Beth yw Wythnos Hinsawdd Cymru?
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru, a gynhelir yn flynyddol ym mis Tachwedd, yn adeiladu ar uwchgynhadledd Newid Hinsawdd Byd-eang “Cynhadledd y Pleidiau” (neu’r COP) i annog sgyrsiau cenedlaethol a rhanbarthol ar newid hinsawdd.
Sefydlwyd y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2019 mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid bod "siarad am newid hinsawdd yn bwysig". Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen ehangach o weithgaredd ymgysylltu.
Mae'r wythnos yn dod â phartneriaid ledled Cymru ynghyd - o gyrff a rhwydweithiau yn y sector cyhoeddus i gyrff a busnesau'r diwydiant, sefydliadau amgylcheddol, sefydliadau academaidd, elusennau, rhwydweithiau trydydd sector a grwpiau cymunedol, rhwydweithiau hygyrchedd a grwpiau a rhwydweithiau pobl ifanc - i ystyried sut i gyflawni ar y cyd polisïau a rhaglenni sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.
Fel awdurdod lleol, rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon i sero net erbyn 2030, ymrwymiad a fydd yn cael ei gyflawni drwy ein Prosiect Sero ein hunain a Chynllun Her yr Hinsawdd dilynol.
Yr wythnos hon, byddwn yn parhau â'r sgwrs am newid yn yr hinsawdd drwy amlygu ymellach ar y gwaith parhaus o dan Brosiect Sero. Bydd ein pynciau'n canolbwyntio ar fwyd, trafnidiaeth gynaliadwy, seilwaith gwyrdd ac yn olaf y bobl y tu ôl i'r prosiectau.
Mae Aelodau eraill y Bwrdd yn cynnwys y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Lle a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â'n Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, Rheolwr Gweithredol ar gyfer Eiddo, Pennaeth Cyllid, Pennaeth Tai a Gwasanaethau Adeiladu a Phennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau.
Aelodau'r Bwrdd sy'n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cyflawni yn erbyn yr heriau yn y cynllun a'n bod ar draws y Cyngor yn gweithio fel tîm i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Addressing climate change has been identified as a key priority by our residents as well. As part of a programme of engagement around well-being in the Vale undertaken over the summer, we learnt that Vale residents not only value what the Vale has to offer in terms of its landscape and coastline but also that our environment is something that needs protecting at all costs.
Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd wedi cael ei nodi fel blaenoriaeth allweddol gan ein trigolion hefyd. Fel rhan o raglen o ymgysylltu ynghylch llesiant yn y Fro a gynhaliwyd dros yr haf, dysgom fod trigolion y Fro nid yn unig yn gwerthfawrogi'r hyn sydd gan y Fro i'w gynnig o ran ei thirlun a'i harfordir ond hefyd bod ein hamgylchedd yn rhywbeth sydd angen ei warchod ar bob cyfrif.
Felly, mae cynllun llesiant drafft y BGC a'n Cynllun Cyflawni Blynyddol ill dau wedi nodi mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd fel blaenoriaethau allweddol.
A bydd ein hamcanion o dan y ddau gynllun hyn yn ein helpu i gyflawni ein targedau prosiect sero.
Cadwch lygad ar Staffnet a'n cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon i ddysgu mwy am Wythnos Hinsawdd Cymru a Phrosiect Sero.