Yr Wythnos Gyda Rob

11 Mis Mawrth 2022

Annwyl gydweithwyr,

Mae hon wedi bod yn wythnos bwysig o ran cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn nos Lun cytunwyd ar gyllideb a Chynllun Cyflawni Blynyddol Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer 2022/23 a phennwyd cyfradd y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod gan ein cynghorwyr.

Mae'r broses o bennu cyllidebau yn effeithio ar bob maes o'n gwaith. Fodd bynnag, gwn ei fod yn faes o'n gwaith a all ymddangos yn eithaf cymhleth a thechnegol, yn enwedig i'r rheini nad ydynt yn ymwneud yn weithredol ag ef. Am y rheswm hwn, yr wythnos hon roeddwn am gynnig cipolwg ar sut yr ydym ni fel sefydliad yn mynd ati i bennu'r gyllideb.

Cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yw £272.554 miliwn. Yn amlwg, nid tasg fach yw penderfynu sut i wario’r gyllideb hon. Y man cychwyn yw adnewyddu ac adolygu cynllun ariannol tymor canolig y Cyngor, ar ddechrau’r haf fel arfer. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae ein cydweithwyr ym maes Cyllid yn gwneud amrywiaeth o dybiaethau ynghylch cynnydd neu ostyngiadau posibl yng nghyllid Llywodraeth Cymru ac yn cynhyrchu nifer o fodelau i ni eu hystyried o effeithiau posibl y rhain arnom.

Ochr yn ochr â thrafodaethau am y gyllideb yr adeg hon o'r flwyddyn, byddwn hefyd yn drafftio ac yn ymgynghori ar ein Cynllun Cyflawni Blynyddol. Dyma ddadansoddiad o'r camau allweddol y bydd y Cyngor yn eu cymryd yn y flwyddyn i ddod i gyflawni ein Strategaeth Gorfforaethol a'r chwe thema allweddol yr ydym yn canolbwyntio'n benodol arnynt ar gyfer 2022/23.

Ar yr un pryd, gofynnir i bob Pennaeth Gwasanaeth amcangyfrif y pwysau ar eu cyllidebau. Bydd rhai o'r rhain yn berthnasol i bob gwasanaeth, er enghraifft y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol o fis Ebrill ymlaen. I'r gwrthwyneb, bydd eraill yn benodol i dimau a gwasanaethau unigol, megis cynnydd mewn prisiau contractau neu newidiadau demograffig fel poblogaeth y Fro sy'n heneiddio a fydd yn achosi cynnydd yn y galw am ofal cymdeithasol.

Yr amcan ar hyn o bryd yw nodi maint y bwlch rhwng ein cyllideb ddisgwyliedig ar gyfer y flwyddyn ganlynol a chost darparu ein gwasanaethau.

Wrth inni fynd i'r Hydref, bydd y Cabinet a'r Pwyllgorau Craffu yn dechrau trafod yr hyn y maent yn ei ystyried yn bwysau cost rhesymol. Yna bydd ein tîm Cyllid yn dechrau cynhyrchu modelau ar gyfer bylchau ariannu posibl cyn cychwyn trafodaethau ynglŷn â thargedau arbedion i helpu i gyflawni'r rhain. Cynhyrchir cyfrifiadau hefyd i ddangos effaith gwahanol lefelau o'r dreth gyngor.

Cyhoeddwyd y setliad cyllideb dangosol gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr y llynedd. Roedd y cynnydd o 10% mewn cyllid yn well nag yr oedd llawer wedi'i ragweld. Roedd hyn yn golygu y gallai ariannu mwy o'n pwysau cost nag a fyddai wedi digwydd fel arall. Roedd hefyd yn golygu y gellid ystyried cyfraddau is o'r dreth gyngor.

Er bod llawer o bobl yn rhan o’r gwaith o lunio'r gyllideb derfynol a bod trafodaethau ymysg yr Uwch Dîm Rheoli ac mewn fforymau eraill drwyddi draw, penderfyniad i'r Cabinet a chynghorwyr yw hwn yn y pen draw. Ein rôl fel swyddogion yw eu cynghori a'u cefnogi yn y broses hon.

Yna caiff cynnig cyllideb terfynol ei ddatblygu gydag Arweinydd y Cyngor a'r Cabinet. Ar ôl cael eu hystyried i ddechrau mewn cyfarfod ffurfiol o'r Cabinet ddiwedd mis Ionawr, caiff y cynigion eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu Adnoddau Corfforaethol, cyn mynd yn ôl i'r Cabinet i'w cymeradwyo. Mae hyn wedyn yn mynd â ni i nos Lun pan fydd pob un o'r 47 cynghorydd yn cael cyfle i drafod cynigion y gyllideb. Daeth y cyfarfod eleni i ben gyda chynigion y gyllideb, y cynllun cyflawni blynyddol y byddant yn ei ariannu, a'r gyfradd treth gyngor sydd ei hangen i ategu setliad Llywodraeth Cymru, i gyd yn cael eu cytuno.

Mae llawer gormod o bobl yn cymryd rhan yn y broses i sôn am bawb yn unigol ond rhaid imi sôn am Carolyn Michael ein Pennaeth Cyllid Dros Dro a'n Swyddog Adran 151 a gytunodd i ohirio ei hymddeoliad i helpu i arwain y broses o bennu cyllideb eleni ac sydd wedi gweithio'n galed ochr yn ochr â'i Rheolwr Gweithredol, Gemma Jones a gweddill y tîm.  Roeddwn am sôn yn benodol am ein cydweithwyr yn yr adran Gyllid, oherwydd lefel y gwaith sy'n mynd i mewn i'r broses, ond hefyd am sôn am ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd sy'n llywio'r broses mor fedrus drwyddi draw ac yn sicrhau bod y broses Ddemocrataidd yn mynd rhagddi’n ddiffwdan ac yn effeithlon.

Ar y nodyn hwn, rwyf hefyd wedi derbyn neges o ddiolch gan bennaeth yn un o'n hysgolion am y "gefnogaeth a'r arweiniad rhagorol" a ddarparwyd gan ein tîm Cyllid Dysgu a Sgiliau, felly diolch i Nicola a'i chydweithwyr am y cymorth a roddwyd i'n holl ysgolion ar faterion sy'n ymwneud â phroses y gyllideb. 

Gan gadw at y thema hon, hoffwn dynnu sylw pawb at y neges gan ein tîm Adnoddau Dynol a gafodd ei hanfon ddoe i ddweud y bydd y dyfarniad cyflog eleni sydd wedi’i ôl-ddyddio yn cael ei dalu'r mis hwn. Rwy'n gwybod bod ein tîm cyflogres wedi gweithio'n galed iawn yr wythnos hon i dalu dyfarniadau cyflog Llyfr Gwyrdd y Cyd-gyngor Cenedlaethol, Soulbury a Phrif Swyddogion i staff, gyda rhybudd byr iawn o dderbyn y cytundebau cyflog cenedlaethol hyn. Nid yw delio â gwerth 11 mis o ôl-daliadau a'u gwirio yn dasg fach. Mae'r tîm wedi gweithio’n hynod o galed i gyflawni hyn. Gwn y gallaf siarad ar ran yr holl gydweithwyr wrth ddweud diolch yn fawr i bawb sy'n gysylltiedig.

Mae pwynt arall yr hoffwn ei godi ynghylch tâl. Gobeithio y bydd llawer ohonoch wedi gweld y gwaith a wnaethom yn gynharach yr wythnos hon i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwy'n falch o weithio gyda chymaint o fenywod ysbrydoledig ac os nad ydych wedi cael cyfle i ddarllen unrhyw un o ddeunyddiau’r ymgyrch #chwalurhagfarn byddwn yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny.

Fodd bynnag, fel eich Prif Weithredwr, rhaid imi gydnabod hefyd, er gwaethaf newid mawr yn y blynyddoedd diwethaf, fod bwlch cyflog rhwng y rhywiau o hyd yng Nghyngor Bro Morgannwg. Mae ein ffigurau diweddaraf a gofnodwyd yn dangos bod y bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau yn 5.37% (fel canran o gyflog dynion). Mae hyn i lawr o 7.54% a 13.9% mewn blynyddoedd blaenorol ond mae'n dal i ddangos bod mwy i'w wneud. Mae cyflwyno systemau digidol, megis e-recriwtio, gan ein tîm Adnoddau Dynol wedi ei gwneud yn llawer haws monitro'r mater a bydd ein strategaeth recriwtio a chadw newydd yn ein helpu i wella ymhellach sut rydym yn sicrhau ein bod yn cynnig rolau a chyfleoedd gwych i symud ymlaen i bawb.

Yn olaf, rhaid imi gyfeirio unwaith eto at y digwyddiadau erchyll yn Wcráin. Cafwyd trafodaeth hir yng nghyfarfod y Cyd-benaethiaid Gwasanaeth a'r Uwch Dîm Rheoli yr wythnos hon am baratoi'r Cyngor i ddarparu unrhyw gymorth posibl. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Tom Dodsworth, ein Cydlynydd Ailsefydlu Ffoaduriaid, am ei holl waith. Cyfarfu Arweinydd y Cyngor yr wythnos hon â'i gymheiriaid gwleidyddol ledled Cymru ac mae CLlLC wedi ysgrifennu wedyn at y Prif Weinidog yn pwysleisio dymuniad awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan.

Yn yr un cyfarfod, cafwyd awgrym gostyngedig gan gydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol y gallem ni fel sefydliad ddatblygu cynllun sy'n caniatáu i'r holl staff gymryd rhan a chodi arian ar gyfer y rhai y mae'r gwrthdaro'n effeithio arnynt. Mae hwn yn syniad gwych. Mae tîm bach yn gweithio ar hyn o bryd i ddatblygu hyn a bydd gennyf fanylion llawn am yr union beth fydd yn cael ei gynnig a sut y gall yr holl staff gymryd rhan yr wythnos nesaf.

Am y tro, diolch fel bob amser am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.

Rob.