Cost of Living Support Icon

 

Pod Bwyd Newydd yn agor ym Mhenarth

MAE adran dai Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio ei Bod Bwyd newydd ym Mhenarth, yn cynnig bwydydd tun a bwydydd darfodus, deunyddiau ymolchi a chynnyrch glanweithdra i breswylwyr ar sail talu faint y gallwch. 

 

  • Dydd Iau, 03 Mis Mawrth 2022

    Bro Morgannwg

    Penarth



Wedi'i sefydlu am y tro cyntaf ym mis Awst gyda chymorth Cymdeithas Trigolion Star a gwirfoddolwyr o'r ardal leol, mae'r Pod Bwyd bellach yn gweithredu o gynhwysydd llongau wedi'i addasu ar ystâd St Luke's. 


Mae ar agor ar ddydd Llun a dydd Gwener rhwng 2pm a 4pm a dydd Mercher rhwng 3.30pm a 5.30pm.


Y nod yw helpu cymunedau lleol sydd wedi wynebu heriau mawr yn ystod y pandemig a bydd y pod bwyd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â gwastraff bwyd. 


Mae'r Pod Bwyd yn rhan o raglen Cymdogaeth Llechen Lân y Cyngor, cynllun dwy flynedd i wneud y rhan hon o Benarth yn lanach, yn wyrddach, yn iachach ac yn fwy cysylltiedig. 

 

foodpod1Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Hoffwn ddiolch i Jane Hutt, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, am ymuno a ni i agor y cyfleuster pwysig hwn.


"Roeddem yn gwybod bod pobl yn ei chael hi'n anodd yn sgil yr argyfwng coronafeirws ac roeddem am helpu. Mae'n bwysig bod y Cyngor yn darparu cymorth mewn unrhyw ffordd y gallwn.


"Ni ddylai neb fynd yn llwglyd a gobeithio y bydd y fenter hon yn helpu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd ym Mhenarth.


"Mae'r Pod Bwyd yn cynnig amrywiaeth o nwyddau, gyda phobl yn talu dim ond yr hyn y gallant ei fforddio. Yn aml, mae cynhwysion ar gael ar gyfer nifer o brydau bwyd yn ogystal â hanfodion y cartref.


"Mae gwirfoddolwyr o Gymdeithas Trigolion STAR a gwirfoddolwyr lleol eraill wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o sefydlu'r gwasanaeth hwn a hoffwn ddiolch iddynt am yr ymdrechion hynny."

Dywedodd Jane Hutt AS, Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru: "Roeddwn wrth fy modd yn agor Pod Bwyd Penarth yn ffurfiol heddiw.  Mae'r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar gyllid pobl ac erbyn hyn mae'r argyfwng costau byw yn gwneud aelwydydd hyd yn oed yn fwy agored i niwed yn ariannol.  Mae prisiau ynni cynyddol a chwyddiant cynyddol yn ei gwneud yn anos fyth i bobl fforddio'r hanfodion sylfaenol fel bwyd.  


"Mae'r cynllun hwn wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymuned, gyda chymorth grŵp gwych o wirfoddolwyr, yn gweithio'n agos gyda'r cyngor lleol i gefnogi ei thrigolion.  Mae'r Pod Bwyd eisoes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl leol."