Cost of Living Support Icon

Cyflogaeth, Prentisiaethau ac Interniaethau

Dewch o hyd i wybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth, prentisiaeth ac interniaeth ym Mro Morgannwg.

 

Os nad yw'r coleg neu'r brifysgol yn addas i chi, mae cyfleoedd eraill ar gael, yn lleol ac ar draws y wlad.  Gallwch fynd yn syth i mewn i gyflogaeth, neu ymgymryd â hyfforddiant wrth weithio trwy brentisiaeth, neu ennill profiad trwy interniaeth.

 

Os oes angen cymorth gyrfaoedd arnoch, ewch i'n tudalen arall i gael cyngor gyrfaoedd a chyflogadwyedd.

 

Canllaw Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

 

 

Cyfleoedd Cyflogaeth ym Mro Morgannwg

 

Mae gan Fro Morgannwg ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth y gellir gwneud cais amdanynt.

 

Mae'r dolenni isod ar gyfer Swyddi yng Nghymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) yn dangos swyddi gwag cyfredol yn ardal Bro Morgannwg.

 

Swyddi yng Nghymru - Swyddi Bro Morgannwg    AGPh - Swyddi Bro Morgannwg

 

  

Prentisiaethau

 

Mae prentisiaethau yn swyddi sy'n cynnwys hyfforddiant tuag at gymhwyster, sy'n eich galluogi i ennill cyflog wrth i chi ddysgu.

 

Mae gan Gyrfa Cymru ac UCAS ragor o wybodaeth am brentisiaethau a chronfeydd data chwiliadwy o gyfleoedd prentisiaethau.  Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy! 

 

Gyrfa Cymru - Prentisiaethau   UCAS - Prentisiaethau

 

 

Interniaethau

 

Mae interniaethau yn eich galluogi i ennill sgiliau gwerthfawr mewn sectorau penodol, trwy leoliad profiad gwaith sydd fel arfer yn para hyd at 12 wythnos.

 

Mae gan Gyrfa Cymru ac UCAS ragor o wybodaeth am interniaethau ac mae’n cyfeirio at gronfeydd data chwiliadwy o gyfleoedd interniaeth.  Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu mwy!

 

Gyrfa Cymru - Interniaethau   UCAS - Interniaethau

 

 

Dychwelyd at Ddewisiadau Ôl-16