Cost of Living Support Icon

Dod o hyd i'ch Llyfrgell Leol

Mae naw llyfrgell ym Mro Morgannwg.

Mae yma bedair llyfrgell llawn amser a phum llyfrgell gymunedol. Cewch fanylion cyswllt, oriau agor a rhestr o’u gwasanaethau ar eu tudalennau unigol.

  • Archebu eitemau unrhyw bryd drwy bori’r catalog ar-lein (adnodd Saesneg)

  • Adnewyddu eich eitemau ar-lein

  • Defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau ar-lein (adnodd Saesneg) yn unrhyw le

  • Pori rhestr gyflawn o oriau agor llyfrgelloedd

Find Your Local Library

Llyfrgelloedd dan reolaeth Bro Morgannwg

Mae pedair llyfrgell llawn amser ym Mro Morgannwg 

 

  • Llyfrgell y Barri, Llyfrgell y Sir, Sgwâr y Brenin, Y Barri, CF63 4RW

    Yn Llyfrgell y Barri ceir y dewis mwyaf o lyfrau yn y Fro, ynghyd â chasgliad amrywiol o DVDs. Gall aelodau ddychwelyd a benthyg eu llyfrau drwy ddefnyddio’r adnodd hunanwasanaeth.

     

    Mae prif lyfrgell ymchwil a chasgliadau o astudiaethau lleol ar lawr cyntaf y llyfrgell. Yn ogystal, mae yma:

     

     - ystafell technoleg gwybodaeth 

     - parth plant a phobl ifanc

     - ystafell gymunedol

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim

     - peiriant llungopïo

     - gwasanaeth ffacs

     - papurau newydd a chylchgronau

     - ystafelloedd cyfarfod i’w llogi

     

    Llogi Ystafell

    Mae Ystafell Philip John, yr Ystafell Gymunedol Fach, yr ystafell gyfrifiaduron a’r ystafell fwrdd ar gael i’w llogi. Am wybodaeth bellach, ewch i’r dudalen prisiau a ffioedd.

     

    Hygyrchedd: mae’r llyfrgell ar ddau lawr. Mae yma ddrysau mynediad awtomatig, lifft ac adnoddau toiled hygyrch. Ceir cylched clyw wrth bob cownter. Ymhlith yr adnoddau eraill mae Zoomtext ar nifer o’r cyfrifiaduron, cyfrifiadur wedi’i addasu, chwyddwydr Smartview a sganiwr sy’n chwarae’r gair printiedig yn ôl. 

     

    Rhif ffôn: 01446 422425 (ymholiadau cyffredinol) / 01446 422423 (ymholiadau ymchwil)

    Ffacs: 01446 709377

    E-bost:  barrylibrary@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

    Oriau agor

    -
      Oriau Dydd Oriau Open+ info icon
    Dydd Llun

    9.30am - 7.00pm

     

     

     

     

     

    Dim ar gael ar hyn o bryd
    Dydd Mawrth

    9.30am - 5.30pm

     

     

     

     

     

     

    Dim ar gael ar hyn o bryd
    Dydd Mercher

    9.30am - 5.30pm

     

     

     

     

     

     

    Dim ar gael ar hyn o bryd
    Dydd Iau

    9.30am - 5.30pm

     

     

     

     

     

     

    Dim ar gael ar hyn o bryd
    Dydd Gwener

    9.30am - 5.30pm

     

     

     

     

     

     

    Dim ar gael ar hyn o bryd
    Dydd Sadwrn

    9.30am - 4.00pm

     

     

     

     

    Dim ar gael ar hyn o bryd

     

  • Llyfrgell y Bont-faen, Yr Hen Neuadd, Stryd Fawr, Y Bont-faen CF71 7AH

    Mae Llyfrgell y Bont-faen yn lle golau, croesawus a bywiog ac mae yma rywbeth i bob aelod o’r teulu. Ceir yma ystafell technoleg gwybodaeth, ardal ar wahân i blant a pheiriannau hunanwasanaeth. Yn ogystal, mae yma: 

     

     - amrywiaeth eang o lyfrau a llyfrau llafar

     - ardal i blant lle mae llyfrau a phedwar cyfrifiadur at eu defnydd nhw yn unig

     - casgliad hanes lleol

     - ystafell gyfrifiaduron a deg peiriant ynddi

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim

     - peiriant llungopïo

     

    Hygyrchedd: mae’r llyfrgell i gyd ar yr un llawr. Mae yma ddrysau mynediad awtomatig ac adnoddau toiled hygyrch. Ymhlith yr adnoddau eraill mae cyfrifiadur wedi’i addasu, chwyddwydr Smartview a sganiwr sy’n chwarae’r gair printiedig yn ôl. 

     

    Rhif ffôn: 01446 773941

    Ffacs: 01446 771353

    E-bost: cowbridgelibrary@valeofglamorgan.gov.uk 

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Mawrth

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Mercher

    10.00am - 7.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Iau

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Gwener

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Sadwrn

    10.00am - 4.00pm

     

     

     

     

     

  • Llyfrgell Llanilltud Fawr, Fordd Trebefered, Llanilltud Fawr, CF61 1XZ

    Cafodd Llyfrgell Llanilltud Fawr ei hailwampio yn ddiweddar, a bellach mae’n llyfrgell gyfoes, golau a deniadol sy’n cynnig gofod cynnes, croesawus i’w holl ddefnyddwyr.

     

     - amrywiaeth eang o lyfrau a llyfrau llafar

     - ardal liwgar i blant a phedwar cyfrifiadur at eu defnydd nhw yn unig

     - casgliad hanes lleol

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim

     - peiriant llungopïo

     - byrddau lle gellir astudio, darllen neu fwynhau tawelwch.

     

    Hygyrchedd: ceir mynediad i’r llyfrgell ar ramp concrit â llethr fechan sy’n arwain at ddrysau mynediad awtomatig. Mae maes parcio o fewn pellter cerdded rhwydd. Ceir cylched clyw wrth y cownter, ac mae yma doiledau cyhoeddus.

     

    Rhif ffôn: 01446 792700

    E-bost:  llantwitmajorlibrary@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

    -
    Dydd Llun

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Mawrth

    10.00am - 7.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Mercher

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Iau

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Gwener

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Sadwrn

    10.00am - 4.00pm

     

     

     

     

     

  • Llyfrgell Penarth, Heol Stanwell, Penarth CF64 2YT

    Mae gan Lyfrgell Penarth amrywiaeth eang o lyfrau i’w benthyg ynghyd â llyfrgell aml-gyfrwng sylweddol ac amrywiol, lle ceir y ffilmiau a'r cyfresi teledu.

     

     

     

     - mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael

     - cyswllt diwifr am ddim

     - peiriant llungopïo

     - gwasanaeth ffacs

     - papurau newydd a chylchgronau

     - casgliad hanes lleol.

     

    Hygyrchedd: mae ramp a grisiau’n arwain ar fynediad y llyfrgell. Y tu mewn i’r adeilad, gall ymwelwyr ddefnyddio’r lifft i gyrraedd y llawr cyntaf neu’r llawr gwaelod. Ceir cylched clyw wrth y cownter. Mae ambell le parcio ar y stryd o flaen y llyfrgell. 

     

    Rhif ffôn: 029 2070 8438

     

    E-bost: penarthlibrary@valeofglamorgan.gov.uk

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

    Oriau agor

    Dydd Llun

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Mawrth

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Mercher

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Iau

    10.00am - 7.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Gwener

    10.00am - 5.00pm

     

     

     

     

     

     

    Dydd Sadwrn

    10.00am - 4.00pm

     

     

     

     

     

     

Llyfrgelloedd o dan Reolaeth Gymunedol

Mae pum llyfrgell o’r fath ym Mro Morgannwg

Caiff llyfrgelloedd o dan reolaeth cymunedol eu rhedeg gan grwpiau cymunedol lleol gyda chefnogaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth y Fro. 

 

  • Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys, Fairoaks, Y Murch, Dinas Powys CF64 4QU

    Mae amrywiaeth eang o lyfrau i blant ac oedolion yn Llyfrgell Dinas Powys, ac mae yma wyth cyfrifiadur â mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Yn ogystal, mae yma: 

     

     - gwybodaeth ymchwil mewn copi caled ac ar-lein

     - llyfrau llafar a llyfrau print bras

     - ffacs, llungopïo

     - llyfrau Cymraeg

     - deunydd dysgu ieithoedd tramor

      

     

     

    Beth am ymweld â’n caffi newydd sbon ffantastig yn llyfrgell Dinas Powys, a ddyluniwyd gan benseiri arobryn a’i ariannu yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd trwy gyfrwng Gweinidogion Cymru. Rydym yn cynnig te a choffi o ansawdd am brisiau rhesymol. Rydym hefyd yn cynnig diodydd sudd ffrwythau, byrbrydau a hufen iâ. Ar agor yr un oriau â’r llyfrgell. (gwasanaeth olaf 15 munud cyn cau)

     

     

     

    Hygyrchedd: mae maes parcio bach gan y llyfrgell. Ceir mynediad i’r adeilad drwy ddrysau awtomatig. Mae’r llyfrgell ar un llawr, a cheir cownter isel â chylched clyw ymghlwm.

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 029 2051 2556

    E-bost: info@dinaspowyslibrary.wales

    Facebook: www.facebook.com/dinaspowyslibrary

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

     

    Oriau Agor Dinas
     Dydd Llun  10:00am - 4:30pm
     Dydd Mawrth  10:00am - 4:30pm
     Dydd Mercher  10:00am - 4:30pm
     Dydd Iau  10:00am - 4:30pm
     Dydd Gwener  10:00am - 4:30pm
     Dydd Sadwrn  10:00am - 12:30pm

     

  • Llyfrgell Gymunedol y Rhws, Fordd Font-y-gari, Y Rhws CF62 3DS

    Mae amrywiaeth eang o lyfrau i blant ac oedolion yn Llyfrgell y Rhws, yn ogystal â phedwar cyfrifiadur â chyswllt am ddim â’r rhyngrwyd. Ceir yma hefyd:

     

     - gwybodaeth ymchwil mewn copi caled

     - llyfrau llafar a llyfrau print bras

     - llungopïo

     - llyfrau Cymraeg

     

    Hygyrchedd: ceir gofod hygyrch penodol yn y maes parcio bach. Mae mynediad i’r adeilad drwy ddrysau awtomatig (gan ddefnyddio botwm gwthio) ac mae troad union i’r dde mewn cyntedd bach. Ceir cylched clyw yn y llyfrgell.

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 01446 710220

    E-bost: admin@rhooselibrary.org.uk

    Facebook: facebook.com/rhoosecommunitylibrary

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

    Oriau agor

     

    Oriau agor Rhws
    Dydd Llun

    10:00am - 12:00pm & 2:00pm - 4:00pm 

     

     

    Dydd Mawrth

    10:00am - 12:00pm 

     

     

    Dydd Mercher

    10:00am - 12:00pm & 2:00pm - 4:00pm

     

     

    Dydd Iau

    10:00am - 12:00pm 

     

     

    Dydd Gwener

    10:00am - 12:00pm & 2:00pm - 4:00pm 

     

     

    Dydd Sadwrn 10:00am - 12:00pm

     

     

  • Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Sain Tathan, Yr Hen Ysgol Gynradd, Lôn yr Eglwys CF62 4PL

    Mae Llyfrgell Sain Tathan yng nghanol y pentref, ger swyddfa’r post. Mae naws gyfeillgar yn y gangen, a cheir yma amrywiaeth dda o lyfrau a llyfrau llafar poblogaidd i oedolion a phlant.

     

    Mae yma chwe chyfrifiadur wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd a gwasanaeth llungopïo A4. 

     

    Hygyrchedd: mae ramp yn arwain ar ddrws y llyfrgell. Ceir cylched clyw wrth ddesg y llyfrgell. Gellir parcio yn y lôn wrth ymyl y llyfrgell. Nod oes adnoddau toiled yma. 

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 07396 703179

    E-bost: sachal@stathancommunityhubandlibrary.org

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

     

    Oriau Agor Sain Tathan
    Dydd Llun

    Ar Gau

    Dydd Mawrth

    9:30am - 12:30pm

    Dydd Mercher Ar Gau
    Dydd Iau

    2:00pm - 4:30pm

    Dydd Gwener

    Ar Gau

    Dydd Sadwrn 9:30am - 11:30am

     

  • Ymddiriedolaeth Llyfrgell Gymunedol y Sili a Larnog, Ffordd y De CF64 5SP

    Mae amrywiaeth eang o lyfrau i blant ac oedolion yn Llyfrgell y Sili, ac mae yma bedwar cyfrifiadur â mynediad am ddim i’r rhyngrwyd. Yn ogystal, mae yma:

     

     - gwybodaeth ymchwil

     - cyswllt diwifr am ddim

     - llyfrau llafar a llyfrau print bras

     - llyfrau Cymraeg

     - adnoddau ailgylchu swyddogol Bro Morgannwg.

     

    Hygyrchedd: mae gofod parcio hygyrch penodol yn union o flaen y llyfrgell a thoiled hygyrch y tu mewn iddi. Ceir cylched clyw wrth ddesg y llyfrgell. 

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 029 2053 1267

    E-bost: sullylibrarytrust@gmail.com

     

    Cyfarwyddiadau a map

     

     

    Oriau agor

     

    Oriau Agor Sili
    Dydd Llun

    Ar Gau

    Dydd Mawrth

    11:00am - 5:00pm

    Dydd Mercher

    Ar Gau

    Dydd Iau

    11:00am - 5:00pm

    Dydd Gwener

    Ar Gau

    Dydd Sadwrn 9:00am - 1:00pm
  • Llyfrgell Gymunedol Gwenfô Cyfyngedig, Canolfan Gymunedol Gwenfô, Gwenfô CF5 6AL

    Llyfrgell bentref brysur yw Llyfrgell Gwenfô, ac mae’r gymuned leol yn gwneud defnydd helaeth ohoni ar gyfer darllen hamdden. Mae casgliad da o’r llyfrau print a’r llyfrau llafar diweddaraf ar gael, ac mae’r stoc yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Mae pedwar cyfrifiadur wedi eu cysylltu â’r rhyngrwyd yma, a pheiriant llungopïo A4 at ddefnydd y cyhoedd. 

      

     

    Hygyrchedd: mae maes parcio tipyn o faint wrth ymyl y llyfrgell. Ceir mynediad i fyny llethr fechan i’r drws blaen. Ceir cylched clyw wrth y cownter ac adnoddau toiled hygyrch.

     

    Os hoffech wirfoddoli yn y llyfrgell, cysylltwch â chroeso:

    Rhif ffôn: 029 2280 5574

    E-bost: wenvoelibrary@outlook.com

    Facebook: www.facebook.com/wenvoe

     

    Cyfarwyddiadau a map 

     

     

    Oriau agor

     

    Wenvoe opening hours
     Dydd Llun  11:00am - 5:00pm
     Dydd Mawrth  10:00am - 1:00pm
     Dydd Mercher  10:00am - 4:00pm
     Dydd Iau  Ar Gau
     Dydd Gwener  Ar Gau
     Dydd Sadwrn  9:00am - 1:00pm