Cost of Living Support Icon

Goleuo rhan o'r nos yn y Fro

Fe wnaeth y project leihau allyriadau Co2 y Cyngor a chyfrannu'n helaeth at ostyngiad mewn costau ynni.

Street-light

 

Ar hyn o bryd, dim ond 2,510 o lusernau golau rhan o'r nos sydd gennym;gan fod ein rhaglen amnewid LED wedi golygu ein bod wedi gallu gosod dros 10,000 o lusernau LED mewn ardaloedd preswyl.

 

Bwrdd Prosiect Goleuo Nos Ysbeidiol 

Sefydlwyd Bwrdd Prosiect Goleuo Nos Ysbeidiol er mwyn dyfeisio a gweithredu meini prawf cadarn ar gyfer asesu risg a sefydlu methodoleg i benderfynu pa oleuadau all gael eu diffodd yn ddiogel, a thrwy hynny, caniatáu gweithrediad diogel goleuo nos ysbeidiol ledled rhwydwaith priffyrdd lleol y Cyngor.

 

Ymhlith y rhanddalwyr allweddol sy’n aelodau o’r Bwrdd Prosiect mae’r Heddlu a Phartneriaeth Bro Ddiogelach, swyddogion diogelwch y ffyrdd y Cyngor a pheirianwyr siartredig.

  

Part-night-lighting-map

Map Rhwydwaith Goleuo Nos Ysbeidiol

Ar y map rhyngweithiol isod, gallwch weld lleoliad y goleuadau nos ysbeidiol yn y Fro. I weld y goleuadau sy’n rhan o’r prosiect: 

  • Ehangwch yr allwedd tab ‘Goleuo Nos Ysbeidiol’ ar y ddewislen ar y chwith 
  • Ticiwch ‘LED Bulb’ 
  • Llywiwch draw i’ch ardal

Nodir goleuadau nos ysbeidiol mewn melyn, goleuadau LED mewn gwyrdd a goleuadau safonol mewn oren. 

 

Map goleuadau nos ysbeidiol

 

  •  Beth yw goleuo nos ysbeidiol? 

    Diffodd golau stryd am ran o’r nos. Yn y Fro, bydd y goleuadau perthnasol yn cael eu cynnau gyda’r gwyll (fel arfer), ac yna’n cael eu diffodd rhwng canol nos a 6.00am. Yna byddant yn cael eu goleuo eto nes iddi wawrio.

  •  Oes hawl cyfreithiol gan y Cyngor i ddiffodd y goleuadau? 
    Oes. Nid oes dyletswydd statudol ar gynghorau i ddarparu goleuadau mewn ardaloedd cyhoeddus. Yn ôl cyfraith gwlad:

    - Mae Deddf y Priffyrdd yn rhoi’r hawl i awdurdodau lleol oleuo ffyrdd, ond nid yw’n orfod ôl iddynt wneud hynny.

    - Mae dyletswydd gofal ar awdurdodau lleol dros ddefnyddwyr y ffyrdd, ac mewn rhai achosion, mae’n ddyletswydd arnynt i oleuo rhai mathau o offer ffyrdd, fel crybiau cyflymder.

  •  A fydd hyn yn digwydd i’r holl oleuadau?  
    Na fydd. Ni fydd yn effeithio ar oleuadau stryd LED, a bydd y goleuadau stryd hŷn yn cael eu hasesu i weld a fyddan nhw’n aros ynghyn. 
  • Oes adolygiad diogelwch wedi cael ei gynnal ar y ffyrdd perthnasol? 
    Oes. Mae pob ffordd yn cael ei hasesu gan swyddogion y cyngor a’r heddlu cyn gwneud y penderfyniad i ddiffodd y goleuadau’n ysbeidiol.
  • A fydd y cyfyngiad cyflymder o 30mya yn dal yn ddilys os yw’r goleuadau wedi’u diffodd?
    Mae cyfyngiad cyflymder o 30mya yn ddilys yn awtomatig ar unrhyw ffordd lle ceir system o oleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd oni nodir fel arall. Nid yw’r ddeddf yn datgan bod angen i’r ardal fod wedi’i goleuo er mwyn i’r cyfyngiad fod yn berthnasol. Dylai gyrwyr nodi bod y cyfyngiad arferol o 30mya yn orfodol p’un a yw’r goleuadau ynghyn ai peidio.
  • Oes cynghorau eraill sy’n gwneud yr un fath? 
    Oes. Mae cynghorau yng Nghymru a Lloegr wedi cyflwyno goleuo nos ysbeidiol a goleuadau LED yn llwyddiannus fel rhan o’u polisïau goleuo strydoedd.
  • Oni fydd hyn yn cynyddu lefelau troseddu a damweiniau ffordd? 
    Nid yw’r dystiolaeth mewn ardaloedd eraill sydd eisoes wedi gweithredu mesurau tebyg yn awgrymu bod cynnydd mewn lefelau troseddu na damweiniau ffordd yn digwydd yn eu sgil.

    Byddwn ni’n parhau i gyd-weithio’n glòs â’n cyfeillion yn y gwasanaethau brys yn ystod cyfnod cyflwyno’r goleuo nos ysbeidiol, ac wrth fonitro effaith goleuo nos ysbeidiol pan fydd wedi’i gwblhau.

  • Faint fydd y gost a faint fydd yn cael ei arbed? 

    Amcangyfrif cost gweithredu’r cynllun yw ychydig dros £350,000. Byddwn ni fel Cyngor yn arbed dros £371,000 mewn costau ynni a 1,338 tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn. 
  • A fydd goleuo nos ysbeidiol yn effeithio ar gost yswirio fy nghartref?

     

    Nid oes dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu goleuo cyhoeddus. Pwrpas y goleuo sy’n cael ei osod yw goleuo rhannau o’r priffyrdd. Ni osodir goleuadau stryd i warchod eiddo preifat.

     

    Nid yw pellter goleuadau stryd o’ch tŷ yn ffactor y bydd cwmnïau yswiriant yn ei ystyried wrth lunio polisïau yswiriant cartref, ac ni ddylent ei ystyried chwaith.

  • All y golau fod ynghyn drwy’r nos os ydw i’n gweithio shifft nos neu oriau anghymdeithasol?

    Bydd y meini prawf yn cael eu hasesu’n gydradd ym mhob ardal, ac ni fydd gwaith nos neu oriau anghymdeithasol yn rhan o’r ystyriaethau.