Cost of Living Support Icon

WirfoddoliVYS Logo

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn ystyried gwirfoddolwyr yn adnodd gwerthfawr o ran gwella ein cynnig i ieuenctid ledled Bro Morgannwg.  Ystyriwn mai'r diffiniad o wirfoddoli yw: 

'Gweithred wirfoddol gan unigolyn neu grŵp sy’n rhoi amser a llafur am ddim er lles y gymuned yw gwirfoddoli.' 

 

Gall unrhyw un wirfoddoli yng Ngwasanaeth Ieuenctid y Fro, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Pobl dan 18 oed – drwy leoliadau myfyrwyr (Gwaith Ieuenctid lefel 2 yn unig), prosiectau cyfranogi, cynllun Gwobr Dug Caeredin, Bagloriaeth Cymru

  • Pobl dros 18 oed – drwy leoliadau myfyrwyr (Gwaith Ieuenctid lefel 3 i addysg uwch) neu aelodau o'r gymuned

 

Gweler isodgopi o Siart Lif Ymgeisio i Wirfoddoli Gwasanaeth Ieuenctid y Fro.  Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r broses ar gyfer dechrau gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth.

 VYS Volunteer Recruitment Flowchart CYM

 

Rhaid i bob darpar wirfoddolwr gwblhau ffurflen gais.  Cwblhewch y ffurflen sy'n berthnasol i'ch oedran: Pobl dan 18 oed neu Bobl dros 18 oed a'i hanfon i valeyouthservice@valeofglamorgan.gov.uk

 

Ffurflen Gais Gwirfoddoli Dan 18 oed

Ffurflen Gais Gwirfoddoli