Rhwydwaith Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+.  

Rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ yw GLAM sy'n: 

  • gweithio i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDT+ yn y gweithle;

  • codi ymwybyddiaeth a gwelededd cyffredinol o'i waith; ac

  • sy’n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.   

Cyflawnir y nodau hyn drwy ein tair ffrwd waith sy'n cael eu harwain gan aelod o'r Grŵp Llywio. 

Effaith yn y Gweithle 

Cael effaith gadarnhaol ar amgylchedd gweithle'r Cyngor drwy: 

  • ddylanwadu ar bolisïau ac arferion perthnasol;
  • symud ymlaen yn erbyn Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall; a  
  • hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol.

Gwelededd ac Ymwybyddiaeth  

  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar y gymuned LHDT+; a 
  • Meithrin diwylliant o fod yn agored, lle mae pobl yn teimlo’u bod yn gallu bod nhw eu hunain a chyrraedd eu potensial.  

Cymdeithasu a Chefnogi 

Darparu cyfleoedd i aelodau'r grŵp: 

  • fynychu digwyddiadau;
  • rhyngweithio'n gymdeithasol mewn man diogel a chefnogol; a 
  • chodi arian i gefnogi gwaith y Rhwydwaith wrth ddilyn yr amcanion a'r cynllun gwaith blynyddol.

Mae GLAM yn agored i unrhyw un sy'n cefnogi nodau ac amcanion y rhwydwaith.  Os hoffech ddod yn aelod, cwblhewch ein ffurflen aelodaeth: 

Ffurflen Aelodaeth 

I gael rhagor o wybodaeth am waith GLAM, edrychwch ar ein Hadroddiad Blynyddol neu cysylltwch ag aelod o'r tîm

 Newyddion a Gwybodaeth 

Cyflwyno cadeirydd dros dro GLAM

Mae Tom Narbrough yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro GLAM

Dod i nabod GLAM

Y Mis Pride hwn roeddem am eich cyflwyno i rai o'r enwau a'r wynebau y tu ôl i'n rhwydwaith Cydweithwyr a Chynghreiriaid LHDT+, sef GLAM.  


Mis Pride 2021

Mae mis Mehefin yn fis Pride, sef mis i ddathlu'r cymunedau LHDT+ ledled y byd.  Gan fod digwyddiadau Pride yn parhau i gael eu canslo oherwydd COVID-19, mae Grŵp Cymdeithasol a Chymorth GLAM wedi datblygu canllaw i ddathlu Mis Pride 2021.  

Canllaw GLAM i Pride 2021 

Dewch yn aelod

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith, cwblhewch y ffurflen aelodaeth neu cysylltwch â GLAM.