Speak out banner - CYM

Codi Llais

Adrodd am gamymarfer yn y gweithle  

Mae'r Hyb Codi Llais yn ei gwneud hi'n gyflym ac yn hawdd i chi roi gwybod am eich pryderon drwy ffurflen ar-lein, llinell ffôn neu e-bost (yn gyfrinachol os hoffech). 

 

  • 01446 731115

 

 Ffurflen ar-lein Codi Llais

Adnoddau Codi Llais

Lawrlwythwch adnoddau Codi Llais:

Pecyn Adnoddau

Pam Codi Llais?

Mae codi’ch llais neu 'chwythu'r chwiban' yn cael effaith gadarnhaol ar y sefydliad, gan ddiogelu cyllid ac enw da'r Cyngor tra'n cadw cydweithwyr a chwsmeriaid yn ddiogel.

Polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor

Mae polisi chwythu'r chwiban y Cyngor yn croesawu'r holl bryderon gwirioneddol ac yn trin materion a adroddwyd o ddifrif.

Mae'r polisi yn esbonio:

  • Sut i fynegi pryder

  • Y mathau o weithgarwch y dylid rhoi gwybod

  • Yr amddiffyniad y mae'r Cyngor yn ei ddarparu

  • Cyfrinachedd

  • Ymateb y Cyngor

  • Sut i fynd â materion ymhellach, os oes angen

Polisi Chwythu'r Chwiban

Gallwch ddarganfod beth mae'r polisi'n ei gynnwys drwy ddarllen y polisi chwythu'r chwiban ar dudalen neu wylio'r animeiddiad crynodeb byr:

Eich Diogelwch

Mae polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor yn caniatáu i chi godi pryder mewn modd cyfrinachol.

Mae'r polisi'n sicrhau nad yw'r rhai sy'n dewis codi eu llais yn cael eu herlid na'u diswyddo am godi eu pryderon.

Mae'r rhai sy'n dewis codi eu llais wedi'u diogelu'n gyfreithiol a bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw eich enw'n cael ei ddatgelu heb eich caniatâd.

Nid yw'r Cyngor yn goddef unrhyw aflonyddu neu erlid a bydd yn cymryd camau i amddiffyn y rhai sy'n codi pryderon.

Mae cyfraith y DU yn amddiffyn gweithwyr rhag diswyddiad, aflonyddu neu erledigaeth os bydd triniaeth o'r fath yn digwydd o ganlyniad i ddatgeliad chwythu'r chwiban yr ystyrir ei fod er budd y cyhoedd.

Gallwch ddarllen mwy am yr amddiffyniad cyfreithiol a roddir i chwythwyr chwiban ar dudalen 5 o Bolisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor. 

Pryd i Godi Llais

Dylech godi llais pan fydd gennych bryder gwirioneddol am gamymarfer, megis:

  • Ymddygiad sy’n drosedd neu sy’n torri’r gyfraith

  • Torri ein Cod Ymddygiad ar gyfer staff neu Gynghorwyr

  • Cam-drin rhywiol, corfforol neu eiriol tuag at gleientiaid, gweithwyr, contractwyr neu'r cyhoedd

  • Gweithdrefnau peryglus sy'n peryglu iechyd a diogelwch cleientiaid, cyflogeion, contractwyr neu'r cyhoedd

  • Defnydd anawdurdodedig o arian cyhoeddus

  • Amheuaeth o dwyll neu lygreddn

  • Difrod i'r amgylchedd (e.e. tir, adeiladau, priffyrdd, dŵr, aer, gwastraff, ynni, trafnidiaeth, cynefin naturiol ac ati)

  • Ymddygiad anfoesegol neu amhriodol

  • Gwasanaethau sy'n disgyn yn ddifrifol is na safonau neu arferion cymeradwy

  • Methiant i ddilyn polisïau a gweithdrefnau'r Cyngor

Cofiwch, os yw eich pryder yn ymwneud â chi'ch hun yn unig, yn hytrach na chamweddau o natur fwy cyffredinol, caiff hyn ei drin fel cwyn a byddai Polisi Cwynion y Cyngor yn berthnasol. 

Sut i Godi Llais

Yn gyntaf, ystyriwch a yw eich pryder yn fater chwythu'r chwiban neu'n gŵyn.  Os ydych yn ansicr, gallwch ddarllen mwy am faterion chwythu'r chwiban ar dudalen 8 o bolisi chwythu'r chwiban y Cyngor

Rhowch wybod am eich pryderon yn gyfrinachol gan ddefnyddio'r ffurflen Codi Llais ar-lein, dros e-bost neu dros y ffôn.

 

  • 01446 731115

 

Ffurflen ar-lein Codi Llais

Fel arall, os byddai'n well gennych, gallwch roi gwybod yn uniongyrchol i'ch rheolwr llinell am eich pryderon. 

Beth i'w ddisgwyl nesaf

Bydd ymateb y Cyngor i bryder a godwyd yn dibynnu ar ei natur. Gallai hyn fod yn un o weithdrefnau amrywiol, gan gynnwys ymchwiliad mewnol neu allanol neu gamau y cytunwyd arnynt i ddod i benderfyniad.

Bydd y Rheolwr Gweithredol Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cofnodi'r honiad ar gofrestr ganolog.

O fewn y 10 diwrnod gwaith nesaf bydd y chwythwr chwiban yn cael esboniad ar sut mae'r Cyngor yn bwriadu delio â'r mater.

Darllenwch fwy am beth i'w ddisgwyl nesaf ar dudalen 10 polisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor.