Cost of Living Support Icon

Arolwg Data Cyrchfannau a Chnocio ar Ddrysau

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda Gyrfa Cymru, ar gyfer yr Arolwg Cyrchfannau blynyddol a dilyn yn rheolaidd fel rhan o'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (y Fframwaith).

 

Fel rhan o'r Fframwaith, rhaid i Fro Morgannwg, ynghyd â phob awdurdod lleol yng Nghymru, olrhain pobl ifanc wrth iddyn nhw adael addysg o 16-18.  Gwneir hyn drwy waith rheolaidd gyda Gyrfa Cymru, yn ogystal â galwadau ffôn, e-byst ac ymweliadau cartref, yn dibynnu ar y wybodaeth gyswllt ddiweddaraf a gedwir.

 

Nod y cyswllt yw cadarnhau a ydych mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd ac, os na, a oes unrhyw gymorth y gallwn ei gynnig fel awdurdod lleol i'ch helpu i ailgydio mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Mae'r awdurdod lleol yn derbyn diweddariadau rheolaidd gan Gyrfa Cymru, ysgolion a phartneriaid eraill y mae pobl ifanc wedi rhoi'r gorau i addysg neu heb ymateb i apwyntiadau dilynol ac nid yw eu sefyllfa bresennol yn hysbys.  Yna mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn ymgymryd â gwaith dilynol i geisio cadarnhau'r sefyllfa bresennol yn ogystal â chynnig cefnogaeth, gan nodi rhwystrau i ymgysylltu a chyfeirio at wasanaethau eraill.  Gellir gwneud hyn drwy alwadau ffôn, e-byst, llythyrau neu ymweliadau cartref.

 

Mae'r tîm yn mynychu diwrnodau canlyniadau Safon Uwch a TGAU, i gefnogi'r rhai sy'n gadael blwyddyn 11 a 13 gyda'u camau nesaf, yn enwedig os gwnaethoch fethu â chael eich graddau gofynnol ar gyfer unrhyw gamau nesaf yr oeddech wedi'u cynllunio.

 

Os ydych wedi derbyn llythyr gan y tîm, neu os hoffech roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn ymweliad cartref, llenwch y ffurflen isod fel y gallwn ddiweddaru'ch cofnodion.  Bydd y diweddariadau hyn hefyd yn cael eu rhannu gyda Gyrfa Cymru i ddiweddaru eu cofnodion, yn unol â'n Cytundeb Rhannu Data. 

 

Diweddariad Data Cyswllt y Fframwaith

 

Os ydych wedi cael eich canlyniadau TGAU neu Safon Uwch yn ddiweddar ac yr hoffech ddiweddaru eich gwybodaeth gyda ni neu geisio cymorth pellach, yna cwblhewch y ddolen ganlynol.

 

Arolwg Cyrchfannau Canlyniadau TGAU a Safon Uwch

 

 

Dychwelyd at Ddewisiadau Ôl-16