Y Rhwydwaith Amrywiol yn cynnal Partïon Gwylio

 

Mae Rhwydwaith Amrywiol Bro Morgannwg yn cynnal cyfres o 'Bartïon Gwylio' yn 2023.

Mae'r syniad wedi'i seilio ar lwyddiant Clwb Llyfrau’r Rhwydwaith Amrywiol y llynedd ond y tro hwn mae'r grŵp eisiau dod at ei gilydd i wylio ffilm.

Cynhelir y sesiwn gyntaf yn Ysgol Gynradd Holton ddydd Mercher 25 Ionawr rhwng 3pm a 4pm.

Y ffilm a ddewiswyd ar gyfer y sesiwn gyntaf hon yw cynhyrchiad BBC o'r enw 'Black and Welsh', lle mae'r gwneuthurwr ffilmiau Liana Stewart yn dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys actorion, comedïwyr, model a gwenynwr Rastaffaraidd, i rannu eu straeon am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddu ac yn Gymreig.

Ar ôl i’r ffilm orffen, byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn trafodaeth ar y ffilm a'i chynnwys.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch e-bost i Diverse@valeofglamorgan.gov.uk

Bwriedir cynnal sesiynau pellach ddydd Mercher 26 Ebrill a dydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023.

 

Ynglŷn â'r Rhwydwaith Amrywiol

Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.

Mae croeso i bob aelod o staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi ei genhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Diverse@valeofglamorgan.gov.uk.