Mynediad Diawdurdod at Ddata

Gwnewch eich rhan i ddiogelu data!

Fel Cyngor, rydyn ni'n casglu llawer o ddata personol am y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Weithiau gall pethau fynd o le, a gellir defnyddio data personol yn anghywir neu ei roi i dderbynnydd anfwriadol. Pan fydd hyn yn digwydd, gallai achos o fynediad diawdurdod at ddata fod wedi codi.

Os ydych chi'n credu y gallai fod achos o fynediad diawdurdod at ddata, mae'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yma i helpu. Gallan nhw gynnig cyngor a chymorth, a byddan nhw’n eich helpu drwy'r cyfan.

Rydyn ni wedi creu'r dudalen hon i'ch helpu i ddysgu:

 

Hyfforddiant Diogelu Data 

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o staff adolygu a diweddaru ei wybodaeth am yr Egwyddorion Diogelu Data yn rheolaidd, mae hyn yn sicrhau eich bod wedi eich paratoi’n llawn i ymdrin ag unrhyw ddata y byddwch yn ei drin. 

Mae’r Modiwl Dysgu Diogelu Data yn iDev ac mae'n trafod gwybodaeth bersonol, diogelu data a mynediad diawdurdod at ddata. Mewngofnodwch nawr i sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf neu i adnewyddu eich gwybodaeth.

 

What is a data breach CY

Beth yw mynediad diawdurdod at ddata?

Diffiniad mynediad diawdurdod at ddata yw ‘tanseiliad diogelwch sy’n arwain at ddinistrio, colli, newid, datgelu heb awdurdod, neu fynediad heb awdurdod at, ddata personol a drosglwyddir, ei storio, neu ei brosesu fel arall yn ddamweiniol neu’n anghyfreithlon.

Dyma enghreifftiau o wahanol fathau o fynediad diawdurdod at ddata:

  • Anfon gwybodaeth bersonol at y person anghywir yn ddamweiniol drwy gael cyfeiriad e-bost yn anghywir, neu gynnwys cyfranogwyr ychwanegol mewn e-bost nad oeddech yn bwriadu eu cynnwys
  • Colli gliniadur sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol neu ei fod yn cael ei ddwyn
  • Gadael gwybodaeth bersonol yn rhywle yn ddamweiniol
  • Rhywun yn edrych dros eich ysgwydd mewn man cyhoeddus ac yn gweld data personol ar eich gliniadur
  • Ymosodiad seiber a oedd yn atal mynediad i gofnodion neu a’u dinistriodd
  • Newid data personol heb awdurdod neu’n ddamweiniol

 

Newid data personol heb awdurdod neu’n ddamweiniol

 

When to report a data breach CY

Pryd i roi gwybod am fynediad diawdurdod at ddata

Os ydych chi’n credu y gallai fod achos o fynediad diawdurdod at ddata, cysylltwch â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth cyn gynted â phosibl.

Mae'r Tîm yma i helpu a does dim cwestiwn yn rhy fach na phroblem yn rhy fawr. Er bod y Cyngor yn disgwyl i staff fod yn ofalus wrth drin data personol mae hefyd yn deall oherwydd faint o ddata rydyn ni’n ei drin ei bod yn anochel y gall mynediad diawdurdod at ddata ddigwydd o bryd i'w gilydd. 

Mae dweud wrth y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth cyn gynted ag y gwyddoch yn golygu y gall eich helpu i benderfynu beth sydd angen ei wneud a'ch cynorthwyo drwy eich tywys drwy unrhyw gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol. Gallan nhw hefyd roi arweiniad i chi ar beth i'w ystyried a thrafod gyda chi sut y gellid atal mynediad diawdurdod at ddata yn y dyfodol. 

Mae'r Tîm hefyd yn ystyried patrymau a thueddiadau i benderfynu a oes angen gwneud newidiadau sefydliadol.

 

How to report a data breach CY

Sut i roi gwybod am fynediad diawdurdod at ddata

Rhowch wybod am fynediad diawdurdod at ddata i'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth:

 

 

Mae'r blwch post hwn yn cael ei fonitro o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30am a 5pm. Mae'r blwch post yn cael ei fonitro gan nifer o bobl o'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth. Bydd aelod o'r tîm yn ystyried eich e-bost ac yn cysylltu â chi. Gwnewch yn siŵr eich bod ar gael. Ceisiwch osgoi anfon hysbysiadau am 5pm ar ddydd Gwener ac yna allgofnodi am y diwrnod.

 

Dywedwch wrth y tîm:

  • Beth sydd wedi digwydd
  • Pryd digwyddodd y mynediad diawdurdod a phryd daethoch chi’n ymwybodol ohono
  • Pa wybodaeth bersonol rydych chi'n meddwl gafodd ei datgelu (er enghraifft, enw, oedran, cyfeiriad, dyddiad geni, aelodaeth undeb, ac ati)
  • Camau yr ydych chi wedi eu rhoi ar waith hyd yma, os o gwbl

 

Bydd y tîm yn rhoi cyngor i chi ar beth i'w wneud. Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi roi gwybod am y mynediad diawdurdod i’r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd y tîm yn eich helpu i wneud hyn.