Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 31 Mawrth 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
31 Mawrth 2023
Annwyl gydweithwyr,
Mae'n ymddangos bod yr wythnos hon wedi bod yn brysurach na'r rhan fwyaf sy’n golygu bod hyd yn oed mwy na'r arfer i’w grynhoi yn fy neges Ddydd Gwener!
Rwyf eisoes wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i chi ar waith sy'n cael ei wneud i uwchraddio ein system wybodaeth rheoli.
Ar ôl misoedd lawer o waith caled gan James Rees a'i dîm, mae'r prosiect hwn bellach bron â'i gwblhau, gydag Oracle Fusion yn cael ei gyflwyno o Ddydd Llun ymlaen.
Gellir defnyddio'r platfform cwmwl newydd hwn i weld a diwygio gwybodaeth bersonol unigolyn, nodi treuliau, cyrchu slipiau cyflog a llawer mwy.
Mae ei weithredu wedi'i ohirio ers mis Tachwedd er mwyn sicrhau bod ei holl swyddogaethau ar gael ac yn gweithio'n iawn.
Bydd Oracle Fusion yn cefnogi’r modd y bydd prosesau’r Adran Gyllid ac AD yn cael eu cyflawni, gan eu gwneud yn fwy hyblyg, a chynnig profiad hyd yn oed yn well i drigolion, staff a chyflenwyr.
Gan fod y system newydd wedi ei seilio ar y cwmwl, gall staff fewngofnodi ar ddyfeisiau gwaith a dyfeisiau personol gydag un set o fanylion, sy'n golygu nad oes angen cofio sawl cyfrinair.
Mae nifer o eitemau newyddion Staffnet+ wedi eu cyhoeddi dros yr wythnosau diwethaf yn tynnu sylw at rai o nodweddion pwysig Oracle Fusion yn ogystal â hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r system.
Mae gwybodaeth hefyd wedi'i ychwanegu at yr Oracle Hub, tra bod modd cyflwyno mwy o gwestiynau am y llwyfan newydd drwy e-bost.
Diolch i bawb a gymerodd ran am eu hymdrechion i'n helpu ni i gyrraedd y cam hwn. Rwy'n gwybod y bydd y system newydd yn welliant mawr. Diolch yn fawr iawn.
Ar nodyn trist, ymunodd Aelodau'r Cabinet, swyddogion a minnau â galarwyr ar gyfer angladd y cyn Gynghorydd Anne Moore ddoe.
Gyda thristwch mawr y dysgon ni am farwolaeth Anne ychydig wythnosau yn ôl.
Gwasanaethodd Anne fel Aelod Etholedig dros Ward Cadog am bron i 30 mlynedd, gan sefyll i lawr cyn yr etholiad diwethaf, ac roedd yn wraig i gyn-Arweinydd y Cyngor, Neil Moore.
Roedd y nifer a ddaeth yno ddoe yn tanlinellu ffigwr mor boblogaidd oedd Anne, y gwahaniaeth a wnaeth i fywydau pobl fel gwas cyhoeddus ac union faint y golled fydd ar ei hôl.
Unwaith eto, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Neil, Rhiannon a'u teulu cyfan yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mewn cyfarfod diweddar, bu cydweithwyr yn yr Uwch Dîm Arwain a minnau'n trafod ein Strategaeth Ymgysylltu newydd.
Ers Arolwg Staff yr haf diwethaf, mae Gemma Williams a'i thîm Adnoddau Dynol wedi bod yn adolygu ein hymagwedd at ymgysylltu mewn ymdrech i wneud cysylltiadau gwell rhwng cydweithwyr.
Roedd cyfradd ymateb yr arolwg yn dda ac roedd y canlyniadau'n dangos bod ymgysylltu ymhlith staff wedi gwella ers iddo gael ei fesur ddiwethaf yn 2018.
Fodd bynnag, mae wastad mwy y gellir ei wneud i gynnwys staff yn well wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau.
Mae rhywfaint o'r adborth a gafwyd o'r arolwg eisoes wedi'i roi ar waith, gyda newidiadau i'r Arfarniad Prif Swyddog y disgwylir iddo gael ei gyflwyno o 17 Ebrill.
