Staffnet+ >
Chwalu rhwystrau i waith sydd yn wynebu ffoaduriaid
Chwalu'r rhwystrau i waith sy'n wynebu ffoaduriaid
Mae Y Pasbort Iaith – eich tocyn i weithio yn llwyfan ar y we sy'n cynnig gwybodaeth ac ymadroddion sy'n berthnasol i waith yn Saesneg, Wcreineg, Pashto, Dari ac Arabeg.
Fe'i cynlluniwyd i ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi ffoaduriaid i mewn i gyflogaeth. Mae'n gyflwyniad graddol a gafaelgar i ffoaduriaid i fyd gwaith - yn eu hieithoedd eu hunain.

Mae Y Pasbort Iaith – eich tocyn i weithio wedi'i ysbrydoli gan ffoaduriaid mentrus sydd wedi dweud wrthym eu bod wedi dod o hyd i swyddi penodol y gellir eu dechrau gyda Saesneg cyfyngedig. Ar ôl iddyn nhw ddechrau'r swyddi hyn mewn amgylchedd Saesneg ei iaith, maen nhw’n dysgu geiriau ac ymadroddion sy'n berthnasol i’r gwaith yn gyflym. Mae fel gwers drochi Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Yna gallan nhw ffynnu yn eu swyddi.
Yn yr un modd, rydym yn gobeithio dangos nad oes angen i Saesneg cyfyngedig fod yn rhwystr rhag dechrau rhai swyddi.
Mae Y Pasbort Iaith – eich tocyn i weithio mewn cyfnod treialu ar hyn o bryd; mae'r wefan yn cynnig gwybodaeth am ddwy swydd y gellir eu dechrau gyda Saesneg cyfyngedig: ceidwad tŷ mewn gwesty a cynorthwyydd manwerthu. Wrth gwrs, nid oes cyfyngiad ar y gwaith y gall ffoaduriaid ei gael gyda'r cymorth iawn.
Mae Gweithgor Arbenigol sy'n llywodraethu'r Pasbort Iaith - eich tocyn i weithio, gyda chynrychiolwyr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Ymfudo Strategol CLlLC Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru, Addysg Oedolion Cymru, Canolfan Ddysgu’r Fro a Gwasanaethau i Mewn i Waith Caerdydd. Ar hyn o bryd mae llawer o'r partneriaid hyn yn ein helpu i dreialu'r Pasbort Iaith - eich tocyn i weithio.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy y Fro yn cynnig ystod o gymorth cyflogadwyedd i ffoaduriaid o Wcráin ac Afghanistan. Os oes unrhyw un yn dymuno cyfeirio ffoadur i’r math hwn o gefnogaeth, defnyddiwch ein cyfeiriad e-bost C4W-Barry@valeofglamorgan.gov.uk.