Cynllun ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni gan gynnwys ECO4 Flex)
ECO4 yw'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf a weinyddir gan OFGEM.
Nod cyllid RhCY yw helpu'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sy'n agored i'r risg o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ yn aneffeithlon o ran ynni. Mae cyllid RhCY yn talu am osod mesurau effeithlonrwydd ynni fel gwelliannau gwresogi ac inswleiddio, a thrwy hynny yn helpu i leihau cost gwresogi'r cartref a chreu arbedion carbon sy'n dda i'r amgylchedd hefyd.
Osnad oes unrhyw un o'r budd-daliadau hyn yn cael ei hawlio, efallai y bydd yr aelwyd yn dal i allu derbyn mesurau wedi'u hariannu drwy'r broses cymhwysedd hyblyg ('ECO flex' yn fyr), er enghraifft os oes gan yr aelwyd incwm cyfunol islaw £31,000, neu os oes gan rywun yn y cartref gyflwr meddygol cymwys.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Ofgem.
Mae'r Datganiad o Fwriad hwn yn gosod meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer ECO4 Flex o 19eg Mai 2023 tan ddiwedd mis Mawrth 2026.
Sut i wneud cais:
Preswylwyr: Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys i gael cyllid RhCY, siaradwch â sefydliad a all gynnig cymorth arbed biliau ac ynni diduedd am ddim i chi ac asesu a allech fod yn gymwys i gael cyllid, naill ai gan RhCY neu unrhyw raglenni grant eraill i helpu i dalu am welliannau i'ch cartref. Mae Cymru Gynnes yn un darparwr sy'n cynnig cymorth o'r fath i unrhyw breswylwyr yng Nghymru.
Gall aelwydydd cymwys hefyd wneud cais trwy un o'r gosodwyr ECO cymeradwy isod: :
Rhestr o osodwyr Eco-flex rydyn ni'n gwybod sy'n gweithredu ym Mro Morgannwg
Gosodwyr: Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ffurfio partneriaeth ag E.ON ar ddarparu ECO4 flex. Os ydych chi'n gwmni gosod ac eisiau holi am fod yn rhan o’n cynllun, cysylltwch ag E.ON.
Dim Rhwymedigaethau: Ni fydd Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn unrhyw geisiadau sy'n gysylltiedig â RhCY ac nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd sy'n deillio o unrhyw ganlyniad negyddol, difrod neu golled sy'n deillio o dderbyn grant ECO FLEX.
Ydych chi'n gosod eiddo?
Os ydych yn gosod eiddo, dylech fod yn ymwybodol o'r Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni (srs.wales) ar gyfer landloradiaid.
Mae cyngor ychwanegol ar sut i godi safonau TPY ar gyfer eiddo ar gael ar-lein. Dewch o hyd i ffyrdd o arbed ynni yn eich cartref