Cost of Living Support Icon

Dweud eich dweud ar gais codi’r gwastad y Cyngor ar gyfer y Barri

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwneud cais am £20m o gyllid gan Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i drawsnewid glannau Dociau'r Barri. Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud wrth i ni gwblhau'r cais.

 

Wedi'i lunio gan hanes morwrol a diwydiannol y dref, mae'r cais yn cynnwys dau phrosiect allweddol a fydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio pecyn enfawr o fuddsoddiad i barhau i adfywio ardal y dociau a'r glannau cyfagos.

 

Marina Glannau'r Barri 

 

Linear Park View (The Mole)
Linear Park View (The Mole) Site Photo

 

Marina newydd ar y safle, sef y Mole, yw canolbwynt y cynlluniau. Byddai'r marina yn denu ymwelwyr a thwristiaid i'r dref ac yn gatalydd ar gyfer y cam nesaf o adfywio'r dociau.

 

Byddai canolfannau deor busnes arloesol – amrywiaeth o unedau bach sy'n addas i amrywiaeth o fusnesau – yn eistedd ochr yn ochr â'r marina. Byddai'r unedau'n rhoi lle i fentrau bach dyfu ac yn creu swyddi newydd ar gyfer y Barri. Byddai'r datblygiad hefyd yn cynnwys unedau ar gyfer busnesau lletygarwch. Byddai eiddo preswyl newydd hefyd yn cael ei gynnwys yn ardal y dociau ar ei newydd wedd, yn ogystal â man agored cyhoeddus wedi'i dirlunio i greu porth croesawgar i drigolion ac ymwelwyr.

 

Canolfan chwaraeon dŵr newydd i'r Fro

 

Barry Watersports Centre
Barry Watersports Centre Site Photo

 

Ail brosiect y pecyn yw adeiladu cyfleuster chwaraeon dŵr newydd, gwyrdd a phwrpasol yng Nglannau'r Barri. Wedi'i gynllunio i hybu cyfleoedd hamdden a defnydd cymunedol ehangach o'r ardal, byddai'r cyfleuster yn gartref newydd i'r Ocean Watersports Trust. Bydd hyn nid yn unig o fudd i glybiau a sefydliadau lleol ond hefyd i ysgolion, grwpiau ieuenctid, a'r cyhoedd drwy roi mynediad iddynt i gyfleusterau o'r radd flaenaf i fwynhau'r dŵr. Byddai'r gofod newydd yn darparu ystafelloedd cyfarfod, mannau cymunedol ac ystafelloedd dosbarth, yn ogystal â lle i storio offer.

 

 

Ein hegwyddorion allweddol

Yn unol â meini prawf Llywodraeth y DU ar gyfer ceisiadau Codi’r Gwastad, mae ein cynigion yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion allweddol:

 

  • Cymunedol a Hamdden

    Defnyddir y cyllid codi’r gwastad i gryfhau cymeriad lleoliadau allweddol yn y Barri drwy gydnabod treftadaeth y dref a defnyddio hyn fel llwyfan ar gyfer twf yn y dyfodol. Bydd hyn yn seiliedig ar bedair egwyddor allweddol:

    • Diogelu a gwella adeiladau a mannau hanesyddol o fewn y dref

    • Gwella ansawdd dylunio adeiladau a thirweddau

    • Gwella cysylltedd rhwng ardaloedd allweddol

    • Cynyddu'r ymdeimlad o fywiogrwydd mewn ardaloedd allweddol drwy gyflwyno cymysgedd newydd o ddefnyddiau ar gyfer adeiladau presennol a newydd

  • Creu Cyfleoedd ar gyfer Twf 

    Bydd y cais yn meithrin busnes newydd ac yn helpu'r rhai presennol i dyfu drwy: 

    • Sicrhau bod dull cydgysylltiedig o ddatblygu yn cael ei fabwysiadu 

    • Gwella cysylltiadau rhwng ardaloedd twf presennol ac ardaloedd twf y dyfodol

    • Annog ymdeimlad o fywiogrwydd, cymuned a lle drwy greu datblygiadau defnydd cymysg yn y dref 

    • Caniatáu hyblygrwydd ar gyfer newidiadau mewn tueddiadau yn y dyfodol 

  • Datgloi Hyfywedd a Chysylltedd 

    Bydd cais y Cyngor yn gwella'r llwybrau presennol ac yn creu cysylltiadau newydd rhwng rhai o ardaloedd pwysicaf y Barri.  Mae'n canolbwyntio ar bedair egwyddor allweddol: 

    • Gwella llwybrau allweddol yn weledol

    • Gwella llwybrau teithio llesol a chreu llwybrau newydd, diogel i gerddwyr a beicwyr 

    • Gwella arwyddion ar gyfer lleoliadau allweddol

    • Cynyddu bioamrywiaeth drwy blannu mwy o goed a thirlunio meddal gwell

 

Dweud eich dweud

Cyn i ni gwblhau a chyflwyno ein cais, rydym am glywed barn trigolion lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.  Rhannwch eich barn ar-lein gan ddefnyddio'r cysylltiadau isod, neu siaradwch â ni'n uniongyrchol yn ein sesiwn Codi’r Gwastad.

 

 

Sesiwn Codi’r Gwastad yn llyfrgell Barri

  • Dynn Llun 27 Mehefin 10:00 - 17:00
  • Dydd Mawrth 28 Mehefin 10:00 - 17:00
  • Dydd Mercher 29 Mehefin 10:00 - 17:00