Cost of Living Support Icon

Clybiau Lles ar ôl Ysgol

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig pedwar clwb lles mewn ysgolion ledled y Fro. Mae'r clybiau hyn ar gael i bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9.   Nod y clybiau hyn yw cynnig cymorth lles lefel isel ychwanegol i bobl ifanc fel cymdeithasu ac ymdeimlad o berthyn yn yr ysgol.  Gellir cyrchu'r clybiau hyn drwy atgyfeiriad a wneir gan athro’r person ifanc neu gymorth yn yr ysgol.   Cysylltwch â'r ysgol os credwch y gallai'r clybiau hyn fod yn addas i'ch plentyn / person ifanc.

 

  • Clwb Lles Ar Ôl Ysgol Llanilltud 

    Mae'r clwb hwn ar agor 3-4pm ar ddydd Llun.

  • Clwb Lles Ar Ôl Ysgol Sant Cyres 
     Mae'r clwb hwn ar agor 2:50-3:50pm ar ddydd Mawrth.
  • Clwb Lles Ar Ôl Ysgol Whitmore
      Mae'r clwb hwn ar agor 2:45-3:45pm ar ddydd Mercher.
  • Clwb Lles Ar Ôl Ysgol Stanwell 
    Mae'r clwb hwn ar agor 3-4pm ar ddydd Iau. 

 

Cysylltwch

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r clybiau ieuenctid hyn, cysylltwch â ni yn:

 

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch Wasanaeth Ieuenctid y Fro ar Facebook a Twitter a rhannwch eich lluniau a’ch profiadau ar ein cyfryngau cymdeithasol: