Cost of Living Support Icon

Ymgynghoriadau Gwasanaethau Cymdeithasol

Yn gorfforaethol ac o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol ill dau, rydym wedi ymrwymo i wrando ar a dysgu gan farn y cyhoedd. Rydym yn ystyried hyn yn allweddol i wella ansawdd ein gwasanaethau.

 

Mae nifer o bartneriaethau lleol a rhanbarthol wedi eu sefydlu – yn ogystal â fforymau amrywiol – i adael i aelodau’r cyhoedd a sefydliadau eraill i gael lleisio’u barn ar y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig a’u datblygu.

 

Sicrwydd Ansawdd Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Sicrwydd Ansawdd mewn Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgorffori tair elfen:

  • Bodlonrwydd Defnyddiwr y Gwasanaeth a'r Gofalwr
  • Archwilio ffeiliau achos
  • Datblygu ac Adolygu Canllaw, Gweithdrefnau a Pholisïau Adrannol

 

SSIA – Gweithio gyda'n gilydd i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae SSIA yn fenter mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei chynnal ar y cyd. Mae SSIA yn cydweithio â chynghorau ac asiantaethau ledled Cymru i wella deilliannau ac effeithlonrwydd yn yr amryw wasanaethau ar gyfer gofal cymdeithasol, gan sbarduno newidiadau ysgubol yn y modd mae gwasanaethau'n cael eu trefnu a'u cynnig.

 

Rydyn ni'n cynnal rhaglenni ar y cyd ag amryw gyrff perthnasol ar hyn o bryd i bennu ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau i bobl hŷn, helpu asiantaethau i gydweithio'n effeithiol a llunio rhaglen ddatblygu arloesol i reolwyr canolradd. Mae rhagor am ein ffrydiau gwaith uchelgeisiol ar ein gwefan, gan gynnwys:

 

  • Dangos gwelliannau trwy ailalluogi
  • Fframwaith Adroddiadau Blynyddol y Cynghorau
  • Rhaglen Genedlaethol Datblygu Rheolwyr Timau Gwaith Cymdeithasol
  • Arwain yn strategol er cydweithio
  • Gwella trefn asesu a rheoli gofal yn y gwasanaethau i oedolion
  • Diogelu – gwasanaethau i blant ac oedolion
  • Rhaglen waith newydd, 'Gwasanaethau mwy effeithlon i bobl hŷn Cymru'

  

Gwefan SSIA