Staffnet+ >
Neges o'r Prif Weithredwr - Apwyntiad Newydd
Neges o'r Prif Weithredwr - Apwyntiad Newydd
Annwyl gydweithwyr,
Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod dau gydweithiwr wedi'u penodi i rolau newydd yn ein Tîm Arweinyddiaeth Strategol.
Yn dilyn proses gystadleuol iawn penodwyd Tom Bowring yn Gyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol newydd a Marcus Goldsworthy fel ein Cyfarwyddwr Lleoedd. Daeth ailstrwythuro ein Tîm Arweinyddiaeth Strategol yn dilyn argymhellion ymgynghorydd annibynnol a gomisiynwyd gan Gabinet y Cyngor. Gwnaed yr argymhellion yn rhannol i fynd i'r afael â gofynion deddfwriaethol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ac yn rhannol er mwyn rhoi'r gallu sydd ei angen arnom i barhau i wella'r cymorth a gynigiwn i'n cymunedau.
Mae ein Cyngor wedi ei gydnabod yn gyson fel yr Awdurdod Lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru. Gyda dyfodol y sector yn edrych yn fwy heriol nag erioed ychwanegwyd y swyddi hyn i'n galluogi i adeiladu ar y record hon o lwyddiant a chyflymu'r broses o drawsnewid y sefydliad. Ein gweledigaeth yw cyngor sy'n gwneud mwy na darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf.
Rydym yn sefydliad sy'n meddwl yn y tymor hir ac sydd wedi ymrwymo i adeiladu gwaddol o gymunedau bywiog a chynaliadwy yn y Fro. Credaf yn angerddol fod gwasanaeth cyhoeddus yn ymwneud â gweithio i feithrin cymunedau cryf, diogelu'r rhai sy'n agored i niwed, rhoi mwy o ddewisiadau bywyd i bobl, a helpu pawb i gyflawni eu potensial. Mi wn fod Tom a Marcus yn rhannu’r gred hon.
Fel Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, bydd Tom yn gyfrifol am reolaeth ariannol a pherfformiad y Cyngor, am ddarparu'r holl wasanaethau cymorth proffesiynol ac am hyrwyddo gwasanaethu cwsmeriaid. Bydd Tom yn arwain ar bob mater sy'n ymwneud â dyrannu a blaenoriaethu adnoddau ar draws y Cyngor drwy'r broses flynyddol o bennu cyllidebau a sicrhau gwerth am arian a gwelliant parhaus drwy'r system gyfan.
Yn y rôl newydd hon bydd hefyd yn darparu arweinyddiaeth, rheolaeth a chyfeiriad i raglenni trawsnewid a newid sefydliadol ac yn gweithio gyda thimau ar draws y Cyngor i sbarduno newid yn ogystal ag ymgorffori ein gwerthoedd, cynyddu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad staff a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Fel Cyfarwyddwr Lleoedd, Marcus fydd yn gyfrifol am feithrin a rhannu ffyniant ym Mro Morgannwg. Yn ei rôl newydd bydd Marcus yn hyrwyddo twf economaidd a ffisegol y rhanbarth gan sicrhau'r sylfeini economaidd ar gyfer gwella bywydau trigolion Bro Morgannwg, tra'n arwain ar yr un pryd ar yr holl swyddogaethau cynllunio statudol, gan gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol.
Bydd Marcus nawr yn arwain ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad, busnesau, partneriaid a'n cymunedau i leihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn gweithio i wella canol trefi a chymdogaethau a chyda rhannau eraill o'r Cyngor a'n partneriaid rhanbarthol i sicrhau'r enillion gorau posibl ar fuddsoddiad i'r Cyngor a phobl Bro Morgannwg. Bydd pwyslais penodol hefyd ar sicrhau bod y Cyngor yn bartner gweithredol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a phob menter a chyfle sy'n deillio o gydweithio rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae'r ddwy swydd hyn ymhlith nifer o swyddi uwch sydd wedi'u llenwi'n ddiweddar. Bydd Marcus yn gweithio'n agos gydag Ian Robinson sydd wedi'i benodi'n Rheolwr Gweithredol ar gyfer Cynllunio a Charlotte Raine sydd bellach yn un o'n Rheolwr Prosiectau Mawr. Tra bydd Tom yn cysylltu'n agos â'n Pennaeth Cyllid newydd, Matt Bowmer, a'r Rheolwr Gweithredol newydd dros Gyllid, Gemma Jones.
Fel Swyddog Adran 151, Matt fydd yn arwain ar reolaeth ariannol yr awdurdod a daw â chyfoeth o brofiad ym maes cyllid llywodraeth leol gydag ef. O fewn Archwilio Mewnol, rwy’n falch o ddweud hefyd bod Joan Davies wedi'i phenodi i rôl y Rheolwr Gweithredol, a does dim dwywaith y bydd Joan yn sicrhau bod ein gwasanaeth archwilio mewnol yn parhau i fod yn gadarn.
Hoffwn hefyd longyfarch Helen Picton ar ei phenodiad fel Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Bydd Helen nawr yn gyfrifol am ddatblygu'r gwasanaeth ymhellach ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a'r Fro. Bydd Jason Bale yn camu i’r bwlch dros dro i rôl y Rheolwr Gweithredol a adawyd gan Helen. Rwy’n siŵr y byddwch i gyd yn ymuno â mi i ddymuno'r gorau i bob un o'r uchod wrth iddynt ddechrau ar eu rolau newydd.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd gennym gyfres o ddarnau dod i'ch adnabod gyda rhai o'n huwch reolwyr newydd. Yn y cyfamser, os hoffech wybod mwy neu ddymuno llongyfarchiadau rwy'n siŵr bod croeso mawr i chi gysylltu'n uniongyrchol.
Diolch yn fawr.
Rob.