Stori bersonol rheolaeth drwy orfodaeth ymhlith digwyddiadau'r Wythnos Diogelu Genedlaethol

14 Tachwedd 2022

Mae'r Wythnos Diogelu Genedlaethol yn dechrau heddiw gyda chyflwyniad pwerus am reolaeth drwy orfodaeth a cham-drin domestig ymhlith y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal.

Bydd Ryan Hart yn sôn am stori ei deulu yfory, ac mae amryw o sesiynau eraill wedi'u trefnu dros y pum diwrnod nesaf.

Yn 2017, saethodd tad Ryan, Lance, ei wraig a'i ferch - mam a chwaer Ryan - cyn troi'r dryll arno'i hun.

Digwyddodd hyn ychydig ddyddiau ar ôl i'r ddau adael Lance yn sgil cyfnod hir o gam-drin emosiynol a rheolaeth seicolegol.

Yn ystod ei sesiwn, bydd Ryan yn ymhelaethu ar ei brofiadau ac yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar fater rheolaeth drwy orfodaeth.

Anogir cydweithwyr sydd â diddordeb proffesiynol yn y maes hwn i fynychu'r digwyddiad ac unrhyw un neu rai eraill yn ystod yr wythnos a allai fod o fudd.

Mae Ryan yn Gennad Rhuban Gwyn a Hyrwyddwr Lloches, sydd wedi cyflwyno sgyrsiau mewn 12 gwlad ac wedi gweithio'n helaeth ledled y DU.

Mae ei gynulleidfaoedd wedi cynnwys gweithwyr GIG, heddluoedd, gweithwyr prawf a’r gwasanaethau cymdeithasol, athrawon a'r cyhoedd.

Thema'r Wythnos Diogelu Genedlaethol eleni yw 'Hanfodion  Ymarferion Diogelu - Yn ôl i’r Pethau Sylfaenol'.

Caiff yr wythnos ei chydlynu gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned a gweithwyr proffesiynol, ac atgyfnerthu'r negeseuon presennol ynghylch diogelu plant ac oedolion mewn perygl.

Mae mesurau diogelu yn hanfodol wrth atal cam-drin a diogelu iechyd, lles, a hawliau dynol pobl, a'u galluogi i fyw yn rhydd rhag niwed ac esgeulustod.  

Ochr yn ochr â rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau, mae Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro wedi trefnu amserlen o weithdai a chynadleddau sydd wedi'u hanelu at drigolion a gweithwyr proffesiynol.

Gan fod diogelu yn llywio llawer o waith y Cyngor, gwahoddir cydweithwyr i gymryd rhan yn y rhaglen.

Cyflwynir y sesiynau gan ystod o sefydliadau a gwasanaethau gan gynnwys, yr NSPCC, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gofal Cymdeithasol Cymru, Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, y Bwrdd Diogelu Annibynnol ac Uned Atal Trais Cymru.

Ewch i Rhaglen Wythnos Diogelu 2022 i gadw lle:

Rhaglen Wythnos Diogelu 2022