Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cyflwyno cais uchelgeisiol i odi'r gwastad yn y Barri

TBydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwneud cais am £20m o gyllid gan Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i drawsnewid glannau Dociau'r Barri.

 

  • Dydd Iau, 23 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



Wedi'i lunio gan hanes morwrol a diwydiannol y dref, mae'r cais yn cynnwys dau brosiect allweddol a fydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio pecyn enfawr o fuddsoddiad i barhau i adfywio ardal y dociau a'r glannau cyfagos. 


Marina newydd ar y safle, sef y Mole, yw canolbwynt y cynlluniau. Byddai'r marina yn denu ymwelwyr a thwristiaid i'r dref ac yn gatalydd ar gyfer cam nesaf adfywio'r dociau.
 
Fel rhan o hyn, nod deorydd busnesau yw tyfu busnesau newydd arloesol yn y Barri a chreu swyddi lleol.

 

Bydd yn arwain at ddatblygu model masnachol ar gyfer gofod arloesi i bobl sydd am gydweithio, lle gellir cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau ochr yn ochr â hyfforddiant sgiliau digidol lefel uchel. Bydd y deorydd yn cyd-fynd â phatrymau gwaith ôl-Covid sy'n gweld galw cynyddol am gydweithio mewn gofodau arloesi cydweithredol, lle gall pobl ddod at ei gilydd yn rheolaidd i drafod syniadau.

 

Mae'r gofodau hyn yn creu cyfleoedd i gyflwyno pobl o'r un anian, a phartneriaid prosiect posibl, i’w gilydd a datblygu syniadau'n gynhyrchion a gwasanaethau, yn ogystal â datblygu a graddio cwmnïau.
 
Ail brosiect y pecyn yw adeiladu cyfleuster chwaraeon dŵr newydd, gwyrdd a phwrpasol yng Nglannau'r Barri.  Wedi'i gynllunio i hybu cyfleoedd hamdden a defnydd cymunedol ehangach o'r ardal, byddai'r cyfleuster yn gartref newydd i'r Ocean Watersports Trust.

 

Bydd hyn nid yn unig o fudd i glybiau a sefydliadau lleol ond hefyd i ysgolion, grwpiau ieuenctid a'r cyhoedd drwy roi mynediad iddynt i gyfleusterau o'r radd flaenaf i fwynhau'r dŵr.  Yn y gofod newydd byddai ystafelloedd cyfarfod, mannau cymunedol ac ystafelloedd dosbarth, yn ogystal â lle i storio offer. 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Dyma'r cynllun mwyaf uchelgeisiol o ran buddsoddi yn y Barri sydd wedi'i gynhyrchu erioed. Byddai'r cynigion yn trawsnewid hen ardal y dociau ac yn codi Glannau'r Barri i lefel uwch.
 
"Yn bwysicaf oll, nid yn unig y mae’r cais yn uchelgeisiol, ond mae'n gydlynol, yn gyflawnadwy ac yn cyd-fynd â'n nod o sicrhau bod gan gymunedau'r cyfleusterau a'r seilwaith sydd eu hangen arnynt. Mae'r cynlluniau sydd ynddo wedi'u datblygu i ategu ei gilydd wrth ddenu mathau gwahanol iawn o fuddsoddiad i'r dref.  Bydd hyn yn caniatáu i'r Barri dyfu tra hefyd yn ehangu'r hyn y mae'n ei gynnig i drigolion, ymwelwyr a buddsoddwyr fel ei gilydd. 
 
"Credwn fod gan y Barri achos cryf dros gael cyllid codi’r gwastad. Byddwn yn mynegi’r safbwynt hwnnw’n glir ac yn groch. Mae hwn yn fuddsoddiad mewn cymunedau a swyddi ac rwy'n gobeithio'n fawr y gall Llywodraeth y DU weld hynny mor glir â phawb yn y Fro."
 
Meddai Simon Brown, Rheolwr Porthladdoedd Rhanbarthol ABP Cymru a De Orllewin Lloegr:  "Mae hwn yn gyfle gwych i'r Barri.  Gwyddom fod awydd gwirioneddol i weld Marina'n cael ei datblygu o amgylch y Mole ac mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes i wireddu’r cynlluniau a'r uchelgeisiau hyn, gan greu swyddi a denu buddsoddiad pellach ar hyd y ffordd."
 
Dywedodd Alun Cairns AS, "Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r Barri’n gyfan ac mae'n rhan o'n hymrwymiad i Godi’r Gwastad yn y DU.   Mae'r pecyn buddsoddi gwerth £xx miliwn yn rhan o'm cynllun ar gyfer y cam nesaf yn y gwaith o adfywio'r dref.  Rwy'n llawn cyffro i weld y cynlluniau hyn yn dod yn fyw - cynlluniau a fydd yn dod â buddsoddiad newydd, cyfleoedd gwaith cyffrous a Marina newydd gwych i'r Glannau!
 
"Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod y prosiectau hyn yn gweithredu fel catalydd i ddenu mwy o fuddsoddiad fel y bydd pawb yn y Barri yn elwa.  Bydd y prosiect hwn yn hwb mawr i'r dref gyfan.  Rwyf yn benderfynol o sicrhau y byddwn yn cysylltu pob rhan o'r Barri â'r cyfleoedd cyffrous hyn. Mae angen inni hefyd sicrhau bod rheoli traffig wrth wraidd y cynllun. 


"Rwy'n obeithiol y bydd y cais yn llwyddiannus ac y bydd y cynlluniau uchelgeisiol hyn yn cael eu gwireddu!"
 

Diben Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU yw sicrhau bod cyfleoedd yn fwy cyson ledled y wlad drwy gynnig cymorth i ardaloedd difreintiedig.  Mae Llywodraeth y DU yn chwilio am geisiadau graddfa fawr unigol gan Awdurdodau Lleol ar fyr rybudd i gefnogi ei hagenda Codi’r Gwastad. Gellir defnyddio’r gronfa i ariannu cynlluniau lleol, gan gynnwys adfywio canol trefi a phrif strydoedd, gwella systemau trafnidiaeth neu brosiectau’n ymwneud â diwylliant a threftadaeth. 

 
Mae'r Cyngor yn croesawu sylwadau gan drigolion a phartïon eraill sydd â diddordeb cyn cwblhau a chyflwyno ei gais. Bydd cynrychiolwyr y Cyngor yn Llyfrgell y Barri a’r 27 – 28 Mehefin gan 10:00 – 17:00 i drafod y cais yn bersonol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.valeofglamorgan.gov.uk/levellingupbid.  www.valeofglamorgan.gov.uk/levellingupbid