Pryd i roi gwybod am dorri data
Os ydych yn credu y gallai fod wedi torri data, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein cyn gynted â phosibl.
Mae'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yma i helpu ac nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach nac yn broblem rhy fawr. Er bod y Cyngor yn disgwyl i staff fod yn ofalus wrth drin data personol mae hefyd yn deall, oherwydd faint o ddata rydyn ni'n ei drin, mae'n anochel y gall torri data ddigwydd o bryd i'w gilydd.
Mae dweud wrth y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth cyn gynted ag y gwyddoch yn golygu y gallant eich helpu i benderfynu beth sydd angen ei wneud a chynorthwyo i'ch tywys i unrhyw gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol. Gallant hefyd roi arweiniad i chi ar yr hyn i'w ystyried a thrafod gyda chi sut y gellid atal achosion o dorri yn y dyfodol.
Mae'r Tîm hefyd yn ystyried patrymau a thueddiadau i benderfynu a oes angen gwneud newidiadau sefydliadol.
Rhoi gwybod am dorri data