Cost of Living Support Icon

Clybiau Ieuenctid

Mae sawl clwb ieuenctid ledled Bro Morgannwg ar gael i bobl ifanc 11-25 oed.

 

Rydym yn gweithredu sawl clwb ieuenctid ledled Bro Morgannwg sydd ar gael i bobl ifanc 11-25 oed. Mae’r clybiau ieuenctid hyn yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wneud ffrindiau a chael hwyl mewn amgylchedd diogel.   Cynigir amrywiaeth o weithgareddau o chwaraeon, coginio, i gelf a chrefft a llawer mwy!

Mae pobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i ennill cymwysterau ar lawer o bynciau gwahanol, ac fel rhan o Wobr Dug Caeredin. 

Hefyd ar gael i bobl ifanc mae'r cyfle i fynd ar deithiau, tripiau preswyl a chyfleoedd gwirfoddoli. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o bob oed i helpu i gynnal ein gweithgareddau, yn enwedig cyn-aelodau! 

Rydym yn gweithio mewn cymunedau lleol i redeg ein clybiau y mae rhai ohonynt yn cael eu cefnogi gan ein partneriaid, gan gynnwys clwb ieuenctid anabledd mewn partneriaeth â Vale People First a chlwb ieuenctid Cymraeg mewn partneriaeth â'r Urdd.   Rydym yn falch o gynnal ystod amrywiol o glybiau ieuenctid, gan gynnwys clwb ieuenctid ar gyfer y rhai 18-25 oed a chlwb ieuenctid LHDTCRhA+.

 

Defnyddiwch y dolenni isod i ddarganfod pa glybiau ieuenctid sydd ar gael yn eich ardal chi:

 

 Clybiau-Ieuenctid-Mynediad-Agored

 Clybiau Lles ar ôl Ysgol

Clybiau Ieuenctid Prosiect

 

Cysylltwch

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r clybiau ieuenctid hyn, cysylltwch â ni yn:

 

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch Wasanaeth Ieuenctid y Fro ar Facebook a Twitter a rhannwch eich lluniau a’ch profiadau ar ein cyfryngau cymdeithasol: