Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

YMDRECHUSTRIVE Logo

Mae STRIVE yn brosiect newydd sy'n ceisio cefnogi pobl ifanc i’w hatal rhag dod yn NEET (Nid mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant) ynghyd ag Atal Digartrefedd Ieuenctid a chefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd lle bo modd.

Lleoliad y brif swyddfa: Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, CF63 4RU

 

Yr hyn a wnawn

Atal NEET 

Nod STRIVE yw gweithio gyda phobl ifanc 11-16 oed a nodwyd o dan y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid fel rhai 'mewn perygl' a'u cefnogi i ymgysylltu â gweithgareddau cadarnhaol. Bydd pedwar edefyn o gefnogaeth, ymgysylltu ac ymyriadau ar gael, sef;

  • Cymorth un i un neu gymorth grŵp o fewn darpariaethau addysg
  • Ymgysylltu â’r Gymuned
  • Cynnig awyr agored
  • Datblygiad a phositifrwydd

 

Llwybr ôl-16:

  • I ddarparu arweiniad ar hyfforddiant pellach neu addysg y gall pobl ifanc fanteisio arno’n ôl-16, gan ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol lle gellir cefnogi person ifanc i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant i feithrin gwydnwch i gynnal eu datblygiad a pharhau ar lwybr cadarnhaol yn annibynnol.

 

Sut i atgyfeirio

Gweler yr atgyfeiriad ynghlwm neu e-bostiwch strive@valeofglamorgan.gov.uk am ffurflen atgyfeirio. 

 

Cysylltwch

Am fwy wybodaeth am y project hwn, cysylltwch â Sarah Collier ar:

  • 07764 807259 

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni a rhannwch eich profiad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: