Cyllidebu

Mae cyllidebu personol yn ffordd wych o wneud i'ch arian fynd ymhellach. Mae'n aml yn syndod edrych ar gyfriflenni banc a gweld lle mae'r holl arian wedi mynd ar ddiwedd y mis. Gall pennu cyllideb ar ddechrau'r mis roi mwy o sefydlogrwydd i chi o ran gwneud penderfyniadau ariannol.

Sut i gynllunio'ch cyllideb

Mae cyllideb yn rhestr o'r holl arian a gewch a'r holl bethau rydych yn gwario arian arnynt bob mis.

Gwneud cyllideb yw'r cam cyntaf tuag at reoli eich cyllid a sicrhau bod eich sefyllfa ariannol ar y trywydd iawn. Mae cyllidebu yn eich helpu i weld ble mae'ch arian yn mynd, felly mae'n haws sicrhau bod gennych yr arian i dalu am yr holl bethau y mae angen i chi dalu amdanynt.

Mae llawer o offer am ddim ar gael ar-lein i'ch helpu i greu eich cyllideb, er enghraifft:

 

StepChange Debt Charity - Sut i greu cyllideb bersonol

  • Cam 1: Cyfrifwch gyfanswm eich incwm

  • Cam 2: Gwnewch restr o bopeth rydych yn gwario arian arno bob mis

  • Cam 3: Didynnwch y cyfanswm rydych yn ei wario bob mis o'ch incwm misol

 

Ar ôl i chi ddidynnu eich gwariant o'ch incwm, os oes gennych unrhyw arian dros ben wedyn mae gennych 'warged yn eich cyllideb'. Os ydych yn gwario mwy o arian nag a gewch wedyn mae gennych 'ddiffyg yn eich cyllideb'.

 

Rheoli eich treuliau

Mae cost i bopeth mewn bywyd. Dyna pam mae'n bwysig sicrhau eich bod yn adolygu'ch treuliau'n rheolaidd er mwyn sicrhau nad ydych yn talu gormod.

Gwybodaeth am leihau’r swm rydych yn ei wario

 

Rheoli eich dyledion a benthyca

Un o'r ôl-ddyledion mwyaf straenus o ran cyllid personol yw dyled. Gall benthyca, gyda'r bwriadau gorau, ddod yn broblem.

Os oes gennych ddyled ond eich bod yn llwyddo i'w thalu, efallai y byddwch yn dal i allu arbed arian. Gall trosglwyddo dyledion llog uchel i gardiau credyd sero y cant arbed swm sylweddol o arian. Y peth pwysig yw sicrhau eich bod yn talu cyfradd llog mor isel â phosibl.

Os ydych yn cael trafferth gyda'ch dyledion, mae'n bwysig siarad â rhywun sy'n gymwys i roi cyngor ar ddyledion. Argymhellir siarad ag elusen annibynnol fel StepChange. Os ydych eisoes wedi cwblhau cyllideb, bydd hyn yn eu helpu i asesu'r ffordd orau o reoli'ch dyledion. Mae llawer o atebion ar gael felly peidiwch â bod ofn cysylltu.

Cael cyllid

Er nad cael cyllid yw’r ateb gorau bob amser, weithiau nid oes modd ei osgoi ac weithiau gall hyd yn oed fod yn fuddiol. Gallwch gael credyd fforddiadwy gan Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro.