Cost of Living Support Icon

Ymgynghori ar Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro

Rydym yn ceisio'ch barn i lywio datblygiad ac ansawdd y Strategaeth Ranbarthol ddrafft

 

Dyddiad Cau: 30 Ebrill 2021

 

Beth yw Eiriolaeth?

Eiriolaeth yw cymryd camau i helpu pobl i ddweud beth maen nhw ei eisiau, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau mae arnynt eu hangen. Mae eiriolwyr a chynlluniau eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth â'r bobl y maent yn eu cefnogi ac yn cymryd eu hochr. Mae eiriolaeth yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.” (Action for Advocacy, 2002).


Mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Eiriolaeth yn dweud y dylai'r trefniadau ar gyfer cynllunio, comisiynu, monitro neu adolygu gwasanaethau eirioli yn yr ardal gynnwys yr egwyddorion canlynol. Rhaid i'r broses sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau eu hunain ac y gallant gymryd rhan lawn fel partneriaid cyfartal. 

 

Dylai gwasanaethau eirioli:

  • gael eu harwain gan farn a dymuniadau'r unigolyn

  • hyrwyddo hawliau ac anghenion yr unigolyn 

  • cael cyhoeddusrwydd da a bod yn hawdd eu defnyddio 

  • gweithio i'r unigolyn yn unig

  • cael eu rheoli'n dda, bod yn brydlon, yn ymatebol a rhoi gwerth am arian

  • parchu cyfrinachedd 

  • gweithredu gweithdrefn Gwyno a Chanmol effeithiol a hygyrch 

  • hyrwyddo a monitro cydraddoldeb

 

Dogfennau Ymgynghori

Rydym wedi cynhyrchu Strategaeth Ranbarthol ddrafft ar gyfer gwasanaethau eirioli i oedolion yn y dyfodol i gyflawni'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau a gyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  

 

Rydym yn ceisio'ch barn i lywio datblygiad Strategaeth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro a fydd yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer eiriolaeth am y pum mlynedd nesaf.

 

Dweud eich dweud 

Cwblhewch yr arolwg i roi gwybod i ni beth yw eich barn am Eiriolaeth yn eich ardal chi. Dim ond tua deg munud o'ch amser y dylai'r arolwg gymryd.

 

 

Dychwelwch ffurflenni wedi'u llenwi i:
 
Andy Cole
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfa'r Dociau
Subway Road
Y Barri
CF63 4RT
 
NEU rhowch y ffurflen yn ôl i'ch gweithiwr cymorth.