3 Medi, 2021

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio bod pob un ohonoch yn cadw’n iawn.  I'r rhai sydd wedi dychwelyd ar ôl gwyliau haf estynedig, croeso yn ôl. Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich gwyliau.  

Hoffwn ddechrau'r neges hon drwy ddiolch i'r grŵp ymgysylltu â staff, ac yn arbennig cydweithwyr ym maes Datblygu Sefydliadol, sydd wedi bod yn brysur yn cwblhau'r Llyfr Diwylliant yn barod ar gyfer ei lansio ddydd Llun 6 Medi. Mae’r llyfr diwylliant yn adeiladu ar ein gwaith ymgysylltu â chydweithwyr ac wedi esblygu o’r  Siarter Staff.  Mae'n nodi'n syml yr hyn y gall cyflogeion ei ddisgwyl gan ein sefydliad a'r hyn yr ydym yn anelu ato drwy ein gwerthoedd.  Fel rhan o'r lansiad, byddaf yn cynnal sesiwn holi ac ateb arbennig ar 14 Medi.  Os hoffech fod yn bresennol, bydd gofyn i chi gadw lle ymlaen llaw. Fel bob amser, i unrhyw un nad yw'n gallu dod i’r sesiwn bydd recordiad ar gael drwy iDev. 

Bydd y rhan fwyaf o'n disgyblion ysgol hefyd yn dychwelyd i’w gwersi ddydd Llun ac rwy'n gwybod y bydd ein holl staff ysgolion wedi bod wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer dechrau’r tymor newydd dros yr wythnosau diwethaf – diolch yn fawr i chi i gyd am yr ymdrechion rydych chi wedi'u gwneud dros yr Haf i alluogi plant i ddychwelyd i'r ysgol yn ddiogel a hoffwn ddymuno pob lwc i chi am y flwyddyn academaidd nesaf. Rwy'n gobeithio y bydd yn mynd yn dda a'n bod ni'n gallu parhau i addasu i amgylchiadau newidiol dros yr ychydig fisoedd nesaf.  

Bydd ein cyrsiau Dysgu Cymraeg hefyd yn dechrau blwyddyn academaidd newydd o'r mis hwn, gan gynnig cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae’r cyrsiau hyn yn gyfle gwych i wella eich sgiliau. Gall y Gymraeg fod yn sgil arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n gweithio mewn rolau sy'n delio â'r cyhoedd, gan ein bod yn sefydliad dwyieithog sy'n cynnig gwasanaethau yn ddwyieithog.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen yr hyn oedd gan rai o'n dysgwyr presennol i'w ddweud am eu profiadau.  Cynigir cyrsiau yn rhad ac am ddim i staff ac mae modd eu dilyn yn ystod amser gwaith. Ni allaf sôn am y cyrsiau hyn heb ddweud 'Diolch yn fawr' wrth bawb sy'n ymwneud â'u rhedeg, o'r cydlynwyr i'r tiwtoriaid eu hunain. Mae ein tîm Dysgu Cymraeg yn un o'r goreuon yng Nghymru. 

Ar nodyn ychydig yn wahanol, mae'r Pod Bwyd a lansiwyd yn ddiweddar yn ystâd St Luke ym Mhenarth, gyda chymorth ein hadran dai, yn chwilio am wirfoddolwyr.  Dyma enghraifft wych o'n sefydliad yn gweithio ochr yn ochr â'r gymuned a'i nod yw sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar fwyd fforddiadwy o ansawdd da gan leihau gwastraff bwyd yr un pryd.  Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn cael cyfle i gwblhau cymhwyster Diogelwch Bwyd Lefel Dau yn rhad ac am ddim. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech basio’r  wybodaeth hon ymlaen i unrhyw un y credwch y gallai helpu. 

Ers i mi ddechrau anfon negeseuon wythnosol yn ôl yng Ngwanwyn 2020, rwyf wedi bod yn falch iawn o gael cyswllt rheolaidd gan staff ar draws y sefydliad cyfan sydd am dynnu sylw at y gwaith rhagorol a wnawn fel Cyngor lleol. Cofiwch os oes gennych gydweithiwr, prosiect, neu dîm yr hoffech imi sôn amdanynt mewn unrhyw negeseuon sydd ar ddod, mae croeso i chi ymateb i'r e-bost hwn neu gysylltu â mi ar wahân. Rwyf bob amser yn falch o glywed gan gydweithwyr a hyd yn oed yn fwy falch o gyfeirio at y gwaith da iawn a wnawn. 

Gobeithio y cewch chi gyd benwythnos difyr. Cymerwch ofal.

Diolch yn fawr,

Rob.