Cost of Living Support Icon

Pam dylech chi weithio i ni

 

Bro Morgannwg yw’r lle perffaith i fyw a gweithio ynddo. Nid yw’n bell o brifddinas Caerdydd ac mae iddi fynediad rhwydd at ffyrdd mawr, rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ffyniannus a chefn gwlad prydferth ar garreg eich drws. Mae pobl sy’n byw ym Mro Morgannwg yn rhai o’r hapusaf yn y DU, yn mwynhau safon byw uchel, sy’n cynnwys cyfraddau pasio uchel mewn arholiadau a thaith fer i’r gwaith.

 

Yn swyddogol, Bro Morgannwg yw’r lle hapusaf yng Nghymru (Ffynhonnell: Wales on Sunday)

 

 

Ein Diwylliant

Diwylliant yw calon ac enaid y Cyngor. Mae'n effeithio ar ein hymgysylltiad, ein cymhelliant, ein boddhad a'n perfformiad a bydd yn effeithio'n uniongyrchol ar lwyddiant y Cyngor

 

Drwy eich cefnogi chi fel unigolion i gyfrannu at y Cyngor a dathlu'r gwaith gwych a wnawn, byddwn nid yn unig yn parhau i greu profiad anhygoel i weithwyr ond hefyd yn creu diwylliant lle mae ein pobl yn teimlo'n gysylltiedig a bod ganddynt yr amgylchedd iawn i ffynnu.

 

Y Cyngor mwyaf llwyddiannus ei waith yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol (Ffynhonnell: Uned Ddata Leol)

 

Ein Llyfr Diwilliant

Mae'r Llyfr Diwylliant yn cwmpasu ac yn adeiladu ar y Siarter Staff ac yn tynnu sylw at amrywiaeth ein sefydliad, y gwaith eithriadol y mae ein staff yn ei wneud ac yn ein harddangos yn cyflawni ein Gwerthoedd ar waith.

Ein llyfr Diwilliant

Ein Gwerthoedd

Rydym am gyflogi pobl sy’n rhannu ac yn cofleidio ein gwerthoedd craidd:

 

  • Agored 

    Agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud.

     

    Mae bod yn agored yn ymwneud â sut rydym yn dryloyw yn ein gweithredoedd, ein penderfyniadau a'n cyfathrebu gan sicrhau bod ein cydweithwyr, ein cwsmeriaid a'n cymunedau yn agored ac yn onest.

  • Uchelgeisiol 

    Meddwl â golwg ar y dyfodol, gan groesawu ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.


    Mae bod yn uchelgeisiol yn ymwneud â herio ein hunain fel unigolion ac fel sefydliad i wneud yn well a newid lle bo angen.

  • Cydweithio
     Gweithio fel tîm sy’n ymgysylltu â’n cwsmeriaid a phartneriaid, sy’n parchu amrywiaeth ac sydd wedi ymrwymo i wasanaethau o safon.
     
    Mae gyda'n gilydd yn ymwneud â gallu unigolyn i gofleidio gwaith tîm, rhannu nod cyffredin gyda chydweithwyr a gweithio ar y cyd ag eraill.
  • Balchder 
    Yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
     
    Mae bod yn falch yn ymwneud â chydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr a hanfodol a ddarparwn i gymunedau ac unigolion a'r boddhad y mae rhywun yn ei gael wrth gyflawni ei rôl hyd eithaf eu gallu.

 

Buddion a chymorth i gyflogeion

Rydym yn cynnig ystod o fuddion i gefnogi cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd:

 

  • Trefniadau gweithio hyblyg

    Lady using a laptopRydym y cydnabod pwysigrwydd cydbwysedd rhwng y gwaith â’r bywyd cartref ac yn cynnig ystod o bolisïau sy’n cydymdeimlo â theuluoedd.

    Rydym yn cynnig offer TG sy’n galluogi gweithio hyblyg a gweithio o’r cartref, yn amodol ar eich rheolwr llinell ac anghenion y gwasanaeth.

