Gwobrau Gwasanaeth Hir – Sgwrs gyda Sharon Lewis

Sharon Lewis

Os colloch chi eitem newyddion staffnet+ yr wythnos diwetha', yn ddiweddar buom yn dathlu cydweithwyr ledled y Cyngor sydd wedi taro carreg filltir yn ddiweddar o naill ai 25 neu 40 mlynedd yn gweithio i lywodraeth leol.

Gwahoddwyd y rheiny sy’n cyrraedd 25 a 40 mlynedd o wasanaeth yn awtomatig i sesiwn a gyflwynwyd yn y Swyddfeydd Dinesig gan y Prif Weithredwr a'r Arweinydd i anrhydeddu'r gweithwyr am eu cyfraniad gwerthfawr yn ystod eu cyfnod yn y Cyngor.

Yn y sesiynau hyn, fe wnaethom siarad â sawl cyflogai i drafod y gwaith maen nhw'n ei wneud a sut mae gweithio yn y Fro wedi newid dros y blynyddoedd.

Ar gyfer y cyntaf o'n sgyrsiau, eisteddom gyda Sharon Lewis sydd wedi gweithio i lywodraeth leol ers dros 30 mlynedd, ar ôl gweithio i Gaerdydd, y Rhondda, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg erbyn hyn, lle mae hi bellach wedi gweithio ers dros 12 mlynedd.

Wrth sôn am ei gyrfa a sut mae wedi newid dros y blynyddoedd, dywedodd Sharon: Pan ddes i Fro Morgannwg am y tro cyntaf, roeddwn i’n teimlo bod croeso i fi yn syth a chefais wahoddiad i gael te gyda'r maer.

 "Dw i wastad wedi gweithio ym maes gwaith cymdeithasol. Dechreuais i drwy weithio am 10 mlynedd fel gweithiwr gofal, gan weithio mewn cartrefi gofal gwahanol ac yna penderfynais ennill fy nghymwysterau fel gweithiwr cymdeithasol, a wnes i barhau i weithio ym maes gofal."

"Mae'r gwaith wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Pan ddechreuais i doedd dim llawer o gartrefi gofal preifat, roedd y cartrefi yn cael eu gweithredu gan y Cyngor yn bennaf. Mae hyn wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Does gennym ni ddim llawer o gartrefi gofal Cyngor erbyn hyn, maen nhw'n breifat yn bennaf.

"Yn fy swydd i nawr, rwy'n asesu pobl mewn cartrefi gofal i gael cyllid. Rwy'n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr Iechyd i sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth wedi'i ariannu a gofal iechyd parhaus. Felly, rydym yn edrych ar gyllid ac yn sicrhau bod y preswylwyr yn ddiogel.

"Mae'n neis i deimlo eich bod chi wedi helpu pobl mewn gwirionedd. Yn fy swydd, rwy'n gallu rhoi gwybodaeth a chefnogaeth nad ydynt efallai wedi bod yn ymwybodol ohonyn nhw. Rwy’n credu yn ein hachos ni gyda'r cartrefi gofal, y preswylwyr fel yna, mae ganddyn nhw nyrsys a gweithwyr cymdeithasol yn gofalu amdanyn nhw a gwirio eu bod nhw'n ddiogel. Nid yn unig hynny ond rydyn ni'n sicrhau bod yr holl waith papur cywir yn cael ei wneud a cheisio datrys problemau cyn iddyn nhw godi.

"Dw i wastad wedi bod â pharch at bobl hŷn. Mae'n golygu trin pobl hŷn sut y byddwn i eisiau cael fy nhrin. Sicrhau eu bod nhw bob amser yn cael gofal ac yn cael eu trin ag urddas a pharch."

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i nifer o ddiwydiannau. Roedd y pandemig Covid yn cyflwyno heriau i lawer o weithwyr ledled y Sir, yn enwedig i weithwyr iechyd a gofal. Ystyriodd Sharon y cyfnod hwn o'i gwaith:

"Mae gweithio ym maes gofal wedi bod yn anodd dros y blynyddoedd diwethaf, yn gweithio drwy’r pandemig Covid, pan gafodd popeth ei gau. Roedden ni'n ei chael hi'n anodd iawn. Bu farw llawer o'r preswylwyr, yn anffodus.

"Do'n i ddim yn gallu mynd mewn i'r cartrefi gofal ar y pryd felly o'n i'n gorfod ffonio'r cartrefi gofal sawl gwaith yr wythnos, trio gwneud yn siŵr bod gan bob un ohonyn nhw y CDP oedden nhw angen a holi am y preswylwyr. Roedd yn emosiynol anodd oherwydd eich bod chi'n adnabod llawer o'r preswylwyr am flynyddoedd lawer. O weld y newid mae pobl wedi mynd trwyddo pan nad oedden nhw’n gallu gweld eu teuluoedd. Mae rhai elfennau yn dal ar gau ers Covid."

Cyflwynodd y gwobrau gwasanaeth hir gyfle i gyflogeion ystyried blynyddoedd a fu. Roedd y sesiwn yn cynnwys bwyd a diod a chwis.

"Doeddwn i ddim yn siŵr am ddod i'r gwobrau gwasanaeth hir a bod yn onest, roeddwn i'n meddwl y byddai'n ffurfiol iawn, ond rwy'n falch fy mod i wedi gwneud hynny.

"Dyma'r tro cyntaf i mi deimlo cydnabyddiaeth go iawn ac fy mod wedi cael rhywbeth fel hyn, hyd yn oed derbyn anrheg. Cefais fy synnu'n fawr pan ges i'r e-bost i ddweud bod hyn yn digwydd ac mae'n braf iawn cael y gydnabyddiaeth. Y Fro fu'r unig un i wneud hynny."