Cost of Living Support Icon

Gwobr Dug Caeredin

Rhaglen o weithgareddau i bobl ifanc i chi eu gwneud yn eich amser rhydd yw Gwobr Dug Caeredin ac mae gwobrau Efydd, Arian ac Aur ar gynnig!

Duke-of-Edinburgh-Awards-logo

Prif Swyddfa: Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4RU.

 

Does dim ots pwy ydych chi na o ble rydych chi, cyn belled â’ch bod rhwng 14 a 24 oed, cewch gymryd rhan. 

 

Gofynnwch i’ch athro, arweinydd clwb ieuenctid, Arweinydd y Sgowtiaid neu Guides a allwch chi wneud y Wobr trwy eich ysgol neu eich clwb.

 

Os gallwch chi, byddant yn dweud wrthych sut i gychwyn arni a’ch helpu chi trwy eich gwobr.

 

Os nad ydych yn gwybod ble gallwch wneud y Wobr, cysylltwch â Swyddog y Wobr a fydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun yn agos atoch a fydd yn eich helpu i gymryd rhan ac yn eich tywys trwy’r Wobr.

 

 

Testunau Gweithgareddau Dug Caeredin

 

Dewiswch un gweithgaredd dan bob un o’r penawdau hyn a gwnewch hynny am gyfnod penodol o amser:

  • Gwirfoddoli: Bod yn arwr lleol – helpu’r gymuned, yr amgylchedd neu hyd yn oed hyfforddi i achub bywydau.

  • Sgiliau: Gwneud rhywbeth gwahanol; p’un ai ydych yn ystyried eich hun yn arlunydd cain neu’n drapisiwr, bydd gennym rywbeth ar eich cyfer.

  • Corfforol: Ai chi yw’r David Davies neu’r Nicole Cook nesaf? Gall bron pob camp, dawns neu weithgaredd ffitrwydd gyfrif.

  • Alldaith: Mynd ar alldaith a dod o hyd i’ch hun.  Hyfforddi, cynllunio a chwblhau taith anturus yng nghefn gwlad ar droed, ar geffyl, mewn cwch neu ar feic.

  • Project Preswyl: Gweithio fel tîm ar broject sy’n seiliedig ar gadwraeth, gwasanaeth neu weithgareddau am bum diwrnod (i Gyfranogwyr Gwobr Aur yn unig yw hyn).

Gwefan Gwobr Dug Caeredin

 

 

Mae’n hwyl, yn heriol ac yn wahanol, felly ewch amdani, atebwch yr her!

 

Am ragor o wybodaeth am y project hwn, cysylltwch â phrif swyddfa’r Gwasanaeth Ieuenctid ar:

 

  • 01446 709308