Staffnet+ >
Gwella ein cynnig trafnidiaeth gynaliadwy
Gwella ein cynnig trafnidiaeth gynaliadwy
Rydym yn arwain drwy esiampl, ym mis Mawrth eleni, derbyniodd y Cyngor ei set gyntaf o gerbydau trydan.
Mae 12 Hyundai Kona trydan wedi disodli nifer o'r ceir diesel yn ein fflyd ceir, gan leihau ein hallyriadau 26,304kg bob blwyddyn. Gall ceir Kona trydan deithio hyd at 300 milltir wedi un wefr a gellir eu hailwefru mewn llai nag awr, gan ddefnyddio man gwefru cyflym.
Yn ogystal, mae mannau gwefru cerbydau trydan wedi'u gosod yn ddiweddar yn y Swyddfeydd Dinesig a Depo'r Alpau, gyda'r Cyngor yn gweithio gyda Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (BRC) i gyflwyno mannau gwefru tacsi a chyhoeddus yng nghymunedau'r Fro.
Bydd y cerbydau'n cael eu cynnal a’u cadw gan ein tîm Gwasanaethau Trafnidiaeth mewnol. Bydd llawer o aelodau o’r tîm yn ennill sgiliau newydd fel rhan o'u hyfforddiant i gynnal a chadw fflyd werdd y dyfodol.
Drwy ein cynllun teithio llesol rydym yn creu ac yn gwella llwybrau cerdded a beicio o amgylch y Sir, gan annog trigolion a gweithwyr i ddewis ffyrdd mwy cynaliadwy o gymudo i'r gwaith neu'r ysgol bob dydd.
Rydym hefyd yn cefnogi ysgolion cynradd gyda chynlluniau sy'n annog rhieni i gerdded disgyblion i'r ysgol ble bynnag mae'n bosib, gyda nifer o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer prosiect WOW (Her Cerdded i'r Ysgol) Living Streets ac yn dewis teithio'n llesol i'r ysgol.
Ar gyfartaledd, mae ysgolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun WOW yn gweld gostyngiad o 30% yn nifer y teithiau a wneir mewn car i giât yr ysgol a chynnydd o 23% yng nghyfraddau cerdded.
Drwy weithio gydag Ovo Bikes fe wnaethom ariannu peilot o'r cynllun rhannu beiciau cwbl drydanol cyntaf yng Nghymru. Cafodd 50 o feiciau trydan eu cyflwyno ym Mhenarth yn 2019 eu gosod ar draws sawl gorsaf dociau, gyda mwy yn cael eu hychwanegu wedi hynny mewn lleoliadau eraill.
Fel rhan o BRC rydym wedi rhannol ariannu prosiect i greu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd yng Ngorsaf Dociau'r Barri. Bydd yr orsaf drafnidiaeth yn cynnwys hyd at bum safle bws, cyfleusterau a rennir i deithwyr gan gynnwys swyddfa docynnau, man gollwng i dacsis, parcio a theithio, mannau gwefru cerbydau trydan a chyfleusterau beicio. Gyda'r contract ar gyfer gwaith a ddyfarnwyd yn ddiweddar, mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ar yr hwb pwysig hwn ddechrau'n fuan a chael ei gwblhau yn 2023
Dywedodd Emma Reed, Pennaeth y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, “Nod y cynlluniau hyn i gyd yw gwella ein cynnig trafnidiaeth gynaliadwy, lleihau ein hôl troed carbon, ynghyd â chynnig cyfleoedd i bobl deithio mewn ffyrdd sy'n eu cadw'n actif ac yn iach."