Staffnet+ >
Arddangosfa Gypsy Maker 5 yn ymddangos ar ITV NEWS
Arddangosfa Gypsy Maker 5 yn ymddangos ar ITV NEWS
Mae’r Cwmni Celf a Diwylliant Romani wedi lansio pumed rhan prosiect y Gypsy Maker yn Oriel Gelf Ganolog y Barri.
Gweithiodd Gwasanaethau Datblygu Celfyddydau'r Cyngor gyda'r Cwmni Celf a Diwylliant Romani di wireddu’r prosiect gyda chyllid Gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd digwyddiad agoriadol swyddogol ar 08 Ebrill, Diwrnod Rhyngwladol y Roma.
Daeth llawer iawn o bobl i'r lansiad, gan gynnwys ITV a wnaeth wedyn gynnwys yr arddangosfa yn eu rhaglen newyddion.
Mae'r arddangosfa'n dangos amrywiaeth o weithiau celf wedi’u creu gan yr artistiaid o Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Imogen Bright Moon, Corrina Eastwood a Rosamaria Cisneros.
Mae'r prosiect yn dathlu treftadaeth artistig y Roma a’r Sipsiwn drwy amryw gyfryngau, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r gymuned ac ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch sut mae technegau a ffurfiau celf traddodiadol y gymuned yn parhau i gyfoethogi ein bywydau heddiw.
Mae Imogen Bright Moon yn grefftwraig, yn wehydd stiwdio ac yn artist tecstilau o dras Romani. Creodd Imogen y gwaith celf 'Black Tent / Black Sarah' a gafodd ei arddangos, gan gyfuno gwehyddu â llaw gyda dweud straeon, chwedlau gwerin a chrefftau treftadaeth i archwilio stori barhaus tecstilau a'u lle yn ein bywydau heddiw.
Mae Corrina yn artist, seicotherapydd celf, darlithydd, awdur ac actifydd o dras Romani. Creodd Corrina y 'Rokka Nixi installaion' ar gyfer Gypsy Five. Mae'r darn yn cynnwys traethawd ffotograffig, sy'n cynrychioli cyfnodolyn y gosodiad, a cherfluniau yn seiliedig ar archwiliadau o hunaniaeth, ethnigrwydd, diwylliant a thrawma cenedlaethau Romani.
Mae Rosamaria Kostic Cisneros yn hanesydd a beirniad dawns, yn ysgolhaig Roma, yn hanesydd Flamenco ac yn actifydd dros heddwch. Mae ei ffilm ddawns sgrin 'LifeStrings' yn defnyddio coreograffi Flamenco traddodiadol, sy'n tarddu o gymuned Roma Sbaen.
Mae'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10am – 4pm tan 21 Mai 2022.