Cost of Living Support Icon

Canllaw Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Isod gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y canllaw gyrfaoedd a chyflogadwyedd ym Mro Morgannwg.

 

Mae gwahanol wasanaethau ar gael i'ch helpu gyda'ch dewisiadau gyrfa ac i'ch helpu gyda'ch cyflogadwyedd.

 

Mae gwasanaeth Llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cynnig hyfforddiant, sesiynau galw heibio a chlybiau gwaith i bobl ddatblygu eu sgiliau.  Maent hefyd yn cysylltu â thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Fro ar gyfer cymwysterau ehangach.  Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan isod: 

 

Gyrfaoedd a Hyfforddiant gyda Llyfrgelloedd y Fro

 

Careers Wales Logo

 

 

Gyrfa Cymru yw’r gwasanaeth annibynnol a diduedd yng Nghymru sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd i bob oedran.

 

Os hoffech siarad â Chynghorydd Gyrfa Cymru, cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio drwy ddilyn y ddolen isod.

 

Cysylltwch â thîm Cymru'n Gweithio

 

Mae canolfan leol Gyrfa Cymru yn y Barri:

Canolfan Gyrfaoedd y Barri

49 Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4HF

I gael amseroedd agor cyfredol y ganolfan, dilynwch y ddolen hon.

 

 CFW+ Logo

 

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cymorth i drigolion Bro Morgannwg gael mynediad at gymorth cyflogadwyedd, cyngor, arweiniad a hyfforddiant.  Os ydych chi'n meddwl y byddech chi'n elwa o'r cymorth hwn, cysylltwch â Thîm Brysbennu Cymunedau am Waith:

 

  

 Dychwelyd at Ddewisiadau Ôl-16