Mae adolygiad hefyd i'r broses #itsaboutme yn mynd rhagddo, sy'n cynnwys mewnbwn gan grwpiau ffocws, ac mae disgwyl i welliannau gael eu cynnig yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ar ôl ystyried meddyliau’r UDA a Phenaethiaid Gwasanaeth, bydd cynllun gweithredu manwl nawr yn cael ei lunio ac a fydd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut all cydweithwyr gymryd rhan.
Mae'r Strategaeth Ymgysylltu yn cysylltu â'r Strategaeth Pobl, sydd wedi'i datblygu i ddisodli'r hen Strategaeth Adnoddau Dynol.
Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd wedi i adroddiad gael ei ystyried gan y Cabinet fis diwethaf.
Wedi'i alinio â'n Cynllun Corfforaethol, ein Hamcanion Llesiant a’r Pum Ffordd o Weithio, nod y Strategaeth Pobl yw creu amgylchedd gwaith sydd wedi ei adeiladu ar gynhwysiant, ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd.
Ei thair thema ganolog yw: Ailgynllunio ar gyfer Ymatebolrwydd, Gyrru Profiadau Gweithwyr, ac Ymdrechu at Berfformiad Uchel.
Rydym am adeiladu ar lwyddiannau a gafwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol rhwng cydweithwyr mewnol ac allanol.
Yn ogystal â gwybodaeth am gynlluniau ar gyfer gweithio hybrid a dyddiadau allweddol pan fydd canlyniadau'n cael eu cyflawni, mae’r Strategaeth Pobl hefyd yn cynnwys manylion Polisi Gwirfoddoli’r Cyngor.
Y nod yw cefnogi prosiectau elusennol a chymunedol ac mae'n cynnig cyfle i staff neilltuo un diwrnod gwirfoddol y flwyddyn i helpu gyda mentrau o'r fath.
Eisoes mae'r gweithgarwch yn y maes hwn wedi dechrau yn sgil sefydlu Hyrwyddwyr Llesiant y Cyngor.
O dan y faner honno, mae'r tîm wedi cynllunio nifer o weithgareddau o fewn ein Parciau Gwledig. Yn y diweddaraf o'r rhain bu cydweithwyr, gan gynnwys aelodau o'r Tîm Etholiadau, yn plannu 170 o goed ifanc yn Cosmeston a bydd mwy o waith ar hyd trywydd tebyg maes o law.
Ddydd Mawrth, ymunais ag Arweinydd y Cyngor ar ymweliad gwirioneddol ysbrydoledig â Thŷ Hafan.
Yn ystod ein hymweliad cawsom daith lawn o amgylch y safle, taith i lygad y ffynnon i weld y cyfleusterau gwych sydd ar gael yno. Cawsom gipolwg hefyd ar y gwaith gwych sy'n digwydd yno hefyd.
Gwelsom y budd o gael cyfleuster mor fendigedig ym Mro Morgannwg a'r lleoliad gwych sy'n helpu i'w wneud yn unigryw iawn.
Mae gofalu am ein plant a'r rhai sy’n agored i niwed ar frig ein rhestr flaenoriaethau fel Cyngor.
Gyda hynny mewn golwg, rwy'n falch iawn ein bod yn un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru a fydd yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o ganol mis nesaf.
Mae hynny'n golygu ein bod unwaith eto yn cyflawni uwchlaw targedau Llywodraeth Cymru.
O Ebrill 24, bydd pob plentyn o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 sy'n mynychu ysgol yn y Fro yn cael pryd dyddiol heb orfod talu amdano.

Mae hynny eto yn rhagori ar y ddarpariaeth a nodir yng ngham dau cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru, sy'n anelu rhoi pryd ysgol am ddim i bob disgybl o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Ym mis Medi, pan oedd Llywodraeth Cymru am i brydau ysgol am ddim fod ar gael i bob disgybl Dosbarth Derbyn, fe wnaeth y Cyngor hefyd gynnwys disgyblion blynyddoedd 1 a 2.
Mae'r Fro hefyd wedi gweld y nifer uchaf yng Nghymru i fanteisio ar Brydau Ysgol am Ddim.
Gellir cynnig y ddarpariaeth ar y raddfa hon, diolch yn bennaf i lwyddiant y Big Fresh Catering Company a'i fodel busnes arloesol.
