Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn talu?
Methu â thalu rhandaliadau
- Os rydych chi’n talu'n rheolaidd, ond yn talu'n hwyrach na'r dyddiadau a nodir neu'n methu â thalu rhandaliad, gallwch dderbyn neges atgoffa a fydd yn rhoi 7 diwrnod i chi sicrhau bod eich taliadau'n gyfredol.
- Os nad ydych chi’n talu o fewn amser penodol yr hysbysiad, bydd eich hawl i dalu ar ffurf rhandaliadau yn cael ei diddymu, gan olygu y bydd yn rhaid i chi dalu'r hyn sy'n weddill o fewn 7 diwrnod.
- Os nad yw’r balans yn cael ei dalu, efallai y byddwn yn cyflwyno Gwŷs Llys Ynadon a chostau
Gwŷs a Gwrandawiadau Llys
- Efallai y bydd gwŷs yn cael ei chyflwyno os nad ydych wedi talu’n unol â’r rhandaliadau a nodir ar eich cyfrif NDR,
a heb gydymffurfio â'r negeseuon atgoffa sydd wedi'u cyflwyno i chi.
- Ar ôl y dyddiad y caiff yr wŷs ei chyflwyno os na fyddwch yn talu’n llawn (gan gynnwys costau’r wŷs) gwneir cais am Orchymyn Dyled ynghyd â chostau pellach. Bydd hyn yn cael ei gynnal os ydych chi'n mynychu ai peidio.
- Unwaith y bydd gwŷs wedi’i hanfon, bydd trefniadau arbennig yn cael eu gwneud ar ddisgresiwn unwaith y bydd Gorchymyn Dyled wedi’i gyflwyno..
- Os ydych chi’n cael trafferth wrth dalu ac yn methu â thalu’r swm yn llawn am yr Wŷs ynghyd â'r costau, dylech gysylltu â'r Adran NDR oherwydd gellir gwneud trefniadau pellach, gan gynnwys talu â debyd uniongyrchol.
- Os rydych yn talu â siec, dylai'r Cyngor ei dderbyn o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn dyddiad Gwrandawiad Llys. Fel arall, mae'n annhebygol y bydd yn atal y Cyngor rhag gwneud cais am Orchymyn Dyled a chostau.
- Mae gennych hawl i ymddangos yn y llys a dweud wrth yr Ynadon pam rydych o'r farn na ddylech dalu NDR, fodd bynnag ni fydd yr Ynadon yn gallu ystyried eich gallu i dalu. Os ydych yn bwriadu mynychu’r gwrandawiad, rhowch wybod i’r Cyngor cyn y gwrandawiad a gallwch hefyd geisio cyngor cyfreithiol.
- Os ydych yn anghytuno â’r Gorchymyn Dyledion neu swm yr wŷs, dylech gysylltu ag Adran NDR y Cyngor yn syth; fodd bynnag bydd rhaid i chi fynychu, oni bai bod eich anghydfod yn cael ei ddatrys ymlaen llaw..
- Hyd yn oed os ydych yn penderfynu peidio â mynychu’r llys, dylech siarad â ni neu eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Byddwn yn ceisio dod i gytundeb talu rhesymol gyda chi, ond ni allwn wneud hynny heb i chi gysylltu â ni. Gall trefniadau gael eu gwneud, fodd bynnag bydd gofyn i chi dalu’r gorchymyn dyled a’r costau yn y Gwrandawiad Llys a drefnwyd.
Ar ôl y Llys
Os yw’r Ynadon yn caniatáu Gorchymyn Dyled ac nid ydych wedi talu’n llawn na gwneud unrhyw drefniadau, bydd y Cyngor yn anfon llythyr 7 diwrnod atoch yn gofyn i chi dalu’n llawn, neu i gysylltu â’r Adran NDR.
Mae gorchymyn dyled yn galluogi’r Cyngor i adennill fel a ganlyn:
Rheoli Nwyddau
- Mae Asiantau Gorfodi yng nghyflogaeth y Cyngor yn gweithio yn ôl “Cod Ymarfer” y cytunwyd arno a gallent drafod eich amgylchiadau ariannol gyda chi, ac un ai gwneud cais am daliad neu fynd i mewn i gytundeb ar ôl Rheoli Nwyddau. Bydd y drefn hon yn cynnwys costau’r Cyngor a’r EA. Os rydych yn cysylltu â nhw ar ôl derbyn eu llythyr i sefydlu trefniant, efallai y bydd angen iddyn nhw ymweld â’ch cartref er mwyn sicrhau’r ddyled yn gyntaf.
- Os oes rhywun wedi ymweld â chi o’r blaen ac nid ydych wedi cydymffurfio â’r drefn, byddant yn ychwanegu mwy o gostau ac efallai na fyddant yn sefydlu trefn arall gyda chi.
- Bydd yr Asiant Gorfodi yn gofyn i ddod i mewn i’ch cartref i greu rhestr eiddo – Rheoli Nwyddau yw hyn. Os nad ydych yn cydymffurfio â’r drefn, gall yr Asiant Gorfodi ddychwelyd yn gynt i waredu ar a gwerthu eich nwyddau, a bydd rhaid talu i waredu ar y nwyddau, ffioedd yr arwerthwr a chostau storio.
- Os nad ydych yn gallu talu’n llawn, bydd gan yr Asiant Gorfodi 3 dewis – Cytundeb meddiant ar droed lle na fyddant yn symud eich nwyddau os rydych yn cadw i’r drefn y cytunwyd arni gyda’r Asiant Gorfodi; Meddiant wrth law, lle byddant yn aros yr eiddo tan fyddwch wedi talu neu tan mae’r nwyddau wedi’u rhoi ar werth; Symud y nwyddau’n syth er mwyn iddynt gael eu gwerthu..
- Os nad ydych yn cysylltu, neu os nad oes gennych ddigon o nwyddau i’w meddiannu, bydd yr Asiant Gorfodi yn mynd â’r Gorchymyn Dyled yn ôl i’r Cyngor ar gyfer cynnal mwy o gamau gorfodi.