Cost of Living Support Icon

Gyrfaoedd yn y Sector Gofal

Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal?  Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n berson gofalgar?  Efallai mai gwaith gofal fydd eich cam nesaf!

 

Mae llawer o wahanol rolau gofalwyr mewn llawer o leoliadau gwahanol ym Mro Morgannwg a thu hwnt.  Mae'r dudalen hon yn tynnu sylw at gyfleoedd hyfforddi a datblygu lleol yn ogystal â gwybodaeth am yrfaoedd o wefannau sector penodol. 

 

Rhaglen Llwybr Carlam i Ofal Bro Morgannwg

Mae Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Bro Morgannwg wedi sefydlu rhaglen hyfforddi AM DDIM i'r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad o gwbl mewn gofal cymdeithasol i fynd i gyflogaeth yn y sector hwn.


I wneud cais am y rhaglen, cliciwch ar y ddolen isod neu cysylltwch â Thîm Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol y Fro ar y manylion isod.

 

Rhaglen Llwybr Carlam i Ofal Bro Morgannwg

 

 

  

 

NHS HEIW Logo

 

Mae gan GIG Cymru faes penodol ar gyfer cymorth ac arweiniad ar yrfaoedd yn y GIG a'r sector gofal.  Mae eu gwefan 'Tregyrfa' ryngweithiol yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Ewch i’w gwefan i gael mwy o wybodaeth:

 

GIG Cymru - Tregyrfa

 

  

 We Care Wales logo

 

Mae Gofalwn Cymru yn darparu cyngor ar weithio ym maes gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant yng Nghymru, gan gynnwys y cymwysterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwahanol rolau.

 

Maent yn cynnig Cwis Gyrfaoedd, cysylltiadau â phrentisiaethau a swyddi o fewn y proffesiynau gofal.  Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.

 

Hafan Gofalwn Cymru               Cwis Gyrfaoedd Gofalwn Cymru

 

Prentisiaethau Gofalwn Cymru   Swyddi Gofalwn Cymru

 

Canllaw gofal cymdeithasol i fyfyrwyr

 

 

 Dychwelyd at Ddewisiadau Ôl-16