Cost of Living Support Icon

Goleuadau stryd LED 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gosod goleuadau stryd LED newydd ym mhob strydd breswyl fel rhan o broject buddsoddi £1.4 miliwn, a fydd o fudd i’r amgylchedd drwy leihau allyriadau Co2 a chostau ynni.

 

LED-Light-Four

Mae 10,000 o lusernau goleuadau stryd confensiynol wedi’u newid am rai LED mwy effeithlon, a gaiff eu pylu gan 50 y cant rhwng hanner nos a 6am, sy’n golygu mwy o oriau o olau a diwedd i oleuo rhan o’r nos yn yr ardaloedd hyn.  

 

Gall llusern LED bara am 20 i 25 o flynyddoedd neu 100,000 o oriau o’u cymharu â goleuadau traddodiadol, sydd â hyd oes o dair i chwe blynedd. Mae hyn yn golygu mi fydd gwaith cynnal a chadw’r Cyngor, a chostau atgyweiriadau yn lleihau. Mae goleuadau LED yn:

  • Para’n llawer hirach na goleuadau traddodiadol
  • Hwyluso adnabod wynebau drwy gamerâu diogelwch a chylched agos (CCTV)
  • Rhatach i’w rhedeg na goleuadau stryd traddodiadol
  • Gellir cyfeirio’r golau sy’n goleuo priffyrdd a llwybrau troed
  • Gostwng lefelau llygru golau, fel goleuadau sy’n sgleinio i mewn i gartrefi trigolion
  • Sgleinio golau gwyn llachar, sy’n gwneud lliwiau’n gliriach ac yn amlygu gwrthrychau’n gliriach yn ystod y nos
  • Darparu ffynhonnell golau gwyn sy’n goleuo’r ffordd a llwybrau, sy’n golygu bod llai o lygredd golau’n effeithio ar gartrefi a gerddi

Goleuadau LED yn y Fro 

Mae ein tîm goleuadau’r stryd wedi bod yn gosod lampau LED ledled Bro Morgannwg. Gallwch weld lleoliad y lampau LED ar y map.

 

Nodir goleuadau nos ysbeidiol mewn melyn, goleuadau LED mewn gwyrdd a goleuadau safonol mewn oren.

I weld lleoliadau’r lampau LED: 

  • Ehangwch yr allwedd tab ‘Goleuo Nos Ysbeidiol’ ar y ddewislen ar y chwith 
  • Ticiwch ‘LED Bulb’ 
  • Llywiwch draw i’ch ardal 

 

 Map y goleuadau LED

 

  • Ydych chi'n medru rheoli disgleirdeb a llewych y goleuadau newydd? 
     

    Mae technoleg newydd yn caniatáu i ni bylu’r golau yn oriau mân y bore lle nad oes angen goleuadau mor llachar oherwydd diffyg cerddwyr a thraffig. Os yw llewych gormodol yn achosi problem, gellir gosod lamplenni dros y goleuadau perthnasol.

  •  Ydy cynghorau eraill yn gosod goleuadau LED?
     

    Mae llawer o gynghorau eraill yng Nghymru a Lloegr wedi gosod goleuadau stryd LED fel rhan o’u strategaeth i ostwng lefelau ynni goleuadau stryd.