Yr Wythnos Gyda Rob

25 Chwefror 2022 

Annwyl gydweithwyr,  

Rwy’n gobeithio eich bod chi i gyd yn iawn ar ddiwedd yr wythnos waith neu rwy’n gobeithio bod y rheiny sy’n gweithio yn ein hysgolion neu sydd wedi defnyddio’r egwyl hanner tymor i orffwys ac ymlacio’n teimlo’n dda. 

Winter Of Well-being

Rwy’n gwybod y bydd llawer ohonoch wedi mwynhau’r egwyl honno o ystyried y nifer fwy o gyfleoedd sydd bellach ar gael i fynd allan a mwynhau amser gyda theulu a ffrindiau  Fel pob amser, hoffwn ddiolch i'n cydweithwyr y mae eu gwaith yn hynod o brysur ar yr adegau hyn ac y mae eu hymdrechion yn golygu bod gan drigolion ac ymwelwyr â'r Fro gyfoeth o ddewis o ran sut i fwynhau ein parciau a’n cyfleusterau hamdden a chelfyddydol. 

Mae llawer o bobl wedi tanysgrifio i raglen digwyddiadau Gaeaf Llawn Lles y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc yr hanner tymor hwn. Rwy’n siŵr bod hyn wedi ysgogi diddordeb llawer mewn bywyd gwyllt, chwaraeon neu’r celfyddydau, diddordeb a fydd ganddyn nhw am flynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr i bawb a'i gwnaeth yn gymaint o lwyddiant. 

Central Park Play Area Upgrade

O ran mynd allan a phwysigrwydd cadw'n heini, yn enwedig i'r cenedlaethau iau, roedd yn wych gweld bod gwaith gwerth £150,000 y Cyngor o adnewyddu'r cyfleusterau chwarae ym Mharc Canolog Y Barri newydd gael ei gwblhau a bod y parc bellach ar agor i'r cyhoedd. Mae'r gwaith adnewyddu hwn yn enghraifft wych arall o fuddsoddi yn ein mannau cyhoeddus ac yn brosiect sydd unwaith eto'n dangos ein bod yn gweithio'n dda iawn pan fydd cydweithwyr yn dod at ei gilydd o amrywiaeth o wasanaethau i gyflawni pethau.  O ran y prosiect hwn, diolch i'n cydweithwyr yn yr adran Cynllunio a oedd yn gallu cynhyrchu a chynllunio'r defnydd o arian A106 pwysig a'n cydweithwyr Tirwedd a Pharciau a weithiodd yn agos gyda'n contractwr ar y dyluniadau a'r gwaith gweithredu.  Da iawn bawb.   Da iawn.  

Gan edrych ymlaen at y tymor ysgol newydd, dydd Llun fydd y diwrnod cyntaf i ddisgyblion ysgol gynradd newydd South Point yn y Rhws. South Point yw'r ysgol ddi-garbon gyntaf yng Nghymru a hoffwn dynnu sylw eto at gyflawniadau gwych ein holl gydweithwyr sydd wedi chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni hyn. Mae'r prosiect wedi'i arwain gan ein tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ond fel gyda'n holl waith gorau mae wedi bod yn ymdrech Tîm y Fro go iawn sydd wedi cynnwys cydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad, ac wrth gwrs staff addysgu a chymorth talentog, yn cydweithio i roi'r Fro ar flaen y gad o ran newid yng Nghymru. 

Enghraifft wych arall o gydweithio yw Canolfan Adnoddau Cymunedol y Fro. Mae Gwasanaethau Adnoddau Cymunedol y Fro (GACF) yn dîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig sydd wedi’i leoli yn Ysbyty’r Barri. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn aml, tîm y GACF sydd wedi camu i mewn i gefnogi pobl sy’n agored i niwed pan na allai asiantaethau gofal annibynnol wneud hynny. Yn ystod y pandemig newidiodd y tîm o ddarparu gwasanaeth chwe wythnos i gefnogi unigolion i ddychwelyd i fyw'n annibynnol,i gefnogi'r rheiny ag anghenion cymhleth iawn, y mae rhai ohonynt wedi marw tra yn ein gofal. 

Rwy’n gwybod bod y tîm wedi bod dan lawer o bwysau ar adegau. Fel llawer o dimau eraill, gwnaeth aelodau o’r tîm hwn barhau i weithio ar y rheng flaen i ddarparu gwasanaethau, heb yr opsiwn o gyflawni eu rolau o ddiogelwch cymharol eu cartrefi. O ystyried yr heriau anhygoel y mae'r tîm wedi'u hwynebu, mae’n rhyfeddol ei fod newydd dderbyn adroddiad disglair gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Hoffwn rannu ac adleisio geiriau Suzanne Clifton a ddywedodd y canlynol wrth ddweud wrthyf am y newyddion gwych hyn:

Rwy'n parhau mor falch iawn o'r tîm integredig hwn, mae'r arweinyddiaeth y mae’n ei dangos mor gryf. Mae’n dod ynghyd ac yn cyflawni, gan gefnogi ein gweithlu i ddarparu gwasanaethau i rai o'n cleientiaid mwyaf agored i niwed. Gwerthfawrogir yn fawr yr adroddiad arolygu hwn sy’n cadarnhau’n annibynnol y gwaith y mae’n ei wneud.

Gwir pob gair, Suzanne, a diolch i chi am gysylltu â mi i rannu’r adroddiad arolygu ac am dynnu sylw at waith y tîm. Rwy'n siŵr nad dyma'r tro olaf y caiff eu gwaith ei gydnabod. Diolch yn fawr iawn.  

Call Out Only Campaign

Hoffwn hefyd dynnu sylw at yr ymgyrch #DimEsgus genedlaethol y mae'r Cyngor yn ei chefnogi ar hyn o bryd. Mae'r geiriau ‘dim ond’ yn cael eu defnyddio gan ddynion i gyfiawnhau aflonyddu rhywiol ac i fychanu ofnau gwirioneddol menywod. Mae ein gweithleoedd yn fannau diogel a chynhwysol ond gallwn i gyd helpu i fynd i'r afael â hyn o hyd. Yn benodol, pan fydd dynion yn herio’r ymddygiad hwn, maent yn helpu i newid y naratif sy'n niweidio menywod a dynion.

Dechreuais y neges hon drwy gyfeirio at bwysigrwydd arian A106 wrth gyflwyno cynlluniau o fewn ein cymunedau ac rwy’n gorffen y neges drwy dynnu sylw at gydweithiwr rwyf wedi gweithio'n agos â hi ers 20 mlynedd.  Ymunodd Victoria (Vicky) Robinson â'r Cyngor yn fyfyriwr Cynllunio oedd yn cymryd blwyddyn allan yn 2002, pan oeddwn yn Bennaeth Cynllunio a Chludiant.  Arhosodd Vicky gyda ni ar ôl cwblhau ei chymwysterau ac roedd yn gyfrifol am sefydlu dull newydd o reoli cyfraniadau A106.  O ganlyniad, mae ein gallu i gynhyrchu arian gan ddatblygwyr a'n gallu i wario'r incwm hwnnw yn ein cymunedau heb eu tebyg yng Nghymru.   Mae Vicky yn ein gadael am rôl gyffrous yn Llywodraeth Cymru yn arwain yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru.  Rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad yn ymuno â mi i ddiolch i chi am eich holl ymrwymiad a brwdfrydedd dros yr 20 mlynedd diwethaf ac i ddymuno'r gorau i chi yn eich rôl newydd. 

Fel pob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.

Rob.