Cost of Living Support Icon

Safonau’r Iaith Gymraeg 

Mae’r Cyngor wedi gweithredu tri Chynllun Iaith dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae wedi ymrwymo i barhau i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.

 

Yn sgil cyflwyno Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyflwyno Hysbysiad Cydymffurfiaeth cyfreithiol i bob Cyngor. Mae ein hysbysiad yn manylu ar y modd mae’n ofynnol i ni ddarparu a gwella gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg. 

 

Hysbysiad Cydymffurfio

Mae’r hysbysiad cydymffurfiaeth yn crynhoi’r safonau y mae’n rhaid i’r Cyngor gydymffurfio â nhw. 

Cynllun Gweithredu

Mae cynllun gweithredu wedi cael ei lunio er mwyn cyflawni’r gofynion.  

Strategaeth Hybu'r Gymraeg

Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu strategaeth 5 mlynedd newydd i hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y Fro.

 

Trefniadau monitro

Mae’r cynlluniau gweithredu mewn perthynas â gweithredu cydymffurfiaeth a’r Strategaeth Hyrwyddo yn cael eu hadolygu’n fisol a chaiff Adroddiad Monitro Blynyddol ei gynhyrchu ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â Chyngor Bro Morgannwg yn Gymraeg neu Saesneg.

 

Byddwn yn ymateb i ohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg. Ni fydd gohebu yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

 

 

 

  • Y wefan 
    Dyma gyfeiriad y wefan Gymraeg www.bromorgannwg.gov.uk 
  • Y Ganolfan Gyswllt (C1V) 

    Rydyn ni’n darparu gwasanaeth yn Gymraeg i ateb y rhan fwyaf o’ch ymholiadau yn Gymraeg ar unwaith, heb orfod eich trosglwyddo i nifer o adrannau gwahanol.

     

    Un rhif sydd, sef 01446 700111. Gwasgwch 1 i siarad â chynrychiolydd sy’n siarad Cymraeg.  

  •  Cyhoeddiadau
    Mae canllawiau wedi cael eu dosbarthu i’n staff ar gyfieithu cyhoeddiadau i’r Gymraeg yma: Canllawiau Cyhoeddiadau yn Gymraeg
  • Y Cyfryngau Cymdeithasol 

    Rydyn ni’n rhannu newyddion a diweddariadau ar Instagram a Facebook. Dyma’r dolenni Cymraeg:  

     

    Instagram: @cbro_morgannwg 

    Facebook: Cyngor Bro Morgannwg 

  •  Pryderon a Chwynion Cymraeg

    Bydd cwynion neu bryderon yn ymwneud â’r Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a’r camau a amlygwyd ym mholisi Cwynion Corfforaethol y Cyngor.

     

    Dyma eu Pryderon a Chwynion ynghylch y Gymraeg Gweithdrefn

     

    Bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol cyn penderfynu os yw’r awdurdod neu’r maes gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol neu’n unol â pholisïau a gweithdrefnau a gymeradwywyd.

     

     

     

    Caiff cwynion yn ymwneud â’r Gymraeg a diffyg cydymffurfiaeth posibl gyda Safonau’r Gymraeg eu harwain gan y Swyddog Polisi Cydraddoldeb a’r Gymraeg mewn cysylltiad â’r Rheolwr Cwynion Corfforaethol a swyddogion o’r cyfarwyddiaethau neu feysydd gwasanaeth dan sylw. Bydd swyddogion yn dilyn y dull gweithredu corfforaethol hwn wrth ddelio gydag unrhyw gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg.

     

     

    Os oes gennych gŵyn am y Gymraeg neu unrhyw faterion Cymraeg eraill, gallwch gysylltu â Swyddog yr Iaith Gymraeg Elyn Hannah ehannah@valeofglamorgan.gov.uk

     

     

    Fel arall, gallwch gyflwyno cwyn trwy borth cwynion corfforaethol y Cyngor.

     

    Os teimlwch na chafodd y gŵyn ei datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd gyda’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, gallwch weithredu eich hawl i gwynio’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Gallwch gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg drwy:

     

       

     

     

     

     

    • Ffonio 0845 6033221
    • E-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
    • Ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau’r Farchnad, 5-7 Heol Santes Fair, Caerdydd, CF10 1AY

 

 

 

Adroddiadau Monitro Blynyddol 

Mae adroddiadau monitro blynyddol ein Cynlluniau Iaith Gymraeg blaenorol ar gael isod: 

 

 

Rydyn ni’n croesawu adborth gan ein trigolion am unrhyw agwedd ar ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg: 

 

Elyn Hannah, Swyddog Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg

Hannah Rapa, Swyddog Cyfathrebu