Hyb Costau Byw

Diben yr hyb hwn yw cynnig camau ymarferol gallwch unrhyw un eu cymryd er mwyn gwella eu gwydnwch ariannol. P'un a ydych yn cael trafferth nawr neu’ch bod dim ond eisiau rheoli’ch arian yn well, gallwch ddilyn y camau hyn i wella'ch sefyllfa ariannol gan ddechrau heddiw.

 

 

Advicelink Cymru

Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo'r straen ar gyllidebau eu cartrefi oherwydd costau byw cynyddol, gan wneud cymorth ychwanegol yn bwysicach nag erioed.

Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallent fod yn gymwys i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.

Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, cysylltwch â llinell gymorth am ddim Advicelink Cymru:

  • 0808 250 5700

 

Advicelink Cymru

 

Adnoddau Lles Ariannol ar iDev

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob un ohonom, a chyda'r cynnydd mewn biliau ynni a chostau byw hanfodol eraill eleni, mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd i deimlo'r effaith ar eu cyllid.  Gallwch ddod o hyd i adnoddau all eich helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn ar iDev. Fel rhan o'r pecyn hwn gallwch hefyd wylio fersiwn wedi'i recordio o'r gweminar Costau Byw a gynhelir drwy'r Caffi Dysgu gyda Better with Money. Mae’r sesiwn yn ymdrin â’r canlynol: Cynllunio eich arian, awgrymiadau i leihau costau, gwneud y mwyaf o incwm, rheoli dyled, y cymorth sydd ar gael a llawer mwy.

Adnoddau Lles Ariannol ar iDev

 

Ble i gael help yn y Fro

Wrth i gost ynni, tanwydd a biliau cartref godi, efallai y byddwch yn ei chael yn anoddach talu'ch biliau. Mae nifer o ffyrdd y gallwch gael help ym Mro Morgannwg:

 

cacv-logo

Talu biliau

Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro

Mae Cyngor ar Bopeth yn elusen annibynnol sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol a diduedd am ddim i drigolion Dinas a Sir Caerdydd a Bro Morgannwg. Maent yn cynnig cymorth gyda dyled, budd-daliadau, tai a mwy.

Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro


 

Rhoi bwyd ar y bwrdd 

Pod Bwyd Penarth

Gall unrhyw un fynd i’r Pod Bwyd ym Mhenarth i gael nwyddau tun a darfodus, nwyddau ymolchi a chynhyrchion hylendid ar sail talu’r hyn y gallwch ei fforddio.

Mae'r Pod Bwyd yn gweithredu o gynhwysydd llongau wedi'i addasu yn ystâd St Luke. Mae ar agor ar ddydd Llun ac ar ddydd Gwener rhwng 2pm a 4pm ac ar ddydd Mercher rhwng 3.30pm a 5.30pm.

Gwybodaeth am Bod Bwyd Penarth

Banciau bwyd

Mae hefyd nifer o fanciau bwyd ym Mro Morgannwg. Os ydych yn cael trafferth talu am fwyd, dysgwch sut i gael help gan fanc bwyd.


Urddas Mislif

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn cefnogi teuluoedd i sicrhau urddas mislif i fenywod a merched o gartrefi incwm isel. 

Mae cymorth parhaus wedi'i roi ac mae cynhyrchion wedi bod ar gael drwy ysgolion, y tîm 15plus, y gwasanaeth lles ieuenctid a phartneriaid cymdeithasau tai amrywiol.

Mae partneriaethau gyda mudiadau’r trydydd sector, gan gynnwys banciau bwyd, canolfannau cymunedol, canolfannau teulu ac ati, wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau mynediad i gynhyrchion mislif, yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol bosibl.


Wellbeing Jigsaw Pieces

Cefnogaeth Iechyd a Lles

Gweld canllawiau a gweithgareddau i gefnogi eich iechyd a lles.

Eich Lles