Cost of Living Support Icon

Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Mae'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid (FfYDI) wedi'i gynllunio i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sy'n NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

 

Cyhoeddwyd y FfYDI cyntaf yn 2013.  Gwnaeth Llywodraeth Cymru adolygu a diweddaru hwnnw yn 2022.  Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac yn ffocysu ar bobl ifanc 11 i 18 oed.  Mae hyn yn gweithio mewn partneriaeth â Gwarant Pobl Ifanc (GPI) sy'n cynnig cyfleoedd gwell i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n NEET.

 

Y deilliannau mae'r Fframwaith yn ceisio mynd i'r afael â nhw yw:

  • mwy o bobl ifanc pontio'n gadarnhaol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant

  • atal digartrefedd rhag digwydd yn llawer cynharach drwy adnabod a chefnogi pobl ifanc a allai fod mewn perygl

 

6 elfen y Fframwaith

  • Adnabod y bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl yn gynnar. Mae hyn yn galluogi rhoi cymorth wedi'i dargedu ar waith i ddiwallu anghenion pobl ifanc.

  • Broceriaeth a chydlynu cefnogaeth ar lefelau strategol a gweithredol. Mae hyn yn digwydd drwy ddeiliaid y swyddi Cydlynu Ymgysylltu a Datblygu a Chydlynu Digartrefedd Ieuenctid.

  • Monitro cynnydd pobl ifanc, sy'n cynnwys gwerthuso darpariaeth a thracio pobl ifanc drwy rannu data yn effeithiol (mae rhagor o wybodaeth am drefniadau lleol yma).

  • Sicrhau bod y ddarpariaeth dyn ateb anghenion pobl ifanc i aros mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a/neu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

  • Sicrhau bod cyfleoedd cyflogadwyedd a chyflogaeth ar gael i bobl ifanc i'w helpu i symud yn eu blaen.

  • Gwella atebolrwydd drwy adrodd yn effeithiol i Lywodraeth Cymru, rheolwyr mewnol, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae rhagor o wybodaeth am y FfYDI yma.

 

Trefniadau Lleol

Mae’r rolau Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu  a Chydlynydd Digartrefedd Ieuenctid yn rhan o'r Gwasanaeth Ieuenctid.  Mae ganddynt rôl allweddol o ran darparu gweithwyr arweiniol a staff cymorth i fod yn rhan o'r pecyn cymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET a/neu'n ddigartref.

 

Bydd gan Gyrfa Cymru rôl hanfodol o ran cynorthwyo’r gwaith o adnabod pobl ifanc yr ystyrir eu bod mewn perygl cyn 16 oed a hefyd yn rhan o'r gwasanaethau sy’n tracio a chefnogi pobl ifanc ôl 16.

 

Bydd gan weithwyr arweiniol berthynas uniongyrchol â'r person ifanc.  Gall gweithwyr arweiniol fod, ymhlith eraill, yn weithwyr ieuenctid, staff ysgolion, staff darparwyr hyfforddiant, staff y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau neu’n staff eraill o’r sector gwirfoddol.

 

Dyma’r cyfrifoldebau penodol a roddir i’r gweithwyr arweiniol:

  • bod yn unigolyn a enwir sy'n gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â'r person ifanc yn rheolaidd
  • bod ag ymwybyddiaeth o'r ystod o gymorth sydd ar gael a/neu sydd ar waith i unigolyn
  • trafod gyda gwasanaethau cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill ac eirioli ar ran y person ifanc fel y bo'n briodol
  • tynnu sylw at oruchwyliwr neu Gydlynydd Digartrefedd Ieuenctid, os nad yw cymorth yn helpu person ifanc i symud ymlaen
  • helpu i feithrin gwydnwch person ifanc mewn ffyrdd sy'n berthnasol i sefydliad y gweithiwr arweiniol a'i ffocws a'i arbenigedd penodol
  • adolygu 'statws' y person ifanc yn erbyn model ymgysylltu 5-haen Gyrfa Cymru, a rhoi adborth i'r Cydlynydd Digartrefedd Ieuenctid.

Cysylltu

Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach am y tîm neu’r cynlluniau, cysylltwch â Peter Williams, y Cydlynydd Ymgysylltiad a Chynnydd, ar:

 

  • 01446 709308

Rhwydweithiau Cymdeithasol

Dilynwch ni a rhannu’ch lluniau a’ch profiadau ar ein ffrydiau: