Cost of Living Support Icon

Polisïau Gwasanaeth Ieuenctid
VYS LOGO

Diogelu

Pobl ifanc yw ein hadnodd mwyaf agored i niwed. Mae'r ymroddiad sydd gan y Gwasanaeth Ieuenctid i ddiogelu ein pobl ifanc yn adlewyrchu'r cysyniad hwn. Mae creu diwylliant o ddiogelu gweithredol yn flaenoriaeth allweddol i'r Gwasanaeth, ynghyd â chefnogi pobl ifanc yn weithredol ac eirioli ar eu rhan i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

 

Mae ein Polisi Diogelu yn cael ei lywio gan ymagwedd hawliau plant ac mae'n fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc, wedi'i wreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

 

Mae gan y polisi dri phrif bwynt i gyfeirio atyn nhw:

  • Atal, drwy ddatblygu ac adeiladu diwylliant o gefnogaeth i bobl ifanc a staff. 
  • Gweithdrefnau ffurfiol ar gyfer nodi ac adrodd am bryderon.

  • Cefnogaeth i bobl ifanc a allai fod wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.

Trwy bolisïau a phrosesau cadarn mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cymorth pwrpasol i'r rhai sydd ei angen fwyaf. 

 

Gwrth-fwlio

Mae herio bwlio yng Ngwasanaeth Ieuenctid y Fro yn flaenoriaeth allweddol i'r Awdurdod Lleol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.  Mae gan bob person ifanc hawl i ‘fan diogel’ ac i gael ei drin yn gyfartal.  Mae ein Polisi Gwrth-fwlio yn seiliedig ar y Canllawn Gwrth-fwlio model sydd ar gael gan Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Bro Morgannwg gan nodi'n glir ein strategaethau ar gyfer atal ac ymateb i ymddygiad bwlio, gan gynnwys y rhai sy'n seiliedig ar nodweddion gwarchodedig.

 

Rhaid adrodd am unrhyw ddigwyddiad bwlio, gan gynnwys digwyddiadau sy'n seiliedig ar ragfarn.  Dim ond os ydym yn gwybod bod problem y gellir mynd i'r afael â bwlio'n effeithiol.  Gall pobl ifanc sy'n cael eu bwlio neu eraill sy'n gwybod am rywun neu sy'n amau bod rhywun yn cael ei fwlio roi gwybod am bryderon drwy ddilyn einGweithdrefn Gwyno Gwasanaeth Ieuenctid y Fro sy'n amlinellu'r gwahanol gamau y gall yr achwynydd eu cymryd.

 

 

Gwyno Gwasanaeth Ieuenctid y Fro

Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro mae gennych yr hawl i gwyno. Rydym yn ceisio gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl bobl ifanc, rhieni / gofalwyr yn fodlon, ac rydym wedi ymrwymo i ddelio’n effeithio ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych.  Mae ein gweithdrefn gwyno yn seiliedig ar Polisi Pryderon a Chwynion Corfforaethol Cyngor Bro Morgannwg 2013.

 

Cliciwch yma i ddarllen ein Gweithdrefn Gwyno Gwasanaeth Ieuenctid y Fro.

 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol cwblhewch ein ffurflen gwynion neu e-bostiwch valeyouthservice@valeofglamorgan.gov.uk i fynegi eich pryder neu'ch cwyn, gall rhywun wneud hyn ar eich rhan os ydych yn cytuno i hyn.