Staffnet+ >
Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr yng Gwasanaethau Tai ac Adeiladau'r Cyngor
Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr yng Gwasanaethau Tai ac Adeiladau’r Cyngor

Mae sawl aelod o'r tîm Tai wedi cwblhau cymwysterau academaidd lefel uwch yn y 18 mis diwethaf.
Ymhlith y llu o raddedigion newydd mae Christine Ball, a ymunodd â'r tîm Tai o Wasanaethau Oedolion, lle y bu'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Gofal yng Nghartref Preswyl Tŷ Dyfan yn y Barri.
Yn gyntaf, dechreuodd Chris weithio yn y tîm Rhenti fel prentis, gan gyfuno amser a dreuliodd yn gweithio yn y swyddfa a dysgu'r hanfodion gan gydweithwyr, ochr yn ochr ag astudio ar gyfer NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes.
Wrth sôn am y newid, dywedodd Chris: "Roedd fy ngwaith yn Nhŷ Dyfan yn rhoi boddhad mawr ond hefyd yn heriol iawn, ar ôl tair blynedd, roeddwn i'n teimlo bod yr amser yn iawn am newid. Pan welais i'r rôl Prentis Tai a Rhenti yn cael ei hysbysebu, roeddwn i'n teimlo y byddai'n gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd ac ymgymryd â her newydd."

Gwnaeth Chris fwrw iddi, gan ddysgu prif agweddau'r rôl yn gyflym iawn ac fe wnaeth ei gwaith caled a'i hymroddiad ei helpu i sicrhau swydd barhaol yn y tîm wrth iddi gwblhau gweddill ei hastudiaeth.
Arhosodd yr awydd am ddysgu ac yn ddiweddar cofrestrodd Chris i gwblhau cymhwyster lefel 4 mewn Rheoli Tai drwy'r Sefydliad Siartredig Tai.
"Gwnes i fwynhau dysgu ar gyfer fy lefel 3 yn fawr iawn, felly roedd y cyfle i astudio ar gyfer lefel 4 yn gam rhesymegol. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am dai ac rwy’n cydnabod pa mor bwysig yw hi i deuluoedd gael mynediad at dai diogel a fforddiadwy. Gobeithio y bydd y cymhwyster yn rhoi cyfle i mi ymgymryd â rolau eraill yn y tîm Tai".

Aelod arall o'r tîm Tai sydd wedi cwblhau cymhwyster yn ddiweddar yw Maria Loe. Mae Maria wedi bod yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Cymdogaeth yn y tîm Rheoli Tai.
Ar ôl gweithio yn y rôl am sawl blwyddyn roedd Maria yn teimlo bod yr amser yn iawn i brofi ei hun a chofrestru ar gyfer TGU mewn Tai.
Dywedodd Maria: "Treuliais fy mlynyddoedd ffurfiannol yn symud o gwmpas Ewrop gyda fy ngŵr oedd yn y fyddin, roedd hefyd yn gyfnod prysur yn magu dau o blant, felly roeddwn i'n meddwl efallai fy mod i wedi colli allan ar y cyfle i astudio.
"Aeth sawl aelod o’m teulu i'r Coleg ac ennill cymwysterau, ac roeddwn i wastad yn gwybod bod hyn yn rhywbeth gallwn i ei wneud. Felly roedd hi'n grêt cael y cyfle a phrofi i fi fy hun fy mod i'n gallu ei wneud e".
Pasiodd Mari y cwrs yn ddiweddar yn uchel iawn, gan basio'r holl fodiwlau gyda sgôr cyfartalog o 75%
"Roedd y rhan fwyaf o ddysgu yn ystod Covid o bell, ond gwnes i fwynhau'r profiad yn ogystal â gweithio gyda myfyrwyr eraill. Daeth yr aseiniadau’n helaeth ac yn gyflym, ac roedd weithiau'n anodd cwrdd â'r terfynau amser wrth gydbwyso swydd llawn amser ac ymrwymiadau teuluol, ond rwy'n falch o'r hyn rwyf wedi'i gyflawni, a bydd yn rhoi mwy o hyder i fi.
"Ydw i’n bwriadu parhau â'm dysgu? Dydw i ddim yn siŵr, rwy'n mwynhau'r amser gorffwys nawr ac yn dal i fyny ar arddio a mynd â’r ci am dro. Fodd bynnag, fyddwn i byth yn dweud byth, efallai af i yn ôl i lyfrgell y coleg yn y dyfodol!"
Ymhlith aelodau eraill y tîm sydd wedi cwblhau cymwysterau mae:
Natalie Paterson (Cydlynydd Busnes) - Gradd BA Busnes gyda Phrifysgol De Cymru ac wedi graddio eleni gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Dawn Bailey (Swyddog Cyswllt Tenantiaid) - TGU mewn Astudiaethau Tai. Cwrs gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Linzi Dibble (Swyddog Cyswllt Tenantiaid) - TGU mewn Astudiaethau Tai ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
David Davies (Syrfëwr Contractau) - BSc mewn gradd Rheoli Prosiectau Adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru.
Terry James (Saer Coed) - TGU mewn Arolygu Adeiladau ym Mhrifysgol De Cymru.