     

  • Pensiwn hael a gwyliau blynyddol 
    Rydym yn cynnig aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon.

     

     

    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

    Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn rhan werthfawr o’r pecyn buddiannau ar gyfer cyflogeion ac mae’r manteision wedi eu diffinio a’u gwarantu gan gyfraith.  Caiff eich pensiwn ei gyfrifo bob blwyddyn a’i ychwanegu at eich cyfrif pensiwn.  Bob blwyddyn rhoddir 1/49 o’ch tâl pensiynadwy yn eich cyfrif pensiwn.  Rydych hefyd yn cael gostyngiad treth ar y cyfraniadau rydych yn eu talu ac mae’r dewis i chi gyfnewid rhan o’ch pensiwn pan fyddwch yn ei hawlio am un swm di-dreth.

     

    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 

     

    Cynllun Pensiwn Athrawon 

     

    Mae’r Cynllun Pensiwn Athrawon yn rhoi incwm i chi ar gyfer eich ymddeoliad; gallwch hyd yn oed gymryd rhan o’ch pensiwn fel un swm di-dreth pan fyddwch yn ymddeol.  Rydych chi a’r Cyngor yn talu cyfraniadau tuag at gost eich pensiwn.  Mae gan Bensiynau Athrawon borthol ar-lein lle cewch gofrestru a chadw cofnod o’ch pensiwn a gweld a lawrlwytho eich Datganiadau Buddion.

     

    Cynllun Pensiwn Athrawon

     

    Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol

    Gall cyflogeion ddewis prynu 5 neu 10 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata i’r rhai sy’n gweithio rhan amser).

     

    Fel rhan o’r ymrwymiad parhaus i helpu cyflogeion i gydbwyso eu hymrwymiadau gwaith â’u bywyd cartref, mae Bro Morgannwg yn gweithredu cynllun sy’n galluogi cyflogeion i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.

  • Cynllun adleoli hael 
     

    Rydym yn cynnig cymorth symud o hyd at £8,000 i’ch helpu i symud yn nes at eich man gwaith newydd (yn dibynnu ar gymhwysedd). Mae hyn yn talu costau gwagio a symud, a all gynnwys gwagio eiddo; lwfans llety neu deithio; datgysylltu ac ailgysylltu gwasanaethau a rhai ffioedd proffesiynol penodol (e.e. asiantaethau gwerthu tai a chyfreithwyr).

     

    Cynllun Adleoli

  • Cynllun Benthyciad Car 

    Os oes angen prynu car arnoch, mae cynllun benthyciad car cystadleuol ar gael i’r holl staff.


    Parcio am ddim: Mae lleoliad ein swyddfeydd yn cynnwys maes parcio mawr sydd â pharcio am ddim a mynediad i’r orsaf drenau leol.

  • Cynlluniau cydnabod 

    Gwobrau Staff Blynyddol

    Mae Digwyddiad Gwobrau Blynyddol i Gyflogeion newydd sbon wedi ei lansio yn 2018, sy’n dathlu ac yn cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad staff Bro Morgannwg.

     

    Ystyriwyd chwe chategori i gyd: Gwobr Arloesi a Syniad Gwych; Gwobr Gwasanaeth Cwsmeriaid/Cyfraniad; Gwobr Tîm y Flwyddyn; Gwobr Llwyddiant Oes; Gwobr Rheolwr y Flwyddyn a Gwobr Cyflogai’r Flwyddyn. 
     
    Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr ac yn y dyfodol, bydd y tîm Gwobrau’n ceisio parhau’r fenter gydnabod hon.

  • Gweithgareddau ymgysylltu â staff 

    Llyfr Diwylliant (Siarter Staff yn flaenorol) ac Arolwg Staff

    Mae’r arolwg staff blynyddol yn ein helpu i ddeall sut mae staff yn teimlo y caiff yr ugain disgwyliad yn y Siarter Staff eu cyflawni ac mae’n helpu i lywio mentrau ymgysylltu a chynorthwyo staff yn y dyfodol.

