Cost of Living Support Icon
Youth-Wellbeing-Logo

Llesiant Ieunctid

Mae’r Gwasanaeth Lles Pobl Ifanc Teuluoedd yn Gyntaf yn broject a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd yn seiliedig ar ymagwedd amlasiantaeth o gefnogi pobl ifanc.

 

Lle: Lleoliad y brif swyddfa: 3ydd Llawr, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, CF63 4RU

 

Bydd Gwasanaeth Lles Pobl Ifanc y Fro yn cynnig cymorth wedi ei dargedu i bobl ifanc sydd wedi wyneb profiadau plentyndod sydd yn effeithio’n sylweddol ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol.   Bydd y prif ffocws ar gefnogi pobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed ym Mro Morgannwg.  Prif nodau’r cymorth yw magu hyder a gwydnwch, gwella lles emosiynol a chymdeithasol a gwarchod rhag profiadau andwyol eraill plentyndod.  Bydd y gwasanaeth yn gweithio mewn cydweithrediad â gwasanaethau eraill a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial.

 

Mae'r prosiect yn derbyn atgyfeiriadau drwy Linell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yn unig - 0800 0327322 

 

Nod y gwasanaeth yw:

  • Gwella lles cymdeithasol ac emosiynol.
  • Gwella hyder a gwydnwch.Ymrymuso pobl ifanc i ddod yn gyfranogwyr cynhyrchiol a gweithredol mewn cymdeithas.
  • Gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc.Adeiladu capasiti pobl ifanc i ystyried risg, gwneud penderfyniadau rhesymegol a chymryd rheolaeth.
  • Datblygu agweddau, ymddygiad ac uchelgais cadarnhaol.
  • Datblygu gallu pobl ifanc i reoli perthnasoedd personol a chymdeithasol.
  • Atal anghenion rhag gwaethygu.
  • Amddiffyn pobl ifanc rhag y niwed gaiff ei achosi gan fod yn agored i PPNau a phrofiadau tebyg eraill.

 

 

Cysylltwch

Am fwy o wybodaeth am y project hwn cysylltwch:

 

  • 01446 709308

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni a rhannwch eich profiad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol: