Staffnet+ >
Gwahodd staff i nodi pen-blwydd y rhyfel yn Wcráin
Gwahodd staff i nodi pen-blwydd y rhyfel yn Wcráin
Gwahoddir staff i ymuno ag Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, Maer Bro Morgannwg, Susan Lloyd-Selby, a phobl o amgylch y DU i nodi blwyddyn ers ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Mae munud o dawelwch i nodi’r pen-blwydd yn cael ei gynnal am 11am ddydd Gwener (Chwefror 24) ar draws y Wlad
Mae'n cynnig cyfle i fyfyrio ar y bywydau sydd wedi eu colli yn ystod y gwrthdaro hwnnw, talu teyrnged i bobl Wcráin a dangos cefnogaeth i'w hachos.
Bydd y Cyngor yn arsylwi'r achlysur hwn y tu allan i fynedfa flaen y Swyddfeydd Dinesig.
Dwedodd y Cynghorydd Burnett: "Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi syfrdanu'r byd wrth i ni wylio mewn arswyd y gwrthdaro ffyrnig, anghyfiawn a diangen sy'n parhau.
"Yma yn y Fro, rydym yn ymfalchïo mewn gwerthoedd fel goddefgarwch, derbyniad a thosturi ac mae ein meddyliau’n parhau’n gadarn gyda phobl Wcráin.
"Er mwyn dangos yr undod hwnnw, byddwn yn gofyn i staff ymuno â ni y tu allan i'r swyddfeydd Dinesig ddydd Gwener i ystyried effaith y rhyfel, y difrod y mae wedi'i wneud ac ailddatgan ein gwrthwynebiad llwyr iddo."