     

     

    Dyluniwyd y Siarter Staff mewn partneriaeth â chyflogeion, cafodd ei ddatblygu i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig y gwasanaeth gorau bosibl i’n cwsmeriaid trwy’r cyfraniad gorau bosibl gan ein holl gyflogeion. Wrth i’r heriau allanol dyfu, mae’n bwysig bod pawb yn cael y gefnogaeth a’r cyfle i wneud y cyfraniad hwnnw. 

     

    Mae arolwg blynyddol (a lansiwyd yn 2016) wedi ei gynnal fesul blwyddyn i fesur lefelau ymgysylltiad staff ac effeithiolrwydd Siarter Staff y Cyngor. Dangosodd canlyniadau arolwg staff 2017:

     

    • ‘Ymddiriedir ynof i fwrw ymlaen â’m gwaith’ oedd y disgwyliad a gafodd y sgôr uchaf, sef 92.5%

    • Bu cynnydd yng nghyfartaledd cyfraddau’r ymatebion ‘cadarnhaol’ mewn 15 o’r 20 disgwyliad ar y Siarter Staff

    • Bu cynnydd yng nghyfraddau dychwelyd yr arolwg o 48% i 57% ers y flwyddyn flaenorol

    Bydd gwaith ynghlwm ag ymgysylltiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel a bydd y canlyniadau’n helpu i roi gwybodaeth a llywio blaenoriaethau ymgysylltu â staff yn y dyfodol. 

     

    Mae’r Llyfr Diwylliant bellach wedi’i lansio yn 2021.

     

    Gwerthuso a Datblygu Staff 

    Rydym yn ymrwymo i hyfforddiant a datblygu gyrfaoedd, cynnig llwybr gyrfa gwerth chweil, sy’n datblygu ac sy’n agored ac yn deg i bawb.

     

    Mae cynllun gwerthuso blynyddol Bro Morgannwg wedi ei ddiwygio i gynnwys gwybodaeth o’r strategaeth ymgysylltu â chyflogeion i wneud y broses yn haws ei defnyddio ac yn fwy ystyrlon i bob cyflogai ac yn hanfodol, yn rhan o’r drafodaeth barhaus rhwng rheolwyr a staff. 

     

    Caffi Dysgu

    Mae’r Caffi Dysgu yn annog staff i gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n procio’r meddwl. Mae wedi ennill gwobrau sydd wedi cyflwyno ffordd newydd, anffurfiol o rwydweithio, rhannu syniadau a hyrwyddo arfer gorau. Rydym yn gwahodd staff i fynychu digwyddiadau misol mewn lleoliad cyfeillgar ac ymlaciol. Yn ogystal, anfonir erthyglau yn rheolaidd.

  • Cefnogaeth Iechyd a Lles 

    Mae gan bob gweithiwr hawl i weithio mewn amgylcheddau lle mae risgiau i'w hiechyd a'u diogelwch yn cael eu rheoli'n briodol.

     

    Rydym wedi neilltuo gwasanaethau mewnol mewn perthynas ag Iechyd Galwedigaethol, Iechyd a Diogelwch a Thrin a Chario sy'n darparu cefnogaeth a chymorth mewn perthynas â'ch iechyd, eich diogelwch a'ch lles. Mae enghreifftiau o wasanaethau o'r fath yn cynnwys: rheoli absenoldeb salwch, gwyliadwriaeth iechyd, hyfforddiant penodol i swydd, datblygu polisi, cymorth asesu risg, asesiadau yn y gweithle, ymchwiliadau damweiniau, asesiadau risg tân, archwiliadau iechyd a diogelwch, ac ati.

  • Rhaglen Cymorth i Gyflogeion 

     Mae ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion yn cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol ar gyfer problemau yn y gwaith a gartref.


    Mae’r gwasanaethau ar gael ar-lein a thrwy ffonio rhif Rhadffon ar unrhyw adeg o’r dydd neu nos.


