Trefniadau Newydd Mynediad o Bell  

Gwybodaeth i staff i sefydlu tocyn RSA a chael mynediad i'r rhwydwaith diogel o'r cartref

Er mwyn sicrhau y gallwn gynnal parhad busnes, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau allweddol, a dileu'r angen i deithio heblaw pan fo’n gwbl hanfodol, mae proses newydd ar gyfer mynediad i TGCh o bell bellach yn cael ei chyflwyno i staff swyddfeydd.   

Bydd hyn yn galluogi'r holl staff i weithio o gartref ac yn mynd i'r afael â'r trafferthion a gafodd llawer gyda mynediad drwy'r system Auto-VPN.  

Mae'r system newydd yn galluogi staff i fewngofnodi i rwydwaith TGCh y Cyngor drwy ddefnyddio cod a gynhyrchir gan app ar naill ai eu ffôn symudol corfforaethol neu bersonol. 

O ddydd Llun 30 Mawrth caiff staff gyfarwyddiadau i'w galluogi i fewngofnodi i rwydwaith TGCh y Cyngor drwy ddefnyddio cod a gynhyrchir gan app RSA ar eu ffôn symudol.  

Dylai eich rheolwr gweithredol neu'ch rheolwr tîm fod wedi cysylltu i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyflwyno'r rhaglen:

  • Eich rhif ffôn symudol 

  • Eich cyfeiriad e-bost personol 

  • Rhif HID eich cyfrifiadur neu liniadur 

  • A oes gennych ddyfais symudol gorfforaethol gyda'r app RSA wedi'i osod arni

  • Ai Apple ynteu Androis yw eich ffôn symudol personol (os nad oes gennych ffôn gwaith)

Mae'r holl wybodaeth hyn yn hanfodol ar gyfer y broses gyflwyno, felly sicrhewch fod yr wybodaeth yn gywir ac wedi'i dychwelyd at eich rheolwr gweithredol neu reolwr yn syth. 

Isod cewch gyfarwyddiadau ysgrifenedig a fideos cyfarwyddiadol i'ch helpu i osod yr app RSA ar eich dyfais symudol a chysylltu â'r rhwydwaith diogel. 

Sylwch na fyddwch yn gallu gwneud hyn nes bod yr adran TG wedi anfon e-bost atoch gydag atodiad a chyfrinair i gael mynediad i’r app RSA. Mae hyn yn cael ei gyflwyno i dimau o ddydd Llun 30 Mawrth, bydd eich Rheolwr Gweithredol yn cael gwybod pan fo’r holl negeseuon e-bost wedi cael eu hanfon at eich tîm. 

 

Ar ôl ei sefydlu, defnyddiwch eich tocyn RSA F5 fel eich dull o gysylltu. Datgysylltwch eich Aruba o'r rhwydwaith neu bwerwch yr Aruba i ffwrdd. Os na wnewch hynny, mae perygl ichi arafu cyflymder eich cysylltiad neu gael gwallau ar eich cysylltiad.

Os cewch unrhyw broblemau wrth sefydlu app RSA neu wrth gysylltu â'r rhwydwaith, cysylltwch â'ch rheolwr i gychwyn. Os na all eich rheolwr eich helpu, yna bydd tîm o swyddogion TG a Datblygu Sefydliadol wrth law i'ch cynorthwyo.