Staffnet+ >
Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer Deialog a Datblygu
Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer Deialog a Datblygu
Mae UNESCO yn cynnal Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer Deialog a Datblygu bob blwyddyn ar 21 Mai, gan ddathlu gwahanol ddiwylliannau a sut y gall cynnal deialog rhwng gwahanol ddiwylliannau gyfrannu at sicrhau heddwch, ffyniant a datblygu cynaliadwy.
Datganodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ddiwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer Deialog a Datblygu yn 2002 ar ôl i UNESCO fabwysiadu Datganiad Cyffredinol 2001 ar Amrywiaeth Ddiwylliannol. Roedd yn amlygu potensial diwylliant fel arf ar gyfer cydfodoli’n heddychlon a datblygu cynaliadwy, gan greu byd gwell i bawb. Mae datblygu cynaliadwy yn bwnc hollbwysig i'r Cenhedloedd Unedig, ac mae Diwrnod y Byd hwn yn helpu i hyrwyddo'r cysylltiad rhyngddo ac amrywiaeth ddiwylliannol.
Yn ogystal ag annog deialog a pharch, mae Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer Deialog a Datblygu hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol a chwaraeir gan y sector diwylliannol a chreadigol wrth greu cydlyniant cymdeithasol, adnoddau addysgol a hyrwyddo lles, yn ogystal â chynhyrchu twf economaidd.
Mae UNESCO yn annog pawb i ymuno i ddathlu amrywiaeth, deialog a datblygiad diwylliannol ledled y byd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefannau UNESCO a'r Cenhedloedd Unedig
Gallwch hefyd ddod o hyd i gwrs am amrywiaeth ar idev.