Mis Hanes LGBTQ+ 2022
Mae Mis Hanes LHDT yn amser i fyfyrio ar hanes, bywydau a phrofiad unrhyw un sy'n uniaethu fel LHDTC+. Defnyddiwch y mis hwn i gael gwell gwybodaeth am hyn, gan gynnwys edrych ar rai dyddiadau allweddol yn natblygiad hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws o ran newid cymdeithasol, gwleidyddol a deddfwriaethol, cynrychiolaeth a gwelededd.
Mae 2022 yn nodi 50 mlynedd ers gorymdaith Pride gyntaf y DU ym 1972. Bryd hynny, slogan poblogaidd y Mudiad Hawliau Hoyw cynnar (roedd y syniad o'r gymuned 'LHDT' gryn amser i ffwrdd) oedd "mae’r personol yn wleidyddol", a chelf yw'r gweithgaredd mwyaf personol o bosib. Dyma pam y dewiswyd celf fel thema eleni (mae cyswllt â'r thema yn y Cwricwlwm Cenedlaethol bob blwyddyn).
Fel rhan o'r thema hon, mae pum artist (un yr un i gynrychioli L,H,D,T a '+' y gymuned) wedi’u cynnwys. Defnyddiodd pob un o'r artistiaid hyn eu doniau ar gyfer dibenion "gwleidyddol", neu mynegon nhw eu cyfeiriadedd drwy eu gwaith.
Mae ffigurau sy’n dawnsio gan Keith Haring yn enghraifft berffaith gan eu bod wedi'u defnyddio i dynnu sylw at argyfwng AIDS cynyddol dechrau'r 1980au.
Ymladdodd Doris Brabham Hatt a Fiore de Henriquez yn erbyn ffasgaeth yn y 1930au.
Dechreuodd Jean-Michel Basquiat fel artist graffiti ac roedd bywyd Mark Aguhar "a’i fodolaeth yn weithred o wrthwynebu hegemoni gwyn".
Mae'r daith barhaus a throellog yn aml tuag at gydraddoldeb llawn wedi dioddef llawer o anfanteision wrth barhau i symud ymlaen. Yn y cyd-destun hwn, prif thema eleni yw 'mae'r bwa’n hir'. Daw hyn o ddyfyniad Dr Martin Luther King Jnr:
“The arc of the moral universe is long but it bends towards justice”.
Allwch chi chwarae rhan wrth symud tuag at gydraddoldeb LHDTC+?
Ymunwch â chydweithwyr a chynghreiriaid LHDTC+ yn y Cyngor i wella gwelededd, cefnogaeth a chydraddoldeb yn ein gweithle. Os ydych am wybod mwy neu os oes gennych awgrymiadau i'w gwneud, edrychwch ar dudalen we GLAM, cysylltwch â Chadeirydd GLAM, Tom Narbrough, neu llenwch ffurflen gais aelod i ymuno â GLAM.