Mae gweithredu fel endid masnachol ar ffurf Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol yn golygu bod pob gwarged yn cael ei ddychwelyd i ysgolion neu ei fuddsoddi nôl yn y busnes ei hun.
Yn ogystal ag ariannu'r rhaglen prydau ysgol am ddim, mae arian o'r busnes wedi mynd at dalu i gefnogi prosiectau ysgol a chymunedol.
Mae’ hefyd wedi mynd tuag at fuddsoddi mewn cynhwysion o ansawdd gwell a noddi grwpiau cymunedol fel timau pêl-droed a chlybiau celf.
Da iawn i Trevor Baker, Carole Tyley a phawb sy'n ymwneud â Big Fresh – mae'r fenter yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Ddoe, cysylltodd staff Gwasanaethau Gofalwyr Di-dâl â chydweithwyr o'n Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol i lwyfannu digwyddiad ar gyfer gofalwyr di-dâl.

Dros de prynhawn, bu modd i bobl nad ydynt yn weithwyr proffesiynol, ac sy'n gofalu am rywun, ddod i wybod am gyfleoedd datblygu yn ogystal â chefnogaeth ariannol a chymorth arall sydd ar gael iddyn nhw.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri, ac roedd hefyd yn rhoi cyfle i unigolion gymysgu ag eraill mewn sefyllfa debyg a rhannu profiadau.
Roedd sefydliadau sy'n darparu cyfarpar arbenigol, addasiadau i'r cartref, hyfforddiant dysgu a sgiliau yn bresennol hefyd i siarad am y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig.
Da iawn James Livingstone, Jenny Ringstead a chydweithwyr am drefnu. Ni allaf ond ymddiheuro am beidio â gallu treulio mwy o amser gyda chi gan fod yn rhaid i mi fynychu angladd Anne Moore, ond er hynny roedd yn wych galw heibio am gyfnod byr i weld drosof fy hun werth y digwyddiad.
Fe glwyd James hyd yn oed ar Radio Bro yn ei hyrwyddo. Ymdrech benigamp!
O ran rhaglenni radio, fe gafodd Lynne Clarke sylw ar y Sara Cox Show yr wythnos hon yn sgil y gwaith mae hi wedi'i wneud i wella cwrt y Swyddfeydd Dinesig a'r fynedfa i C1V.

Enwebwyd Lynne ar gyfer Gwobr Sara gan ei chydweithiwr yn y Ganolfan Gyswllt, Sue Jones.
Mae'r gwobrau'n cydnabod pobl sydd wedi trawsnewid ardaloedd fu gynt yn lefydd cyffredin iawn yn fannau gwyllt a lliwgar.
Fel y soniodd Sue yn ei henwebiad: "Mae Lynn wedi creu ardaloedd hardd, bendigedig sy'n dda i wenyn, dôl wyllt fach iawn a gwesty i bryfed.
"Maen nhw'n rhan fach o baradwys lle gall gweithwyr fwynhau'r blodau.
"Mae hi wedi troi hen deiars yn flychau planhigion, wedi paentio cerrig ac ailgylchu potiau.
"Mae hi wedi plannu llwyni rhosod a hyd yn oed wedi codi arian ar gyfer mainc goffa i gydweithwyr sydd wedi ein gadael.
"Mae hi wir wedi dod â heulwen a blodau i'r lleoedd yma ac wedi gwneud i mi wenu.
"Diolch am yr holl waith yna a dy galon enfawr."
Hoffwn drosglwyddo fy niolchgarwch diffuant innau hefyd am yr holl waith caled y mae Lynn wedi'i wneud.
Mae anhunanoldeb ac ymrwymiad o'r fath ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig gan staff, ond yn amlwg mae wedi cael effaith enfawr ar gydweithwyr, yn enwedig ar Sue.
Diolch yn fawr iawn Lynne – mae'r hyn rydych chi wedi'i wneud yn anhygoel.
Dwi'n gobeithio bod gorffen ar y nodyn yna yn rhoi pawb mewn hwyliau da cyn y penwythnos.
Beth bynnag sydd wedi'i gynllunio gennych, mwynhewch ychydig ddyddiau o hamdden a gorffwys.
Diolch i chi hefyd am eich ymdrechion yr wythnos hon – cânt eu gwerthfawrogi'n fawr bob amser.
Diolch yn fawr iawn,
Rob