    Mae cymorth ar gael mewn amryw o ffyrdd:

     

    • Gwasanaeth cwnsela dros y ffôn, cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn (gellir cynnig cwnsela wyneb yn wyneb hefyd yn dilyn asesiad clinigol)

    • Mynediad at wybodaeth, cymorth a chymorth diduedd, am ddim i’ch helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol i gwestiynau bywyd. Mae testunau cyffredin yn cynnwys problemau teuluol a phersonol, rheoli arian/dyled, budd-daliadau, cyflogaeth, darpariaeth gofal plant, iechyd, ysgrifennu ewyllys a materion defnyddwyr

    • Gwasanaeth iechyd a lles ar-lein gydag ystod eang o adnoddau ar ffurf erthyglau a gwybodaeth sy’n cael eu diweddau’n rheolaidd i’ch helpu i reoli ffordd iach o fyw.

    • Gwefan ac ap ffôn sy’n cynnig cymorth iechyd a ffitrwydd personol

     

  • Cyfleoedd Gyrfa i Bobl Ifanc 
    Mae’r Cyngor o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella ar nifer y bobl ifanc 16-24 oed sy’n mynd trwy Gyfleoedd Prentisiaethau / Graddedigion.

     

    Mae enghreifftiau’n cynnwys cyfleoedd prentisiaeth yn yr adrannau Rheoli Adeiladau, y Fflyd Drafnidiaeth a TGCh. Caiff y cyfleoedd hyn eu hysbysebu ar fwletin swyddi gwag y Cyngor.

     

    Mae canllaw gyrfa gan y gymdeithas Llywodraeth Leol sy’n disgrifio’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud i annog pobl ifanc i ystyried gyrfa mewn llywodraeth leol.  Mae’n disgrifio’r gwaith pwysig y mae cynghorau yn ei wneud yn y llefydd y mae pobl ifanc yn byw, gweithio, dysgu, siopa, cymdeithasu ac yn ymarfer corff ynddynt.

     

    Canllawiau Gyrfaoedd Cymdeithas Llywodraeth Leol

  • Gofalwyr sy’n Gweithio 
    Mae ein polisi gofalwyr yn cynnwys nifer o fanteision i gyflogeion yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol.

     

    Mae’r polisi hwn yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion gofalwyr sy’n gweithio i Gyngor Bro Morgannwg. Mae’r Cyngor yn ceisio cynorthwyo cyflogeion sydd â chyfrifoldebau gofalu a rhoi’r gallu iddynt gydbwyso’r rhain yn effeithiol â’u cyfrifoldebau cyflogaeth.

     

    Gofalwyr sy’n Gweithio

 

Cynhwysiant, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym yn ceisio hyrwyddo diwylliant cynhwysol i bob aelod staff.

 

Felly, rydym yn eich croesawu a’ch cais waeth beth yw eich cefndir a’ch oedran; anabledd; hunaniaeth o ran rhyw; priodas neu bartneriaeth sifil; beichiogrwydd neu famolaeth; hil; lliw croen a chenedligrwydd (yn cynnwys dinasyddiaeth); tarddiad ethnig neu genedlaethol; crefydd a chred; yn cynnwys dim cred; rhyw; a chyfeiriadedd rhywiol.


Mae gennym rwydwaith LHDT+ a Chynghreiriaid ar gyfer pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a grwpiau eraill o staff rhyw a rhywedd lleiafrifol (LHDT+).  Mae’n cwrdd bob mis i gynnig cymorth, cyfle i drafod problemau sy’n effeithio ar bobl LHDT+ ac adnabod ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o faterion LHDT+.

 

Rydym wedi arwyddo Addewid Cyflogwyr Adeg Newid ac rydym yn ymrwymo i newid sut rydym yn meddwl ac yn ymddwyn mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y gweithle a sicrhau bod cyflogeion sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth.

 

Byddwn cyn hir yn datblygu grŵp arall i hyrwyddo amgylchedd gwaith cynhwysol ac amrywiol ar gyfer ystod ehangach o staff.


Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd.

 Equalities workplace logos

Gwybodaeth ychwanegol

Os oes angen rhagor o wybodaeth am Gyngor Bro Morgannwg arnoch, cysylltwch â ni: