston yw cefnogi sefydliadau sydd ag atebion effeithiol i helpu’r bobl â’r angen mwyaf
Y Loteri Fawr 
Manteisiwch ar gronfeydd achos da y Loteri Genedlaethol ar gyfer eich grwpiau cymunedol neu broject elusennol. 
MSBF
Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) yn gronfa fuddsoddi sy’n targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector Twristiaeth yng Nghymru.
TAIS
Mae’r cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) yn gronfa fuddsoddi sy’n targedu prosiectau amwynderau yn y sector twristiaeth yng Nghymru. 

Nid yw’r dolenni cyllid a ddarperir yma yn gynhwysol, fe’u darperir er cyfeiriad yn unig ac nid ydym yn ceisio cefnogi unrhyw ddarparwyr penodol.   Mae nifer o ffynonellau eraill sy’n bodoli sy’n cynrychioli dewis da ar gyfer eich menter, er enghraifft, benthyciadau gan fanciau a chyllido torfol.  

Cysylltu â Ni 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â’r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tîm datblygu economaidd am gymorth.