Cost of Living Support Icon

Clybiau Ieuenctid Mynediad Agored

 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd i gefnogi pobl ifanc sy'n dysgu sgiliau newydd wrth iddynt symud ymlaen i fod yn oedolion.  Mae hyn yn cynnwys:

 

  • Sesiynau'n seiliedig ar faterion

  • Y Celfyddydau

  • Chwaraeon

  • Coginio a ffyrdd iach o fyw

  • Gwaith prosiect 

  • Clybiau lles ar ôl ysgol

  • Cynllun Cerdyn C 

  • Cymwysterau

 

  • #Youthy@theHUB 

     Mae #Youthy@theHUB yn glwb ieuenctid mynediad agored i bobl ifanc 11-17 oed sydd ar agor bob dydd Llun 6-8pm yn YMCA, Y Barri.

      

     

     

    YMCA

    Court Road

    Y Barri

    CF63 4EE

  • Ystafell 102 y Rhws 

    Mae Ystafell 102 yn glwb ieuenctid mynediad agored i bobl ifanc 11-17 oed sydd ar agor bob dydd Llun 6-8pm yng Nghanolfan Gymunedol y Rhws.

     

    Canolfan Gymunedol y Rhws

    Stewart Road

    Y Rhws

    CF62 3EZ 

     

     

  • Clwb Ieuenctid Llanilltud Fawr

    Mae Clwb Ieuenctid Llanilltud Fawr yn glwb ieuenctid mynediad agored i bobl ifanc 11-17 oed sydd ar agor bob dydd Mercher 6-8pm yng Nghanolfan CF61.

     

     

     

    Canolfan CF61

    Heol yr Orsaf

    Llanilltud Fawr

    CF61 1ST

  • Llandough Out Loud 

     Mae Llandough Out Loud yn glwb ieuenctid mynediad agored i bobl ifanc ym Mlwyddyn 6-8 sydd ar agor bob dydd Mercher 6-8pm yn Ysgol Gynradd Llandochau.

     

    Ysgol Gynradd Llandochau

    Dochdwy Road

    Llandochau

    CF64 2QD

 

 

Cysylltwch

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r clybiau ieuenctid hyn, cysylltwch â ni yn:

 

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch Wasanaeth Ieuenctid y Fro ar Facebook a Twitter a rhannwch eich lluniau a’ch profiadau ar ein cyfryngau cymdeithasol: